facebook-pixel

Beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig?

Tach 12, 2019

Fel y gwyddoch i gyd erbyn hyn, rydym yn eithaf unllygeidiog wrth feddwl mai Cig Oen Cymru yw’r gorau yn y byd! Felly, i fod yn deg fe benderfynon ni ymweld â phump o brif gogyddion Prydain i gael golwg fanlyach ar yr hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor unigryw a pham maen nhw’n ei weini i’w cwsmeriaid.

Pan yn meddwl am Gig Oen Cymru efallai y byddwch chi’n meddwl yn syth am ginio rhost dydd Sul gyda’r holl drimins ond yr hyn sy’n dod i’r amlwg wrth siarad â’r cogyddion o fri hyn yw pa mor hyblyg yw’r cig a’r posibiliadau di-ri o greu cymaint o wahanol brydau lle mae cig oen yn serennu ynddynt. Darganfyddwch eich ysbrydoliaeth eich hun drwy ymweld â’n tudalen creu ryseitiau!

Mae cynnyrch tymhorol, lleol hefyd yn hollbwysig i’r cogyddion hyn a gan fod Cig Oen Cymru yn ei anterth tymhorol ar hyn o bryd gallwch chi ddisgwyl ei weld ar fwy nag un bwydlen ar hyd a lled y wlad.

Ond dyna digon o siarad ganddom ni, edrychwch ar y fideo hwn i ddysgu mwy am yr hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig yn ôl rhai o gogyddion gorau’r wlad!

Share This