Mynd i'r cynnwys

Gwledda gyda Gareth Ward: Bwydlen Michelin gyda Cig Oen Cymru

By Amelia

Mae Gareth yn cael ei ddisgrifio gan lawlyfr Michelin fel “gwirioneddol angerddol dros gig, gan ei drin â gwybodaeth a gofal”, ac mae’n cael ei enwi’n rheolaidd fel un o’r cogyddion mwyaf cyffrous sy’n coginio yn y DU heddiw. Ei fwyty Ynyshir Restaurant and Rooms sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yng Nghymru gyfan, … Continued

Cyngor campus i’ch helpu bachu fargen yn eich siop cigydd lleol

By Amelia

Mae’n werth ymweld â’ch siop gigydd lleol lle gallwch gael bargeinion gwych yn ogystal ag awgrymiadau a chyngor. Dyma rai o’n hawgrymiadau gorau i’ch helpu i wneud y gorau o’ch taith i’r cigyddion.   Swmp brynu Os oes gennych ddigon o le yn eich rhewgell, mae’n werth prynu hanner cig oen a’i rewi mewn darnau … Continued

Sut i arbed arian gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

By Amelia

Gyda chostau byw yn codi, gall gwybod ble i dorri costau a sut i gyllidebu yn unol â hynny fod yn her. Fodd bynnag, dylai ein hiechyd a’n lles fod yn brif flaenoriaeth bob amser. Mae bwyd maethlon yn hanfodol ar gyfer iechyd da a dylem wastad ymdrechu i fwyta’n dda a phrynu’r bwyd gorau … Continued

Amser grilio! Argraffiad yr arbenigwyr.

By Amelia

Cyngor tanbaid gan Hywel Griffith… Mae Hywel Griffith, prif gogydd bwyty Beach House, Oxwich yn ffan enfawr o Gig Oen Cymru. O ran coginio cig oen ar y barbeciw (neu mewn ysmygwr), mae Hywel yn credu ei fod yn ‘benthyg ei hun yn hollol berffaith’. Mae ysgwydd neu frest yn fwyaf addas ar gyfer coginio … Continued

Mwynhewch ochr ysgafnach Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

By Amelia

Does dim byd tebyg i ginio rhost Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru gyda’r trimins i gyd. Does dim curo chwaith ar bryd swmpus o bourguignon Cig Eidion Cymru gyda thatws stwnsh poeth neu bastai’r bugail Cig Oen Cymru â saws Morocaidd sbeislyd. Fodd bynnag, oeddech chi’n gwybod y gallech chi hefyd fwynhau ochr … Continued

Cyri a sbeis a phopeth sy’n neis

By Amelia

Gadewch inni fynd â chi ar daith goginio ar hyd y llwybr sbeis gyda phrydau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. O sbeisys ysgafn i brydau poeth a sbeislyd, mae’r ryseitiau hyn yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Ysgafn a melys Mae cyris ysgafn yn aml yn cael eu gwneud yn fwy hufennog gyda … Continued

Prynu’n lleol. Meddwl yn fyd-eang gyda Chig Eidion Cymru.

By Amelia

Er eu bod nhw’n flasus iawn, mae cymaint mwy i Gig Eidion Cymru na byrgyrs, stêcs a chinio dydd Sul – mae mor hyblyg! Darganfyddwch flasau newydd o bedwar ban y byd ar eich antur goginio gyda’n detholiad gwych o fwyd y byd. Chewch chi mo’ch siomi, mae hynny’n sicr. Blasu’r byd o’ch cartref   … Continued

Her Dyn(es) Haearn ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Haearn y Byd

By Amelia

Yn arwain at Wythnos Ymwybyddiaeth Haearn y Byd – sy’n cychwyn ar 14 Hydref, fe wnaethom partneri gyda Adelé Nicoll, athletwr elitaidd o Gymru, i dynnu sylw at bwysigrwydd haearn o fewn diet cytbwys ac i arddangos buddion maethol cig coch Cymru fel ffynhonnell wych o haearn. Mae cig coch sy’n cael ei fwydo gan … Continued

Taniwch y barbeciw gyda chebabs Cig Oen Cymreig sbeislyd

By Amelia

Dathlwch wythnos genedlaethol y BBQ ( 3ydd – 9fed Mehefin) Eleni, mae’r 3ydd – 9fed Mehefin yn nodi’r 28ain Wythnos Genedlaethol Barbeciw – wythnos o ddathlu hoff brofiad bwyta’r wlad yn ystod yr haf. Mae barbeciw nid yn unig yn gyfle i wneud y gorau o’r heulwen neu i gael ffrindiau a theulu o gwmpas, … Continued

