facebook-pixel

Ewch yn wyllt gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

Ebr 21, 2021

Mae mis Ebrill yn amser delfrydol i fynd allan i’r awyr agored a dechrau fforio.

Er bod fforio wedi bod yn ffordd i bobl oroesi ers milenia, heddiw mae mwy o bobl yn gwneud y gorau o bantri natur, gyda digonedd o bethau i’w casglu o wrychoedd, coetiroedd a glan y môr.

Mae fforio’n ffordd wych o ddarganfod blasau newydd (ac mae am ddim!) ond dylech bob amser fforio’n gyfrifol, a gwneud eich ymchwil yn drylwyr ymlaen llaw. Wedi’r cyfan, gall rhai ffyngau a llystyfiant bwytadwy a geir yn y gwyllt fod â nodweddion tebyg i fathau gwenwynig.

Mae garlleg gwyllt yn un o’r bwydydd gwyllt hawsaf i’w adnabod â’i flodau gwyn tebyg i seren a’i ddail gwyrdd hir, pigfain, llachar ac mae ganddo arogl garllegog cryf. Mae’n tyfu mewn amgylcheddau cysgodol, llaith fel coetir. Ond byddwch yn ofalus – o bellter gall edrych fel lili’r dyffrynnoedd, sydd â blodau siâp cloch ac sy’n wenwynig, felly peidiwch â chymysgu rhwng y ddau!

Mae dail a blodau garlleg gwyllt yn flasus mewn brechdanau, cawliau, saladau a gorau oll, maen nhw’n mynd yn dda gyda’n Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru naturiol. Cymerwch gip ar fwrdd ein cogydd am ysbrydoliaeth a gwyliwch wynebau cyfarwydd yn coginio gyda’r cynhwysyn garllegog hyfryd hwn!

Mae Matt Powell o Fishing and Foraging Wales, sy’n ymddangos ar fwrdd ein cogydd, wrth ei fodd â bwyd gwyllt. Gydag arfordir hardd Sir Benfro ar garreg ei ddrws a gwybodaeth helaeth am fforio, gallwch ei wylio’n gwneud prydau hyfryd fel coes Cig Oen Cymru gyda llysiau gwyrdd gwrych wedi’u fforio a saws cig oen wedi’i dewychu a choes las Cig Eidion Cymru wedi’i choginio’n araf gyda grawn rhyg bio-ddeinamig.

Mae Bryn Williams o Bryn @ Porth Eirias / Odette’s / Somerset House hefyd yn dangos ochr wyllt stec syrlwyn Cig Eidion Cymru gydag asbaragws, madarch, winwns a garlleg gwyllt. Awgrym Bryn – gwywo’r garlleg gwyllt yn ngwres gweddilliol y badell a bydd yn cadw ei liw gwyrdd hyfryd.

Peidiwch ag anghofio bod blodau garlleg gwyllt hefyd yn fwytadwy. Mae Hywel Griffith o Fwyty Beach House, Oxwich yn eu defnyddio yn ogystal â’r dail yn ei rysáit rag a gwddf Cig Oen Cymru gyda thatws dauphinoise. Mae’r pryd syml, hufennog hwn yn hyfryd gyda llysiau gwyrdd tymhorol. Mae’r sudd coginio yn gwneud saws blasus, ond mae Hywel yn awgrymu peidio ei dywallt dros yr holl bryd er mwyn arddangos y cig oen hyfryd!

Rhywbeth arall i’w fforio yw cenhinen y môr. Mae’n hawdd adnabod cennin môr gan eu bod yn edrych yn debyg iawn i gennin cyffredin, ond yn denau, ac yn arogli fel winwns! Fe’u gelwir hefyd yn gennin gwyllt, ac maen nhw’n hoffi tyfu mewn gwrychoedd ger glan y môr ble mae’r ddaear yn eithaf tywodlyd neu’n garegog.

Mae Stephen Stevens o Sosban a The Old Butchers yn defnyddio cennin môr mewn dŵr halen yn ei rysáit Cig Eidion Cymru wagyu, tomatos, mayonnaise mefus gwyrdd a siarcol. Cafodd y cennin môr yn y fideo eu cadw mewn dŵr halen am ddau fis, ond dylai eu cadw mewn dŵr halen am o leiaf wythnos wneud y tro! Os na allwch ddod o hyd i gennin y môr, peidiwch â cholli allan ar y rysáit flasus hon oherwydd gallwch ddefnyddio cennin bach neu gaprau yn lle.

Felly os ydych chi’n ddigon ffodus i ddarganfod y bwydydd gwyllt blasus hyn wrth fynd am dro ar lan môr neu mewn coetir, cofiwch fforio’n gyfrifol. Gwnewch eich ymchwil cyn casglu a defnyddio, a gadewch ddigon ar ôl yn y ddaear i barhau i dyfu.

Share This