facebook-pixel

Newid hinsawdd a’r ‘Ffordd Gymreig’ o ffermio

Tach 3, 2021

Er bod effaith amaethyddiaeth ar newid hinsawdd yn bwnc llosg ar hyn o bryd, mae’n bwysig cofio bod amrywiadau enfawr yn effaith amgylcheddol gwahanol systemau ffermio ledled y byd, gyda Chymru yn arbennig o addas ar gyfer magu gwartheg a defaid.

Ac er bod amaethyddiaeth yn gyfrifol am 10% o allyriadau yn y DU, mae hyn yn llai na’r sectorau trafnidiaeth a busnes. Ond nid cystadleuaeth mo hon. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae.

Pam mae Cymru yn wahanol?

Nid yw’r ffordd Gymreig o ffermio’n ddwys i raddau helaeth: yn wahanol i rannau eraill o’r byd, lle mae adnoddau dŵr yn brin neu lle mae llawer o dir yn cael ei ddefnyddio i dyfu bwyd anifeiliaid, mae defaid a gwartheg Cymru yn cael eu magu i raddau helaeth iawn ar ein hadnoddau naturiol – glaswellt a dŵr glaw.

Mae topograffi a thirwedd Cymru yn ffafrio system gynhyrchu glaswelltir. Mae’r mwyafrif helaeth (80%) o dir ffermio Cymru yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, felly, magu gwartheg a defaid yw’r ffordd fwyaf effeithlon i droi tir ymylol yn fwyd o ansawdd uchel.

Beth am yr allyriadau carbon?

Mae glaswelltir bryniau Cymru yn dal carbon o’r atmosffer, ac mae ffermwyr da byw Cymru yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at liniaru newid yn yr hinsawdd; gan reoli’r glaswelltir trwy gyfuno arferion traddodiadol gydag arloesedd newydd. Eu nod yw cadw’r carbon o dan y ddaear mewn sinciau carbon naturiol.

Peidio â gadael i’r glaswellt dyfu o dan eu traed…

Mae ein ffermwyr da byw yng Nghymru yn gwybod bod effeithiau newid hinsawdd yn real iawn. Ac er yr adroddir bod amaethyddiaeth yn cyfrannu at ddim ond un rhan o ddeg o allyriadau’r DU, a bod ein bryniau yng Nghymru yn doreithiog o adnoddau naturiol, mae ein ffermwyr ymhell o fod yn hunanfodlon.

Dyma pam mae ein ffermwyr yn gwneud newidiadau ar eu ffermydd ac yn dangos eu hymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gwyliwch sut maen nhw’n helpu’r amgylchedd a’r rolau maen nhw’n eu chwarae yn y stori gynaliadwyedd.

Share This