Bioamrywiaeth: Sut mae’r Ffordd Gymreig o ffermio yn arwain y ffordd o ran creu ecosystemau iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

By Amelia

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datgan mai 22 Mai yw’r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Amrywiaeth Fiolegol (IDB) er mwyn cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion bioamrywiaeth. Wrth gwrs, Cymru yw un o’r lleoedd mwyaf cynaliadwy ar y ddaear i gynhyrchu cig coch, ac mae ffermwyr Cymru yn arwain y ffordd o ran cynyddu bioamrywiaeth ar eu … Continued

Ffermwyr Cig Eidion Cymru yn arwain y ffordd mewn ffermio cynaliadwy

By Amelia

Mae teulu sydd yn ffermio gwartheg ar gyfer bridio yng Ngogledd Cymru wedi amlygu sut mae gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata yn eu helpu i wneud arbedion effeithlonrwydd a bod yn fwy cynaliadwy, wrth reoli eu hôl troed carbon a gwella bioamrywiaeth ar draws eu tir. Wedi’i leoli ar gyrion Llanrwst mae Moelogan Fawr, … Continued

Cig Eidion Cymru yn hybu llwyddiant athletwyr gorau Cymru

By Amelia

Rydym i gyd yn ymwybodol mai’r ffordd orau o fyw bywyd iach yw i bwyta diet cytbwys, maethlon a chael digon o ymarfer corff. Mae Cig Eidion Cymru yn llawn maetholion a chan ei fod yn llawn dop o fitaminau a mwynau hanfodol, gall diet cytbwys gyda chig coch heb lawer o fraster yn gwreiddiol … Continued

5 ffordd gyda chig eidion rhost

By Amelia

Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor amlbwrpas y gall Cig Eidion Cymru fod, ac yn y cyfnod cyn Wythnos Cig Eidion Prydain Fawr (23ain – 30ain Ebrill), roeddem yn meddwl ei fod yn gyfle gwych i arddangos rhai o’n hoff ryseitiau cig eidion rhost, gan ddangos iddych sut i wneud y rhan fwyaf … Continued

Ysbrydoliaeth ryseitiau Pasg

By Amelia

Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth ryseitiau blasus ar gyfer penwythnos Gŵyl Banc y Pasg sydd yn ddod, yna rydych chi yn y lle iawn! Mae gennym ni detholiad anhygoel o’r ryseitiau Cig Oen Cymru mwyaf blasus – o brydau cyflym a hawdd i ganol yr wythnos i prydau trawiadol o Gig Oen Cymru a … Continued

Dydd Gŵyl Dewi: ‘Gwnewch y pethau bychain’

By Amelia

Mae diwrnod cyntaf mis Mawrth yn ddiwrnod arbennig yng Nghymru wrth i ni dalu teyrnged i’n nawddsant, Dewi Sant. Mae plant ysgol yn gwisgo i fyny mewn gwisgoedd o hanes a thraddodiad hir Cymru. Mae rhai plant yn cael eu hysbrydoli gan arwyr hanesyddol fel Owain Glyndŵr – neu am olwg fwy modern – crys … Continued

Ffermio ar Garth Uchaf

By Amelia

Darllenwch yr erthygl cyfan am Fferm Garth Uchaf yma. Mae Mynydd y Garth yn gefndir i’r ffermwr Ben Williams ac ymrwymiad parhaus ei deulu i arferion ffermio cynaliadwy sy’n cynhyrchu’r Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gorau. Mae eu harferion ffermio yn dangos parch diysgog tuag at yr amgylchedd ac ymroddiad i ddarparu cig … Continued

Fferm Pen y Gelli: Gweithio gyda natur i feithrin y borfa

By Amelia

Gyda chefndir trawiadol cadwyn mynyddoedd Eryri a chipolwg disglair o’r Fenai ysblennydd, mae Fferm Pen y Gelli wedi’i lleoli ychydig y tu allan i dref hanesyddol Caernarfon, gogledd Cymru. Yma mae Alwyn Phillips yn ffermio ei 200 o ddefaid Poll Dorset a 200 o ddefaid Texel, ynghyd â 30 o wartheg pedigri Limousin ac un … Continued

Dysgu o’r gorffennol, paratoi ar gyfer y dyfodol

By Amelia

Ar ucheldiroedd y canolbarth, mae Emily Jones a’i rhieni yn defnyddio arbenigedd a drosglwyddwyd gan genedlaethau o dreftadaeth ffermio i gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus. “Beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig lan fan hyn yw dyw e ddim yn cael ei wthio, mae’n naturiol iawn. Mae’n byw ar y … Continued

