facebook-pixel

‘Cig-gennad’ Francesco Mazzei yn rhannu ei arbenigedd ar Gig Oen Cymru

Gor 19, 2022

Mae’r cogydd teledu adnabyddus, Francesco Mazzei, wedi’i enwi fel ‘Cig-gennad’ newydd ymgyrch Cig Oen Cymru PGI ar gyfer 2022.

“Rydw i wedi fy nghyfareddu gan Gig Oen Cymru, felly pan ges i’r cyfle i weld drosof fy hun sut mae ffermwyr Cymru yn gofalu am eu diadelloedd, beth mae’r ŵyn yn ei fwyta a ble maen nhw’n treulio’u diwrnod, mae wedi gwneud i mi ei werthfawrogi hyd yn oed yn fwy.

 

Rydw i wrth fy modd yn coginio gyda Chig Oen Cymru oherwydd y blas ac mae’n arbennig o frau. Mae’n dda gwybod bod cynnyrch o’r safon hwn ar garreg fy nrws, ac mae’n stori wych i’w hadrodd i’m cwsmeriaid a’m cogyddion pan fyddaf yn fy mwyty yn Llundain.”

Parhawch i ddarllen ar am gynghor campus o’r meistr ei hun, ond peidiwch anghofio rhoi cynnig ar rhai o’i ryseitiau blaenorol, gan gynnwys ragout Cig Oen Cymru, peli burrata Cig Oen Cymru, ysgwydd fornarina Cig Oen Cymru, ossobuco Cig Oen Cymru, golwyth Milanese Cig Oen Cymru, stiw brest Cig Oen Cymru a choes mwstard Cig Oen Cymru.

Cynghorion campus Cig Oen Cymru Francesco

Sut i adnabod cig oen o safon: wrth brynu cig oen, cadwch lygad am gig sy’n fwy pinc na choch. Yn gyffredinol, mae hyn yn dangos bod yr anifail wedi cael gofal da. Rhowch gynnig ar ei rysáit involtini Cig Oen Cymru wedi’u ffrio.

Sut i serio cig oen: mae serio’n ffordd wych o gael lliw cychwynnol ar gig, yn ogystal â gwella ei flas a chloi’r holl sudd hyfryd i mewn. Os ydych chi’n defnyddio blawd i orchuddio’r cig, peidiwch â defnyddio gormod – mae ysgeintiad bach yn ddigon.

Wrth serio toriadau fel siancod, efallai y byddwch yn sylwi ar lawer o fraster yn y badell. Peidiwch â phoeni oherwydd gallwch gael gwared ar y braster gormodol wrth orffen coginio. Dwi’n hoffi defnyddio’r braster yma yn lle menyn i serio’r cig gan ei fod yn rhoi blas ychwanegol. Rhowch gynnig ar ei rysáit siancen Cig Oen Cymru wedi’i brwysio gyda risotto.

Sut i neud selsig cig oen: mae angen i selsig arddull Calabria aeddfedu am ddau i dri diwrnod. Gallwch wneud rhai eich hun gyda Chig Oen Cymru. Dwi’n defnyddio ychydig o friwgig porc i wneud gwead y selsig yn feddalach, ond os nad ydych eisiau defnyddio porc, gallwch socian bara gwyn mewn gwin gwyn neu laeth a defnyddio hwnnw yn lle. Gallech hefyd wneud peli cig, neu ragù, allan o’r cig selsig. Rhowch gynnig ar ei rysáit selsig Cig Oen Cymru gyda polenta a ffa cannellini Tysganaidd.

Sut i goginio cig oen ar dymhered isel: mae Cig Oen Cymru yn arbennig o frau a dwi’n hoffi coginio ysgwydd ar wres isel am ychydig oriau. Mae coginio’r cig heb gaead hefyd yn rhoi canlyniadau golosgedig rhyfeddol, gan ychwanegu dyfnder lliw, carameleiddiad a blas anhygoel. Rhowch gynnig ar ei rysáit piadina mozzarella Cig Oen Cymru wedi’i rhwygo.

Cynhwysion perffaith gyda cig oen: mae Cig Oen Cymru yn mynd yn dda iawn gyda llawer o brydau ochr. Dwi’n hoffi ei weini gyda polenta hufennog, tatws stwnsh, a risotto. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd eich amser i wneud risotto, fel rheol mae’n cymryd 18-20 munud, a dylai’r stoc fod yn ferwedig. Yn yr Eidal, rydyn ni’n gorffen y risotto gyda menyn a chaws Grana Padano, a dyna rydyn ni’n ei alw’n ‘mantecare’ – hufenedd arbennig.

Mae dresin hefyd yn cyd-fynd yn dda gyda Chig Oen Cymru, yn enwedig gyda blasau cryf, siarp. Yn yr Eidal, gremolada rydyn ni’n ei roi ar ben ein ossobuco. Mae’n gorffen y pryd cig oen yn hyfryd a bydd yn ei godi ychydig ac yn torri trwy ychydig o’r cryfder. Gallwch weld holl ryseitiau Francesco ar ei dudalen dathlu Cig Oen Cymru – y ffordd Eidalaidd.

Dyma Francesco yn siarad am ei gariad tuag at Gig Oen Cymru…

Share This