facebook-pixel

Cigyddion yn camu i’r adwy gyda chynnydd mewn gwasanaethau cludo i’r cartref

Maw 31, 2020

*Rhestr o aelodau ein Clwb Cigyddion sydd yn cludo i’r cartref*

Gyda silffoedd gwag yn olygfa gyffredin mewn archfarchnadoedd a mesurau llym y llywodraeth i annog pobl i aros gartref, mae rhai cigyddion yng Nghymru wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb o gludo bwyd i gartrefi ac i gwrdd ag anghenion llawer o’n cymunedau.

Er bod manwerthwyr mawr yn ei chael hi’n anodd ateb galw uchel, mae cigyddion lleol wedi camu i’r adwy i helpu pobl bregus a’r rhai na allant adael eu cartrefi yn sgil yr argyfwng Coronafeirws presennol sy’n effeithio ar y wlad.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer yr aelodau o’i Clwb Cigyddion Cig Oen a Chig Eidion Cymru sydd bellach yn cynnig gwerthu ar-lein neu ddanfon i’r cartref, ac mae’n profi i fod yn achubiaeth i lawer o bobl.

Gan weithio ar y cyd â siopau a busnesau lleol eraill yn yr ardal, dywedodd y bwtsieriaid Bryn a Carl Williams o gwmni Wavells yn Llanrug ger Caernarfon: “Rydyn ni’n cyd-dynnu yn ein cymuned. Rydym ni, fel busnesau bach sy’n fusnesau teuluol gan amlaf, wedi adnabod ein cwsmeriaid ers blynyddoedd lawer – maen nhw wedi ein cefnogi ni dros y blynyddoedd felly mae’n bryd i ninnau eu cefnogi nhw. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bawb – does dim ots os ydyn nhw’n gwsmer rheolaidd i ni neu’n newydd i’r gwasanaeth, rydyn ni yma i helpu. Rydym hefyd wedi sicrhau bod ein holl yrwyr cyflenwi yn dilyn y cyngor ymbellhau o 2 fetr ac yn gadael y nwyddau ar y trothwy.

“Mae ein teulu wedi bod yn y byd cigyddiaeth ers blynyddoedd lawer ond erioed wedi gweld sefyllfa debyg i hon. Mae clywed am rai pobl yn prynu cymaint heb fod angen ac yn clirio’r silffoedd mewn archfarchnadoedd, ac yn gadael prin ddim i unrhyw un arall, yn rhwystredig iawn – wedi’r cyfan, rydym i gyd gyda’n gilydd yn yr un sefyllfa. Felly roedden ni’n awyddus i wneud beth allen ni i ddarparu i’r aelwydydd a’r unigolion hynny nad ydyn nhw bellach yn gallu mynd allan heb sôn am brynu y pethau hanfodol.”

Ychwanegodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad, Hybu Cig Cymru: “Mae’n galonogol gweld cigyddion yn chwarae rhan allweddol mewn cyfnod anodd iawn i gynifer o bobl. Mae siopau fel y rhain bob amser wedi bod wrth galon y gymuned leol ac maen nhw’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal yr economi leol trwy ddarparu bwyd cynaliadwy o safon ac sy’n cael ei gyrchu’n lleol.”

Gellir dod o hyd i restr lawn o siopau Clwb Cigyddion Cig Oen a Chig Eidion Cymru fan hyn neu lawrlwythwch ein rhestr o aelodau sydd yn cludo i’r cartref.

Share This