Ffermio cynaliadwy ar dir hynafol gyda golygfeydd trefol

By Amelia

Ar gyrion prifddinas Cymru, Caerdydd, mae bryn mawr. Fodd bynnag, nid bryn cyffredin mo hwn. Dyma un o fryniau mwyaf hanesyddol ac enwog de Cymru. Mae gan Fynydd y Garth, sy’n cynnwys pedair tomen gladdu o’r Oes Efydd, olygfeydd panoramig pellgyrhaeddol sy’n edrych dros Fannau Brycheiniog, ac ar ddiwrnod clir, cyn belled â Gwlad yr … Continued

Caru Cig Oen? Byddwch mewn cariad â Wythnos Caru Cig Oen

By Amelia

Gyda naws y gwyliau’n diflannu, ac wrth i’r barbeciws brinhau, mae wythnos gyntaf mis Medi yn cyrraedd gydag Wythnos Caru Cig Oen! I ddathlu’r arddangosfa hon o gig oen blasus sy’n para wythnos (1-7 Medi), beth am roi cynnig ar ein ryseitiau Cig Oen Cymru godidog. O brydau cyflym a syml i’r teulu i brydau … Continued

Gwneud y gorau o amgylchedd heriol

By Amelia

O dan yr awyr dywyll, wlyb, gorwedd tir eang gyda bryniau tonnog, yn frith o goed, a darnau o goetir hyd at y gorwel. Fil o droedfeddi uwch lefel y môr, gallech feddwl eich bod ar ben y byd, wel Ceredigion, canolbarth Cymru, o leiaf. Mae ucheldiroedd y canolbarth yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, … Continued

Unigryw i Gymru. Arbenigwyr yn eu maes.

By Amelia

Unigryw i Gymru. Arbenigwyr yn eu maes. Gyda lansiad ein hysbyseb deledu, sydd wedi’i ffilmio yn nhirwedd odidog Eryri, mae’n gyfle da i ddysgu ychydig mwy am stori’r fferm sydd yn yr hysbyseb. Y llynedd aethom â’r cogydd blaenllaw, Francesco Mazzei, sydd wedi bod yn gefnogwr brwd o Gig Oen Cymru ers degawdau, i ymweld … Continued

Ffermwyr yn serennu mewn ymgyrch

By Amelia

Mae’r cogydd â seren Michelin Nathan Davies o fwyty arobryn SY23 yn Aberystwyth wedi lansio ymgyrch Cig Oen Cymru PGI newydd gyda dosbarth meistr coginio yn Sioe Frenhinol Cymru. Bydd yr ymgyrch, a fydd yn cynnwys cymysgedd o deledu proffil uchel, gweithgareddau allanol a digidol ledled y wlad, yn gosod arbenigedd y ffermwyr sy’n cynhyrchu’r … Continued

Wythnos Cig Eidion Prydain 2023

By Amelia

Bydd Wythnos Cig Eidion Prydain yn dathlu ei 13eg flwyddyn yr wythnos hon (23-30 Ebrill), gan dynnu sylw at arbenigedd ffermio blaenllaw ffermwyr Prydain. Mae Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) yn talu teyrnged i ffermwyr lleol Cymru am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd wrth helpu ffermio ym Mhrydain i fod ymysg y mwyaf … Continued

Rhowch hwb iach i’ch hun yn y ffordd naturiol…

By Amelia

Ydych chi weithiau’n teimlo ychydig yn ddi-hwyl am ddim rheswm amlwg? Gallai lleddfu blinder a gwella eich lles cyffredinol fod mor syml â bwyta diet amrywiol a chytbwys.   Gall cig coch fel rhan o ddiet iach a chytbwys wneud cyfraniad pwysig at gymeriant maetholion fel haearn a sinc. Mae hefyd yn darparu protein o … Continued

Dyma eich traddodiad Nadolig newydd…

By Amelia

Ydych chi mewn ychydig o bicl Nadoligaidd? Ydy twrci ar eich bwydlen Nadolig ond dydy meddwl amdano ddim yn eich cyffroi rhyw lawer? Gan eich bod chi yma ac eisoes yn chwilfrydig, beth am archwilio ein prydau Nadoligaidd blasus – mae gennyn ni ddigon i’w ddangos i chi. A chofiwch, does dim rhaid cael twrci … Continued

