Y ffermydd teuluol sy’n gwneud beth maen nhw’n ei wneud orau

Awst 18, 2020

Mae Meinir Howells yn ffermio yn Shadog, ger Llandysul, gyda’i gŵr Gary, a’u dau blentyn bach Sioned a Dafydd. Mae ganddyn nhw tua 450 erw a 600 o ddefaid, yn ogystal â 200 o wartheg ac yn cynhyrchu 150 o hyrddod blwydd i’w gwerthu. Nid swydd naw tan bump mo ffermio; mae’n rhaid i ffermwyr fod ar alw 24 awr y dydd – ac mae Meinir wrth ei bodd.

“Fydden ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth arall. Mae’n ffordd wych o fagu plant, ar y fferm yng nghanol yr anifeiliaid. Dwi’n credu bod ffermio wrth galon y gymuned; os yw’r ffermwr yn diflannu mae’r gymuned, yr iaith Gymraeg, y diwylliant, a phopeth arall sy’n dod yn eu sgil, yn diflannu.

“Mae cynifer o bobl yn bwydo oddi ar y ffermwr mewn un ffordd neu’r llall. Ar ein fferm ni rydyn ni’n cyflogi pobl i ddod yma a’n helpu ni gyda silwair a biswail, ffensio, ac adeg wyna mae rhywun yn dod i’n helpu ni. Pa bynnag arian rydyn ni’n ei wneud ar y fferm, rydyn ni’n gwario’r rhan fwyaf ohono o fewn radiws o 20 milltir.”

Mae Meinir hefyd yn credu’n gryf bod yn rhaid i ffermwyr weithio gyda natur, yn ogystal â chynhyrchu bwyd o ansawdd da.

“Mae’r ffordd rydyn ni’n ffermio ein da byw yma yng Nghymru yn sicr yn helpu cynnal bioamrywiaeth a phriddoedd a glaswelltau iach, amrywiol, ac mae ein caeau wedi troi’n sinc carbon enfawr sy’n fuddiol o ran nwyon tŷ gwydr. Ar ben hynny, rydyn ni’n defnyddio’r adnoddau dŵr naturiol sydd gennyn ni’n dda.

“Rydyn ni wedi plannu tua 9,000 o goed yma ac wedi gosod ffensys dwbl ar ein gwrychoedd, a thrwy wneud hynny rydyn ni’n creu coridorau, lloches a bwyd naturiol ar gyfer bywyd gwyllt; ond mae gennyn ni focsys adar a chychod gwenyn hefyd. Rydyn ni wedi gosod ffensys o gwmpas nentydd a chadw’r dŵr yn lân, ac ar rywfaint o’r tir gwaethaf sydd gennyn ni, yn hytrach na’i wella a cheisio ymladd yn erbyn natur, rydyn ni wedi ei roi’n ôl i fywyd gwyllt.

“O edrych ar lawer o dirwedd Cymru, nid yw yno ar ddamwain; mae cenedlaethau o bobl wedi gweithio mor galed a diflino i edrych ar ôl y tir hwnnw. Mae’n broses naturiol, y ffordd rydyn ni’n magu ein hanifeiliaid, oherwydd maen nhw’n pori’n rhydd y tu allan ar yr amrywiaeth o laswellt sydd gennyn ni fel perlysiau a meillion.”

Ond mae Meinir a Gary yn gwybod bod eu holl waith caled yn dwyn ffrwyth ym mlas ac ansawdd eu Cig Oen a’u Cig Eidion.

“Yn bersonol dwi’n credu mai dyma’r ffordd orau i gynhyrchu’r cig eidion a’r cig oen gorau posibl, a dyna pam mae’r statws PGI gennyn ni yma yng Nghymru. Mae ein cynnyrch yn cael ei barchu ledled y byd oherwydd ein hansawdd da.

Share This