facebook-pixel

5 rysait Cig Eidion Cymru gwych ar gyfer Sul y Tadau

Meh 18, 2021

Syniadau ar gyfer ryseitiau Cig Eidion Cymru ar gyfer Sul y Tadau

Felly, chi wedi prynu’r cerdyn, falle anrheg bach hyd yn oed, ond beth am wneud Sul y Tadau’n fwy arbennig fyth i’ch tad drwy baratoi pryd cartref o Gig Eidion Cymru?
Wrth i’r cyfyngiadau symud lacio unwaith eto mae Sul y Tadau eleni yn debygol o fod yn fwy teimladwy nag erioed, felly beth well i roi gwên ar ei wyneb!
Dyma ein 5 dewis o brydau Cig Eidion Cymru arbennig i’w demtio:

 

1. 1. Os mai cyri sy’n mynd â’i fryd, ein Madras Cig Eidion Cymru yw’r un i chi. Gwych gyda llwyaid o iogwrt a thipyn o goriander wedi’i dorri’n fân. Gweiniwch gyda reis a salad wedi ei wneud gyda tomato wedi’i ddeisio, ciwcymbr a nionyn coch. Mae hefyd yn addas i’w wneud yn y coginiwr araf, felly gallwch ei adael i goginio tra eich bod yn treulio amser gyda Dad!

 

2. Cig eidion, caws, sglodion – beth gewch chi well? Mae ein Sglodion brisged Cig Eidion Cymru llawn dop yn hawdd a chyflym i’w gwneud ac yn ffordd wych o ddefnyddio brisged dros ben. Dim ond salad gwyrdd syml sydd ei angen i fynd gyda hwn. Penigamp!

 

3. Edrych am rywbeth gwahanol i’w wneud gyda stêc sirloin? Beth am drio nhw wedi eu gorchuddio mewn briwsion bara a’u sleisio’n denau mewn Katsu Cig Eidion Cymru? Sleisys creisionllydo stec wedi’u brownio mewn saws cyri Siapaneaidd. Hyfryd gyda reis gludiog, salad neu coleslaw.

 

4. Ydy’ch tad ar goll hebei stêc o’i hoff fwyty? Dewch a’r bwyty ato fe! Mae Ffiled Cig Eidion Cymru tonnau a’r tir Gareth Ward yn siŵr o blesio. Cig eidion wedi’i golosgi gyda chorgimychiaid menyn garlleg ar ei ben. Gweinïwch y gampwaith yma gyda llysiau gwyrdd, ac i orffen, ysgeintiwch ychydig o sialóts wedi’u piclo wedi’u sleisio’n fân drosto – i roi rhywfaint o asidedd a chrensiad i’r bwyd. Perffaith.

 

5. Neu gallwch wastad ddewis yr hen glasur, brenin prydau Sul y Tadau, darn o Gig Eidion Cymru gyda chrwst perlysiau. Gellir ei weini gyda bron i unrhywbeth; llysiau wedi’u rhostio, pwdinau Swydd Efrog, grefi… eich penderfyniad chi!

 

Y cwestiwn mawr yw, fydd e’n dewis y cyfoes neu’r traddodiadol?

Am fwy o ryseitiau Cig Eidion Cymru, cliciwch yma

Share This