Ewch amdani gyda’n cystadleuaeth Cig Eidion Cymru

By Amelia

Efallai ei bod hi’n amser rhyfedd o’r flwyddyn iddo ddigwydd, ond mae bwrlwm y bêl gron yn berwi. Mae Cymru’n paratoi i wneud eu hymddangosiad cyntaf yn y ffeinals mewn 64 mlynedd, felly rydyn ni’n cymryd rhan drwy lansio ein cystadleuaeth newydd ar thema pêl-droed. Yn union fel pos cylchgrawn neu bapur newydd hen ffasiwn, … Continued

Ewch i grwydro i bedwar ban byd gyda Chig Eidion Cymru PGI

By Amelia

O glasuron teuluol cyfarwydd fel lasagne a chilli con carne i’r prydau mwy anarferol ac egsotig o leoliadau llai cyfarwydd, mae Cig Eidion Cymru PGI yn dyrchafu unrhyw bryd i’r lefel nesaf. Mae Cig Eidion Cymru yn faethlon ac mae iddo flas unigryw, ond oeddech chi’n gwybod bod ganddo rinweddau eraill hefyd? Wel, y newyddion … Continued

Byw’n iach heb fawr o strach gyda’r Scarlets

By Amelia

Oes gan eich plentyn freuddwydion o chwarae rygbi proffesiynol, sgorio cais ym Mharc y Scarlets neu ennill cap dros Gymru? Rydym wedi bod yn gweithio gyda staff academi y Scarlets ac mae’n debyg mai’r gyfrinach i wireddu’r freuddwyd yw ymarfer corff rheolaidd a deiet maethlon, cytbwys. Ers wythnosau bellach, mae ein tîm wedi bod yn … Continued

Cyfle i ennill profiad ciniawa bythgofiadwy

By Amelia

Hoffech chi flasu bwyd nad ydych erioed wedi’i flasu o’r blaen, wedi’i baratoi ar eich cyfer gan un o gogyddion mwyaf llwyddiannus y wlad, ac aros yn un o leoliadau mwyaf prydferth Cymru? Rydyn ni’n rhoi’r cyfle i chi ennill swper i ddau a llety am noson yn un o fwytai mwyaf unigryw’r DU, Bwyty … Continued

Beth sy’n gwneud y byrgyr caws perffaith?

By Amelia

Wyddoch chi fod rhai pethau hollbwysig i’w hystyried wrth fynd i’r afael â’r bwyd brys hwn? Wnaiff llenwi rôl fara sych gyda phati cig, sleisen o gaws a joch o sos coch mo’r tro. Felly, gwnewch y pethau sylfaenol yn gywir ac rydych ar eich ffordd i efelychu mawredd y byrgyrs blasus ym mwyty Ansh … Continued

Goreuon barbeciw Cig Oen Cymru Chris ‘Flamebaster’ Roberts

By Amelia

Ydych chi’n barod am fwyd tanllyd? Taniwch y gril. Cydiwch yn eich offer. Mae’n bryd cofleidio’r blas ‘Flamebaster’ anhygoel. Rydyn ni wedi casglu ryseitiau barbeciw Cig Oen Cymru gorau Chris at ei gilydd i chi roi cynnig arnynt yn ystod yr haf. O gydweithio gyda hen ffrindiau i gyfeillgarwch newydd, gwyliwch Chris wrth iddo rannu … Continued

Y ffordd Gymreig o ffermio: dyma sut rydyn ni’n mynd ati

By Amelia

Pan ddaeth ein ‘Cig-gennad’ newydd a’r cogydd blaenllaw o Lundain, Francesco Mazzei, i un o’n ffermydd mynydd Cig Oen Cymru yng ngogledd Cymru, roedd yn ei atgoffa o’i gartref yn Calabria, de-orllewin yr Eidal. Ag yntau’n gredwr cryf mewn ‘syml ond effeithiol’, darganfu Francesco fod y ffordd Gymreig o ffermio hefyd yn ymwneud â chadw … Continued

Cipio gwobr gyda gwledd gig gofiadwy

By Amelia

Aeth y cogydd barbeciw a seren y sgrin Chris ‘Flamebaster’ Roberts draw i gartref yng Ngwynedd yn ddiweddar i goginio gwledd wych fel rhan o gystadleuaeth flasus dros ben. Bwriad her boblogaidd Brechdan i’r Brenin 2 oedd gwahodd pobl i greu eu brechdan stêc ddelfrydol, ac roedd mwy o gategorïau a gwobrau nag erioed, yn … Continued

Clasuron Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi

By Amelia

Mae Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn cael ei ddathlu bob blwyddyn yng Nghymru wrth i ni dalu teyrnged i’n nawddsant mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys plant yn gwisgo cennin neu wisg draddodiadol Gymreig neu gynnal eisteddfodau a mwynhau bwyd traddodiadol fel cawl Cig Oen Cymru, bara brith neu gaws pob. Yn ôl y … Continued

