facebook-pixel

Eich cyfle i ennill hamper stêc Cig Eidion Cymru o’r radd flaenaf!

Chw 11, 2022

Sut ydych chi’n hoffi eich stêc?

Dyna rydyn ni’n ei ofyn wrth i ni lansio tudalen newydd sbon sy’n benodol ar gyfer stêc. Ac i ddathlu’r dudalen newydd rydym yn cynnal cystadleuaeth arbennig sy’n cynnig cyfle i dri pherson lwcus ennill bocs stêc Cig Eidion Cymru PGI o’r radd flaenaf gwerth £100 gan eu haelod Clwb Cigyddion agosaf.

O ffiled i sirloin, mae llawer o fathau gwahanol o stêc i ddewis ohonynt. Ond un peth sy’n parhau i achosi dadl yw pa mor hir y dylid ei goginio os am gael y profiad stêc gorau posibl?

Gyda’r gwahaniaeth barn rhwng y rhai sy’n ei hoffi prin wedi ei goginio a’r rheiny sy’n ei hoffi wedi ei wneud yn dda mor danllyd ag erioed, rydym yn gofyn sut ydych chi’n hoffi’ch un chi er mwyn bodâ siawns o ennill. Y cyfan sydd angen i chi wneud yw tagio ffrind o dan un o’n negeseuon cystadleuaeth Facebook neu Instagram a rhoi gwybod i ni sut rydych chi’n hoffi eich stêc chi, a gallech fod yn un o dri enillydd lwcus y wobr arbennig yma!

Mae gan ein tudalen stêc bwrpasol newydd sbon yr holl ysbrydoliaeth sydd ei angen ar gyfer eich profiad stêc Cig Eidion Cymru eich hun. Boed chi’n chwilio am bryd cyflym wedi’i dro-ffrio neu rhywbeth ar gyfer achlysur arbennig – dyma’r lle i chi.

Telerau ac Amodau Llawn yma.

Share This