facebook-pixel

Ewch i ysbryd yr Ŵyl gyda Chig Oen Cymru!

Rhag 4, 2020

Efallai y byddwn ni’n cael ein cyfyngu y Nadolig hwn o ran nifer y bobl y gallwn ni goginio ar eu cyfer o dan yr un to, ond ddylai hynny mo’n hatal ni rhag mwynhau Cig Oen Cymru o safon!  A pha ffordd well o ddathlu Cig Oen Cymru na rhoi statws haeddiannol iddo ar y bwrdd bwyd Nadoligaidd.

Mae darn mawr o gig oen yn ddewis amgen gwych i dwrci ac oherwydd ei hyblygrwydd, gellir ei fwynhau fel sbarion.  (Ond melys moes mwy, felly efallai y byddwch yn gorffen y cyfan mewn un sesiwn!)

Mae’r darn coes blasus hwn o Gig Oen Cymru, wedi’i rostio a’i frasteru mewn jin a sudd llugaeron a’i weini gyda rhoddion bach o winwns coch wedi’u pobi a’u stwffio â chig selsig cig oen, yn gwneud gwledd dymhorol berffaith.  Gweinwch gyda thatws rhost, llysiau tymhorol a suddion y llugaeron, jin a chig.  Mor flasus.

Beth sy’n well na chaserol Cig Oen Cymru poeth wedi’i weini â thatws stwnsh hufennog ar ddiwrnod oer o aeaf? (Na, nid jôc cracer Nadolig yw hon…) Caserol Cig Oen Cymru â sbeisys y Nadolig, wrth gwrs!  Mae hwn yn bryd gwych ar gyfer y gaeaf sy’n gallu cael ei ystyried yn wledd Nadoligaidd steilus.  Mae’n addas i’w goginio yn y ffwrn neu’r popty araf, gan roi cyfle i chi wneud pethau pwysicach fel bwyta mins peis, agor anrhegion…

Share This