Yr wyth ysbrydoledig sy’n profi bod Cig Oen Cymru yn wych

By Amelia

Mae ein casgliad rhithwir o ryseitiau eisoes yn llawn dop o’n hoff brydau Cig Oen Cymru, sy’n profi bod Cig Oen Cymru yn hynod o hyblyg. Ond wrth gwrs, gan ei fod yn ffolder rhithwir, mae ‘na wastad le i ambell un arall. Felly eleni rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â rhai … Continued

Newid hinsawdd a’r ‘Ffordd Gymreig’ o ffermio

By Amelia

Er bod effaith amaethyddiaeth ar newid hinsawdd yn bwnc llosg ar hyn o bryd, mae’n bwysig cofio bod amrywiadau enfawr yn effaith amgylcheddol gwahanol systemau ffermio ledled y byd, gyda Chymru yn arbennig o addas ar gyfer magu gwartheg a defaid. Ac er bod amaethyddiaeth yn gyfrifol am 10% o allyriadau yn y DU, mae … Continued

Prydau Cig Oen Cymru penigamp gyda Francesco Mazzei

By Amelia

Rydym yn dathlu Wythnos Caru Cig Oen 2021 mewn steil gydag antur fwyd fydd yn tynnu dŵr o’r dannedd, wrth i ni gyfuno ein Cig Oen Cymreig gyda’r gorau o fwyd Eidalaidd i greu prydau penigamp sy’n asio’r gorau o’r ddwy wlad. Y cogydd o fri Francesco Mazzei fydd yn eich tywys trwy ein cyfres … Continued

Ysgol haf gyda’r plant

By Amelia

Cyn bo hir, bydd hi’n amser dechrau casglu gwisgoedd ysgol a deunydd ysgrifennu newydd. Felly beth am anfon y plant yn ôl i’r ysgol gyda sgil newydd hefyd? Mae dysgu coginio’n ffordd wych o ddefnyddio sgiliau mathemateg a darllen – mae hefyd yn addysgu plant sut mae tymereddau uchel ac isel yn effeithio ar rai … Continued

Haf hirfelyn tesog yng nghwmni Cig Oen Cymru

By Amelia

Mae hi wedi bod yn flwyddyn (a mwy!) hir, ond wrth i gyfyngiadau ddechrau llacio eto, efallai eich bod chi’n meddwl ei bod yn hen bryd gwahodd eich teulu a ffrindiau draw am ychydig o fwyd ac ambell ddiod. A be well i ddod a phawb ynghyd yn yr haf na barbeciw yn y tywydd … Continued

Gwledd o Gig Oen Cymru

By Amelia

Allan o’r cyfnod clo ac wedi rhedeg allan o syniadau? Peidiwch â phoeni gan fod y cogydd arobryn Gareth Ward o Fwyty ag Ystafelloedd Ynyshir yma i’ch helpu chi i greu prydau Cig Oen Cymru cofiadwy ar gyfer y digwyddiad arbennig ‘na y mae disgwyl mawr amdano. Ar 1 Awst, ac i ddathlu Calan Oen, … Continued

5 rysait Cig Eidion Cymru gwych ar gyfer Sul y Tadau

By Amelia

Syniadau ar gyfer ryseitiau Cig Eidion Cymru ar gyfer Sul y Tadau Felly, chi wedi prynu’r cerdyn, falle anrheg bach hyd yn oed, ond beth am wneud Sul y Tadau’n fwy arbennig fyth i’ch tad drwy baratoi pryd cartref o Gig Eidion Cymru? Wrth i’r cyfyngiadau symud lacio unwaith eto mae Sul y Tadau eleni … Continued

Pario gwinoedd gwych gyda Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

By Amelia

Codwch wydraid’ i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru Mae Wythnos Gwin Cymru, ffefryn blynyddol yn y calendr coginio, yn cael ei chynnal eleni ar 4 – 13 Mehefin. Gyda nifer o weithgareddau ac erthyglau, mae Wythnos Gwin Cymru yn rhoi cyfle i bawb ddysgu mwy am winoedd a gwneuthurwyr gwin Cymru yn y … Continued

Ewch yn wyllt gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

By Amelia

Mae mis Ebrill yn amser delfrydol i fynd allan i’r awyr agored a dechrau fforio. Er bod fforio wedi bod yn ffordd i bobl oroesi ers milenia, heddiw mae mwy o bobl yn gwneud y gorau o bantri natur, gyda digonedd o bethau i’w casglu o wrychoedd, coetiroedd a glan y môr. Mae fforio’n ffordd … Continued

