facebook-pixel

Cig Eidion Cymru yn hybu llwyddiant athletwyr gorau Cymru

Ebr 19, 2024

Rydym i gyd yn ymwybodol mai’r ffordd orau o fyw bywyd iach yw i bwyta diet cytbwys, maethlon a chael digon o ymarfer corff. Mae Cig Eidion Cymru yn llawn maetholion a chan ei fod yn llawn dop o fitaminau a mwynau hanfodol, gall diet cytbwys gyda chig coch heb lawer o fraster yn gwreiddiol iddo ein helpu ni trwy gydol ein bywydau i gadw’n heini ac yn iach. Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi’i goginio bob wythnos fod yn ganolog i ddiet iach a chytbwys.

Yn ddiweddar, buom yn trafod pwysigrwydd cynnwys cig coch heb lawer o fraster yn eich diet gyda dau o athletwyr gorau Cymru, a sut mae ymgorffori Cig Eidion Cymru yn eu diet wedi helpu i danio eu llwyddiannau aruthrol.

 

athletwr paralympaidd Aled Daveies OBE Aled Davies OBE

Yn 2005 gwahoddwyd Aled gan Chwaraeon Anabledd Cymru i roi cynnig ar athletau gyda grŵp o Baralympiaid elitaidd a chododd faen taflu a disgen am y tro cyntaf. Erbyn hyn bu’n bencampwr byd deirgwaith ac enillodd fedal aur Paralympaidd deirgwaith hefyd. Yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 enillodd fedal aur am daflu disgen F42 ac mae hefyd wedi ennill medal aur am daflu disgen F42 yn Llundain 2012, taflu maen F42 yn Rio 2016 a maen F63 yn Tokyo 2020.

 

“Am fy mod yn athletwr elitaidd, mae maeth yn bwysig iawn o ran yr hyn rydw i’n ei fwyta – yn enwedig cyn cystadleuaeth fawr – ac rydw i wrth fy modd â sbageti bolonês da! Mae’n llawn dop o brotein a haearn o friwgig Cig Eidion Cymru heb lawer o fraster…hyfryd!”

 

athletwraig cymraeg Hannah BrierHannah Brier

Yn 2022 bu Hannah yn cystadlu yn ei hail Gemau Cymanwlad a gynhaliwyd yn Birmingham, lle cymerodd ran yn rasys 100m a 200m y merched. Hefyd, torrodd record 100m Cymru yn ystod haf 2022, gan osod amser newydd o 11.33. Dim ond 16 oed oedd Hannah pan fu’n cystadlu yn ei Gemau Cymanwlad cyntaf yn Glasgow yn 2014, lle rhedodd yn y ras gyfnewid 100m a 4 x 100m. Mae ganddi 16 record Gymreig ar hyn o bryd!

 

“Mae sbageti bolonês wastad wedi bod yn un o fy hoff ryseitiau. Mae’n ffordd hawdd iawn o gael llawer o brotein, carbohydradau a llysiau da. Mae hefyd yn rysáit ddefnyddiol iawn i’w rhannu’n sawl dogn – sy’n golygu fod gen i brydau parod pan dwi wedi blino gormod i goginio ar ôl ymarfer. Mae maeth yn rhan fawr o’m llwyddiant fel athletwraig ac mae gwneud prydau fel y Bolognese Cig Eidion Cymru hwn yn hawdd, yn iach ac yn flasus.”

 

 

A oes awydd ganddych i wneud eu sbag bol hynod hawdd a bwyta fel athletwr elitaidd? Cliciwch yma am y rysáit llawn.

 

Gall Cig Eidion Cymru chwarae rhan hanfodol mewn diet iach a chytbwys– i ddysgu mwy ewch i’n hadran iechyd a maeth benodol ar y wefan

Share This