facebook-pixel

Y frechdan stêc – Poblogaidd ym mhob cwr o’r byd

Mai 12, 2020

Efallai ein bod ni’n meddwl mai o Brydain y daw’r frechdan, ond mae’n cael ei bwyta gan bobl o bedwar ban y byd – o Asia i’r Americas. Mae brechdan stêc yn aml yn cael ei hystyried fel brenin y brechdanau – a thrwy ddefnyddio Cig Eidion Cymru PGI yn eich un chi gallwch greu brechdan gofiadwy dros ben, fel mae brenin y barbeciw Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn ei ddangos yn y fideo yma o’i her.

Er mwyn eich ysbrydoli chi i greu brechdan i’r brenin yng nghystadleuaeth Chris, dyma sut mae rhai o wledydd y byd yn paratoi brechdanau stêc blasus…

Beirute – Brasil

Mae’r frechdan hon wedi cael ei dylanwadu gan gymunedau Syriaidd-Libanaidd Brasil – bara pita sy’n llawn dop o stêc neu gig eidion rhost, letys, tomatos, caws wedi toddi a chymysgedd o berlysiau a sbeisys o’r enw za’atar. Daw’n wreiddiol o ddinas Sao Paolo ac mae ei henw’n deyrnged i brifddinas Libanus, Beirut.

Barros Luco – Chile

Enwyd ar ôl arlywydd Chile, Ramón Barros Luco, oedd wrth ei fodd â’r frechdan flasus hon, sy’n cynnwys stêc a chaws wedi toddi mewn rhôl fara. Mae Chile hefyd yn enwog am y Chemilico, sy’n debyg i’r Barros Luco ond sy’n cynnwys wy wedi ffrio hefyd.

Wagyu Sando – Japan

Mae’r sando (talfyriad o ‘sandwich’) yn enwog ledled Japan ac mae’n cynnwys stêc cig eidion o ansawdd da o wartheg Wagyu o safon uchel. Caiff y stêc ei gorchuddio â briwsion bara a’i ffrio, yna rhoddir saws tonkatsu ar ei phen a’i gweini mewn brioche Japaneaidd wedi ei dostio. Mae nifer o bobl Japan yn ei ystyried yn fwyd cysurus, a gellir ei brynu mewn siopau lleol yn ogystal â bwytai moethus.

Francesinha – Portiwgal

Fersiwn Portiwgeaidd o’r croque-madame Ffrengig enwog yw’r francesinha, sy’n cyfieithu’n fras fel ‘Ffrancwr Bychan’. Mae’r frechdan hon yn llawn dop o gig – yn driawd o ham, selsig ffres a selsig wedi’i halltu a stêc denau. Yna rhoddir caws wedi toddi ar ei phen cyn ei gorchuddio â saws grefi cwrw a thomato, heb anghofio wy wedi ei ffrio ar y top.

Tripleta – Puerto Rico

Fel mae’r enw’n ei awgrymu, mae’r Tripleta yn cynnwys tri gwahanol gig sydd fel arfer yn cynnwys stêc wedi ei mwydo a’i thorri’n giwbiau, ham a phorc neu gyw iâr wedi ei rwygo. Ar ben y bara mae sglodion, saws coch, mayonnaise, caws a llysiau fel letys, bresych, tomatos a winwns. Gellir grilio’r frechdan hefyd, ac fel arfer mae’n ddigon mawr i’w rhannu rhwng dau (neu ei bwyta gan un person llwglyd iawn…).

Philly Cheesesteak – UDA

Efallai mai dyma’r frechdan stêc enwocaf un. Mae’n dod o Philadelphia, a’r teulu Oliveri sy’n aml yn cael y clod am ddyfeisio’r ‘philly’ sy’n un o eiconau bwyd America. Ers y 1930 caiff ei gwneud drwy gyfuno sleisys tenau o stêc, winwns wedi’u grilio a chaws wedi toddi – syml ond effeithiol.

Chivito – Uruguay

Os oes un peth sy’n destun mwy o falchder i bobl Uruguay na phêl-droed, eu bwyd yw hwnnw. Chivito yw brechdan genedlaethol Uruguay ac er bod ei henw’n golygu ‘gafr fechan’, churrasco neu stêc cig eidion sydd ynddi, ynghyd â thomatos, olewydd a mayonnaise. Yn ôl y sôn cafodd y frechdan ei dyfeisio ym mar El Mejillon yn 1946, pan gyrhaeddodd cwsmer y bwyty un noson yn gofyn am gig gafr (chivo). Er nad oedd gafr ar y fwydlen, gwrthododd y bwyty golli cwsmer a pharatoi’r frechdan gras hon gyda chig eidion, gan ddweud wrth y cwsmer mai enw’r saig oedd chivito. Craff…

Pepito – Sbaen

Ac yn olaf, brechdan stêc Pepito – sy’n dod o Sbaen ond sy’n boblogaidd iawn yn Ne America hefyd –stêc wedi ei grilio mewn rhôl fara gydag amrywiaeth o gynhwysion sy’n cynnwys caws, winwns, cig moch a phupurau. Mae’n debyg bod y frechdan wedi dod o Café De Formos yn Madrid pan ofynnodd mab y perchennog, Pepito, am frechdan boeth am unwaith, felly gwnaeth y cogydd stêc cig llo wedi’i grilio iddo a’i gweini mewn baguette grystiog.

Share This