Parau perffaith Cig Eidion Cymru

By Amelia

Mae gan Gig Eidion Cymru PGI ddyfnder blas mawr ac mae’n hysbys ei fod yn mynd yn dda gyda marchruddygl a mwstard. Ond oeddech chi’n gwybod bod gan gig eidion sawl cymar coginio arall sy’n gallu ychwanegu haenau newydd o flas, a phan gaiff ei goginio mae ganddo flas umami unigryw?  Dyma’r blasau sy’n mynd … Continued

Pwyll pia hi gyda Chig Oen Cymru

By Amelia

Mae pawb yn gwybod na allwn ni reoli’r tywydd – ac allwn ni ddim chwaith newid ffactorau allanol eraill sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Fodd bynnag, gallwn ni weithio gyda’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar hyd y ffordd, yn hytrach nag yn eu herbyn nhw. Yn y cyfnod eithriadol hwn, mae’n bwysicach … Continued

Cogydd gwerth ei halen yn cefnogi cig lleol o Gymru

By Amelia

Rydyn ni’n hynod gyffrous o wiethio gyda’r cogydd o fri, Tom Simmons, ar ein hymgyrch ddiweddaraf i dynnu sylw at bwysigrwydd prynu cig o ffynonellau lleol y Nadolig hwn. Mae Tom, sydd wedi bod wrth y llyw yn Tom Simmons Tower Bridge yn Llundain ers 2017, wedi dychwelyd i Gymru yn ddiweddar ac wedi agor … Continued

Ewch i ysbryd yr Ŵyl gyda Chig Oen Cymru!

By Amelia

Efallai y byddwn ni’n cael ein cyfyngu y Nadolig hwn o ran nifer y bobl y gallwn ni goginio ar eu cyfer o dan yr un to, ond ddylai hynny mo’n hatal ni rhag mwynhau Cig Oen Cymru o safon!  A pha ffordd well o ddathlu Cig Oen Cymru na rhoi statws haeddiannol iddo ar … Continued

Cyfle i ennill hamper stêc Cig Eidion Cymru premiwm

By Amelia

Enillwch hamper stêc Cig Eidion Cymru premiwm! Wrth i’r nosweithiau fyrhau, mae’n werth cael ambell rysáit hawdd sy’n codi calon ar flaenau eich bysedd, onid yw hi? A beth sy’n cynnig mwy o gysur na golwg, sain ac arogl stecen yn hisian ar noson ddiflas? O ffiled sy’n toddi yn eich ceg i syrlwyn a … Continued

Cig Oen Cymru yn derbyn sylw gan gogydd teledu yn ystod Wythnos Gyrri

By Amelia

Mae’n Wythnos Gyrri ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda’r Cogydd Todiwala, sy’n ffefryn ar sioeau coginio ar y teledu ac sy’n adnabyddus am ei ddawn anhygoel wrth ddefnyddio sbeisys i greu blas. Mae Cyrus, sydd hefyd yn teimlo’n angerddol na ddylid defnyddio ond y cynhwysion gorau posib, gan gynnwys defnyddio’r cig coch … Continued

Rhowch drefn ar eich sbeisys – mae’n Wythnos Genedlaethol Cyri!

By Amelia

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, pan mae’r tymheredd yn gostwng tu allan, dyma’r bwyd delfrydol i’ch cynhesu ar y tu mewn.  Does dim amheuaeth, mae’n flasus, ond yn ogystal, mae’r broses o goginio cyri yn un bleserus.  O falu’r sbeisys mewn pestl a morter i’r aroglau arbennig sy’n codi o’r garlleg, sinsir, winwns a … Continued

Mwynhewch fwyta’n iach gyda Cig Oen Cymru PGI

By Amelia

Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig i ni edrych ar ôl ein hunain a sicrhau ein bod ni’n gwneud y gorau y gallwn i gadw’n iach ac yn hapus. Yn gyffredinol, mae angen ymarfer corff rheolaidd, digon o gwsg, cadw’n hydradol trwy yfed digon o ddŵr a dilyn deiet iach a chytbwys a fydd … Continued

John Torode yn ‘Mynd Amdani’ gyda Chig Oen Cymru

By Amelia

Rydyn ni wrthi’n cydweithio gyda’r cogydd enwog John Torode i hyrwyddo hyblygrwydd ac ansawdd ein cig oen blasus, lleol. Mae’r ymgyrch ‘Cig Oen – Beth Amdani?’, sy’n rhedeg drwy gydol mis Medi a mis Hydref, yn tynnu sylw at fanteision iechyd, amgylcheddol a chynaliadwyedd cig oen a fagwyd yn lleol. Felly, pan welwch chi logo … Continued

