facebook-pixel

Parau perffaith Cig Eidion Cymru

Maw 19, 2021

Mae gan Gig Eidion Cymru PGI ddyfnder blas mawr ac mae’n hysbys ei fod yn mynd yn dda gyda marchruddygl a mwstard. Ond oeddech chi’n gwybod bod gan gig eidion sawl cymar coginio arall sy’n gallu ychwanegu haenau newydd o flas, a phan gaiff ei goginio mae ganddo flas umami unigryw?  Dyma’r blasau sy’n mynd yn wych gyda chig eidion.

Syml a sbeislyd

Heb os nac oni bai, nid oes unrhyw gynhwysyn arall sy’n gweddu i flas cig eidion fel marchruddygl (horseradish). Ers yr 16eg ganrif, rydym ni wedi mwynhau siarprwydd y gwraidd hwn (o jar neu wedi’i ratio’n ffres) gyda’n cinio dydd Sul. Rhowch gynnig ar ein Brechdan Cig Eidion Cymru lwythog gyda mayonnaise radish poeth.

Mae Wasabi, cefnder Asiaidd marchruddygl, yn aml yn cael ei ddefnyddio gyda sushi. Mae’n bast gwyrdd sbeislyd sydd â brath sur sy’n torri trwy brydau cig eidion bras.

P’un a ydych yn ei garu neu ei gasáu, dyw mwstard byth ymhell o fyrgyr cig eidion blasus ac mae’n hyfryd wedi’i weini â chig eidion rhost. Yn dynn ar ei sodlau ar y llwybr sbeislyd mae grawn pupur – cyfeiliant clasurol i gig eidion. Rhowch gynnig ar Stêc Cig Eidion Cymru “au poivre” gan Bryan Webb – clasur go iawn.

Marinadau moethus, perlysiau perffaith

Mae marinadau yn ffordd wych o ychwanegu blas a thyneru darnau caletach o gig. Olew, halen a chynhwysion asid fel lemwn neu finegr (dewisol) yw hanfodion marinâd.  Gallwch ychwanegu blas (a bod yn greadigol!) gyda pherlysiau a sbeisys.

Mae coeden anis yn arbennig o flasus gyda chig eidion, mae’n rhoi blas ag arogl cynnil, tebyg i licris iddo, blas sy’n aml yn ganolog i goginio Tsieineaidd.  Rhowch gynnig arni eich hun gyda ein cyri rendang Cig Eidion Cymru Indonesaidd blasus.

Mae sinsir, garlleg a nionod/winwns hefyd yn wych gyda chig eidion ac yn rhoi dyfnder blas i gyris a phrydau tro-ffrio.

Persli yw’r prif berlysieuyn a ddefnyddir mewn chimichurri, saws perlysiau sbeislyd o’r Ariannin sy’n ddelfrydol gyda stecen. Mae nodweddion ffres y perlysieuyn, ynghyd â sbeis y tsilis, yn torri drwy fraster y stecen.  Dilynwch ein rysáit ar gyfer stecen Sbawd Frith Cig Eidion Cymru gyda chimichurri i gael gweld drosoch eich hun.

Mae teim yn berlysieuyn arall sy’n dod â’r gorau allan o brydau cig eidion bras, gan ychwanegu haen newydd o flas gyda’i nodweddion lemwn.

Hyderus a hufennog

Mae caws glas hufennog a chryf (fel Roquefort a Stilton) yn cynnig nodweddion sbeislyd ffrwythus sy’n gweddu’n arbennig o dda i flasau cryf stêc.  Rhowch gynnig arni gyda ein Brechdan stêc chipotle Cig Eidion Cymru gydag afocado wedi’i falu y Migrating Chef.

Cydymaith hufennog arall yw llaeth cnau coco, sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf yn Ne-ddwyrain Asia mewn cyri a stiwiau.

Trefniadau clasurol

Mae gwin coch yn bartner gwych ar gyfer darnau o gig eidion â blas cryf. Mae gwinoedd cryf (fel Bordeaux) yn gweddu’n ddelfrydol o ran blas, ac mae’r alcohol mewn gwin ynghyd â choginio araf yn torri’r proteinau yn y cig i lawr yn ystod y broses goginio, gan ei wneud yn fwy brau.  Rhowch gynnig ar ein Asennau byrion Cig Eidion Cymru mewn gwin coch a pherlysiau.

Er bod llawer o flasau cyffrous i’w harchwilio gyda chig eidion, allwn ni ddim anwybyddu’r brocoli syml. Mae’r llysieuyn blasus (ac iach!) hwn yr un mor hyfryd gyda chinio dydd Sul ag y mae mewn pryd tro-ffrio.  A ble fydden ni heb y cyfuniad perffaith o gig eidion, madarch a theim yn ein Wellington Cig Eidion Cymru?

Mae blas unigryw, arbennig Cig Eidion Cymru PGI yn ganlyniad i’r ffordd y cafodd ei gynhyrchu – i’r safonau uchaf posibl. Yn aml mae blas y cig eidion yn dibynnu ar yr anifail ei hun – ei ddeiet a’i frid, sy’n creu blasau cryfach o gig. Edrychwch ar ein tudalen chwilio am rysáit lle gallwch ddod o hyd i ddigon o ysbrydoliaeth am gynhwysion a chyngor ar goginio gyda darnau amrywiol o gig eidion.

Share This