facebook-pixel

Prydau Cig Oen Cymru penigamp gyda Francesco Mazzei

Medi 1, 2021

Rydym yn dathlu Wythnos Caru Cig Oen 2021 mewn steil gydag antur fwyd fydd yn tynnu dŵr o’r dannedd, wrth i ni gyfuno ein Cig Oen Cymreig gyda’r gorau o fwyd Eidalaidd i greu prydau penigamp sy’n asio’r gorau o’r ddwy wlad.

Y cogydd o fri Francesco Mazzei fydd yn eich tywys trwy ein cyfres fer o brydau Eidalaidd. Fel un sydd yn gyson frolio Cig Oen Cymreig ac a fu’n ddiweddar yn cydweithio gyda neb llai na’ Denise Van Outen ar raglen ‘Cooking with the Stars’ ITV1, mae Francesco’n edrych ymlaen at rannu pedwar o’i hoff brydau Cig Oen Cymreig â chi – mwynhewch!

Dysgwch fwy am Francesco a’i ryseitiau

Peli Cig Oen Cymru wedi’u llenwi â burrata gyda saws tomato a pesto basil

Pasta cavatelli a ragout Cig Oen Cymru gyda pecorino, ‘nduja a mintys

 

 

 

 

 

Ysgwydd Cig Oen Cymru fornarina

Ossobuco Cig Oen Cymru wedi’i frwysio gyda thatws stwnsh menynaidd

 

 

 

 

 

 

 

 

Wythnos Caru Cig Oen 2021


Wedi ei sefydlu nôl yn 2015 i hyrwyddo ac amlygu’r angerdd a’r ymroddiad y mae ffermwyr yn ei arddangos ddydd ar ôl dydd i gynhyrchu bwyd o safon, mae Wythnos Caru Cig Oen wedi tyfu dros y blynyddoedd i fod yn ddyddiad allweddol yn nyddiadur unrhyw un sy’n caru bwyd da. Flwyddyn yma bydd yn tynnu sylw at gynaliadwyedd cryf y diwydiant a sut mae’r ffordd Gymreig o ffermio yn defnyddio dulliau gwahanol iawn i systemau mwy dwys y gwelir mewn ardaloedd eraill ar draws y byd.

Awyddus i ddarganfod mwy am gynaliadwyedd Cig Oen Cymru? Dysgwch y stori tu ôl i’n bwyd ar ein tudalennau cynaliadwyedd.

Share This