facebook-pixel

Cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer #BrechdanIrBrenin

Gor 3, 2020

Mae rhai wythnosau wedi pasio bellach ers i Chris ‘Flamebaster’ Roberts osod yr her o gynhyrchu y frechdan stêc Cig Eidion Cymreig PGI orau erioed!

Yn ystod y cyfnod cystadlu cawsom lwyth o gynigion gwych gan bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt, yn hen ac ifanc, yn selebs yn ogystal â’r cyhoedd. Rydym, o’r diwedd, wedi cael cyfle i astudio’r cyfan ac yn barod i rannu gyda chi’r tri chynnig y mae Chris wedi eu dewis ar gyfer y rhestr fer lle bydd yn ail greu y brechdanau cyn dewis yr enillydd terfynol.

Bydd un o’r tri lwcus yn ennill ein prif wobr, crochan tân Kadai gwreiddiol ynghyd ag ategolion gwerth dros £400 yn ogystal â thaleb o £100 i’w wario ar Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gan un o aelodau ein Clwb Cigyddion.

Dyma’r tri ddaeth i’r brig:

Shawarma stec llygad yr asen Simon Turner

Gwledd stec llygad yr asen Wagyu Llio Angharad a Nicky Batch

Brechdan surdoes â stêc bravette sbeislyd y Migrating Chef

 

Diolch yn fawr iawn i bawb a gystadlodd, gobeithio eich bod wedi mwynhau creu a bwyta’ch brechdanau anhygoel tra’n helpu i arddangos stêcs Cig Eidion Cymru ar eu gorau.

Dyma rai o’n hoff ddarnau o’r gystadleuaeth:

Share This