Wythnos Caru Cig Oen yn dechrau gyda BAM

By Amelia

Pwll Tân. Sbeis. Eryri. Cig Oen Cymru yw hwn, yn llawn agwedd. I ddathlu Wythnos Caru Cig Oen eleni (01-07 Medi), mae ein llysgennad Cig Oen Cymru Chris ‘Epic’ Roberts a’i ffrind Lee Tiernan o fwyty Black Axe Mangal yn Llundain, y ddau’n gwirioni ar fwyd, wedi uno i greu cyfres o ryseitiau fideo newydd … Continued

Ewch i gael blas ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol newydd

By Amelia

Ydych chi’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng syrlwyn ac ystlys las neu goes a lwyn? Mae aelodau arbenigol ein Clwb Cigyddion yn gallu gwneud hynny’n iawn a gallan nhw eich helpu chi i ddewis y toriadau a’r darnau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI gorau. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan hollbwysig … Continued

Cyfle tanbaid!

By Amelia

Mae’r haf wedi cyrraedd Cymru. Efallai y bydd ambell gawod law ond ni ddylai hynny ddifetha ein hwyliau! Beth bynnag, mae tipyn o law yn dda i’n glaswellt sydd … sydd hefyd yn help mawr i greu blas hyfryd ein Cig Oen Cymru PGI. Felly pan fyddwch chi (a’r haul) yn mentro allan, beth am … Continued

Cyhoeddiad enillydd #BrechdanIrBrenin

By Amelia

Efallai y byddai rhai yn dweud nad yw’n bosib gwella ar frechdan stêc Cig Eidion Cymru; mae’n flasus ond yn syml, a’r cig eidion yn ganolog iddi. Fodd bynnag, ar ôl llwyth o gynigion ar gyfer ein Her Brechdan Stêc ddiweddar, mae’n ymddangos bod y frechdan stêc syml wedi ysbrydoli nifer ac wedi cyrraedd lefel … Continued

Cartref newydd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

By Amelia

I gyd-fynd â’r tymor Cig Oen Cymru newydd, rydyn ni wedi diweddaru ein gwefan fel ei bod yn haws i chi fynd o’i chwmpas, rhoi llawer mwy o gyngor gwych gan gogyddion, cigyddion ac arbenigwyr eraill i chi ac yn bwysicach fyth wrth gwrs, rhoi hyd yn oed mwy o ryseitiau Cig Oen Cymru a … Continued

Cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer #BrechdanIrBrenin

By Amelia

Mae rhai wythnosau wedi pasio bellach ers i Chris ‘Flamebaster’ Roberts osod yr her o gynhyrchu y frechdan stêc Cig Eidion Cymreig PGI orau erioed! Yn ystod y cyfnod cystadlu cawsom lwyth o gynigion gwych gan bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt, yn hen ac ifanc, yn selebs yn ogystal â’r cyhoedd. … Continued

Y frechdan stêc – Poblogaidd ym mhob cwr o’r byd

By Amelia

Efallai ein bod ni’n meddwl mai o Brydain y daw’r frechdan, ond mae’n cael ei bwyta gan bobl o bedwar ban y byd – o Asia i’r Americas. Mae brechdan stêc yn aml yn cael ei hystyried fel brenin y brechdanau – a thrwy ddefnyddio Cig Eidion Cymru PGI yn eich un chi gallwch greu … Continued

Allwch chi greu ‘brechdan i’r brenin’?

By Amelia

Mae Chris ‘Flamebaster’ Roberts, brenin y barbeciw am osod her epig i CHI – creu brechdan stêc Cig Eidion Cymru PGI sy’n tynnu dŵr o’r dannedd. Mae Chris yn enwog am ei brydau llawn cig, felly fe yw’r beirniad perffaith ar gyfer cystadleuaeth fwyaf blasus yr haf! Am ychydig o ysbrydoliaeth ac arweiniad, yn ogystal … Continued

Dysgu coginio yng nghegin Elwen

By Amelia

Yn ystod y cyfnod dyrys hwn pan fo ein symudiadau’n cael eu cyfyngu, mae mwy o amser gennyn ni i’n hunain, ac mae hynny’n cynnwys ein plant sy’n gorfod aros adref o’r ysgol ar hyn o bryd. Mae ymdrechu i barhau eu haddysg a hefyd, yn bwysicach fyth, trio eu diddanu o gwmpas y tŷ … Continued

