facebook-pixel

Rhowch dân o dan eich barbeciw yr haf hwn gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

Gor 4, 2022

Mae’r haf wedi cyrraedd a does dim byd mwy blasus na golygfeydd, synau ac aroglau bwyd da yn sïo ar farbeciw – cymaint felly, fel bod wythnos gyfan wedi’i neilltuo yn y dyddiadur bwyd i ddathlu’r math tanllyd hwn o goginio.

Eleni, bydd Wythnos Genedlaethol Barbeciw yn dathlu ei phen-blwydd yn 26 oed rhwng 4 a 10 Gorffennaf, felly beth am ymuno, estyn eich ffedog, cydio yn eich offer coginio a grilio, grilio, grilio!

Gwnewch hi’n werth aros yn y barbe-ciw…

Wrth benderfynu beth i’w grilio ar y barbeciw, allwch chi ddim mynd o’i le gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Er bod golwythion a byrgyrs yn wych ar gyfer y barbeciw, gallwch chi wastad fod yn fwy anturus.

Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn hyblyg iawn ac yn arbennig o flasus wedi’i goginio ar y barbeciw. Beth am roi rhywbeth ychydig yn fwy cyffrous i’ch ffrindiau a’ch teulu i giwio ar ei gyfer yr haf hwn!

Gallwch greu argraff ar eich gwesteion gyda stêcs a saladau safonol, byrgyrs bendigedig a koftas a cebabs creadigol. I gael ychydig o ysbrydoliaeth, edrychwch ar ein ryseitiau barbeciw (link to recipes).

Griliwch yn gampus

Dyma ambell awgrym barbeciw defnyddiol:

  • Paratowch yn iawn: gwnewch yn siŵr fod y barbeciw a’r offer grilio’n lân cyn dechrau coginio. Cofiwch baratoi / marinadu bwyd ymlaen llaw.
  • Amserwch bethau’n iawn: gadewch i’r tân losgi o leiaf 30 munud cyn dechrau coginio. Mae’n barod pan fydd y fflamau wedi gostegu a’r glo yn llwydwyn gyda gwrid coch oddi tano.
  • Hwb i’r blas: yn ogystal â marinadu bwyd, mae ychwanegu naddion pren derw neu hicori at y siarcol yn ychwanegu blas. Mae perlysiau hefyd yn gweithio, fel sbrigiau o rosmari sydd hefyd yn gallu dyblu fel sgiwerau!
  • Coginiwch yn hyderus: gwiriwch fod y cig wedi’i goginio’n drylwyr cyn ei weini. Bydd thermomedr cig yn rhoi sicrwydd ychwanegol i chi.
  • Byddwch yn amyneddgar gyda’ch byrgyrs: peidiwch â phwyso i lawr ar fyrgyrs wrth eu coginio gan y bydd hyn yn gwasgu’r sudd blasus allan, gan arwain at fyrgyr sych. Yn ogystal, bydd y braster yn diferu ar y glo, gan greu fflamau ac yn y pen draw llosgi’ch bwyd.
  • Byddwch yn ddiogel: gosodwch y barbeciw oddi wrth adeiladau a pheidiwch byth â defnyddio tanwydd i oleuo’r barbeciw. Arhoswch gyda’r barbeciw pan fydd plant yn bresennol.

Am ragor o ryseitiau ac awgrymiadau grilio gan arbenigwyr, ewch i’n tudalen barbeciw.

Share This