Hwyl ar y fferm

By Amelia

Gyda’r plant bellach adref o’r ysgol yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, bydd eu diddanu tra’n parhau â’u haddysgu o yn aruthrol o bwysig. Beth bynnag yw eu hoedran, gall coginio gynnig cymaint i bob plentyn o sgiliau mewn mathemateg a darllen yn ogystal â sgiliau bywyd gwerthfawr. Mae gennym ystod eang o syniadau am … Continued

Unigryw i Gymru…

By Amelia

Ers canrifoedd, mae ffermwyr da byw Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth greu a chynnal y tirweddau gwledig anhygoel o brydferth sydd mor agos at ein calonnau. Mae eu rheolaeth gynaliadwy wedi helpu creu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n ferw o fywyd gwyllt ac yn addas i ymwelwyr. Mae hefyd yn cynnal rhwydwaith o ardaloedd gwarchodedig … Continued

Stori Alun – ffermio mewn cytgord gyda natur

By Amelia

Er gwaethaf straeon gan y cyfryngau i’r gwrthwyneb, mae’n wir mai Cymru yw un o lefydd mwyaf cynaliadwy’r byd i gynhyrchu cig coch o safon uchel sy’n cael ei fagu’n foesol. Fel rhan o’n hymgyrch sy’n amlygu’r rôl hanfodol mae ein ffermwyr yn ei chwarae wrth gynnal a chadw’r amgylchedd coeth a’r tirweddau prydferth sydd … Continued

#TanYnEichBol gyda’r Scarlets a Chig Eidion Cymru

By Amelia

Rydyn ni wedi ymuno â thim rygbi’r Scarlets fel rhan o’n hymgyrch #TanYnEichBol i hyrwyddo buddion Cig Eidion Cymru fel rhan o fywyd iach ac egnïol. Bydd y bartneriaeth yn gweld chwaraewyr yn gwaredu eu capiau sgrym ac yn gwisgo eu ffedogau coginio i greu ryseitiau Cig Eidion Cymreig blasus a maethlon sy’n deilwng o … Continued

Dyfarnwr rygbi rhyngwladol yn cael ei gryfder gan Gig Eidion Cymru

By Amelia

Gan fod y Ffair Aeaf yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, penderfynon ni fynd amdani gyda’n gweithgareddau ac roedd amserlen lawn dop o arddangosiadau coginio (sydd wastad yn boblogaidd), dosbarthiadau meistr bwtsiera a chystadleuthau coginio. Yng nghanol yr holl fwrlwm, does dim amheuaeth pwy oedd seren y sioe wrth i ddyfarnwr rygbi’r undeb … Continued

Beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig?

By Amelia

Fel y gwyddoch i gyd erbyn hyn, rydym yn eithaf unllygeidiog wrth feddwl mai Cig Oen Cymru yw’r gorau yn y byd! Felly, i fod yn deg fe benderfynon ni ymweld â phump o brif gogyddion Prydain i gael golwg fanlyach ar yr hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor unigryw a pham maen nhw’n ei … Continued

Cig Oen Cymru PGI a blas ar y bywyd braf…

By Amelia

Aethon ni i sawl digwyddiad, gŵyl ac archfarchnad yn ystod yr haf, i arddangos y gorau o Gig Oen Cymru ac yn bwysicach oll, cyfarfod nifer ohonoch chi ar hyd y ffordd. Yn sicr, un o’r uchafbwyntiau oedd ymweld â gŵyl The Good Life Experience ym Mhenarlâg, Sir y Fflint. Yn yr heulwen hyfryd cawson … Continued

Mae Cwpan Rygbi’r Byd wedi cyrraedd!

By Amelia

A ninnau ynghanol Cwpan Rygbi’r Byd, mae ganddon ni gystadleuaeth arbennig sy’n rhoi cyfle i’n cefnogwyr ennill pêl rygbi fach sydd wedi eu harwyddo gan gyn chwaraewr Cymru, Shane Williams. I fod â chyfle o ennill un o’r gwobrau gwych yma, y cyfan sydd angen gwneud yw cofrestru i dderbyn cylchlythyr misol Teulu Cig Oen Cymru PGI … Continued

Pobl ddylanwadol ym myd bwyd yn mwynhau danteithion Gŵyr

By Amelia

Er mwyn paratoi at Galan Oen 2019 gwahoddon ni bobl ddylanwadol o’r byd blogio bwyd i Benrhyn Gŵyr am ddiwrnod llawn antur i arddangos tarddiad a threftadaeth Cig Oen Cymru. Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad â Hugh Phillips Gower Butchers, a roddodd ddosbarth meistr ar sut i fwtsiera cig oen, ac egluro rhinweddau’r gwahanol ddarnau … Continued


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025