facebook-pixel

Cyfle tanbaid!

Gor 31, 2020

Mae’r haf wedi cyrraedd Cymru. Efallai y bydd ambell gawod law ond ni ddylai hynny ddifetha ein hwyliau! Beth bynnag, mae tipyn o law yn dda i’n glaswellt sydd … sydd hefyd yn help mawr i greu blas hyfryd ein Cig Oen Cymru PGI. Felly pan fyddwch chi (a’r haul) yn mentro allan, beth am gael barbeciw braf gyda theulu a ffrindiau?

Ond cyn mynd ati i chwilio am y tongs, sut olwg sydd ar eich barbeciw eleni? A yw gweddillion llosg bwyd y llynedd yn dal i fod yn sownd iddo?

Beth am roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol yr haf hwn, fel Cig Oen Cymru blasus sydd wedi bod yn coginio hyd at berffeithrwydd mewn mygwr. Dim mygwr? Wel, ffans ffodus Cig Oen Cymru, fel mae’n digwydd rydyn ni a’r cogydd seren Michelin ac arbenigwr Cig Oen Cymru Hywel Griffith o Beach House Oxwich, yn uno i gynnig mygwr barbeciw anhygoel gwerth dros £400 i un enillydd lwcus!

Mae dwy ffordd o roi cynnig ar gael gafael ar y wobr hon:

  1. Ewch draw i’n sianel Instagram a hoffwch y neges hon, dilynwch ein tudalen a thagio ffrind y byddech yn ei wahodd draw ar gyfer eich barbeciw blasus cyntaf
  2. Ymunwch â’n cylchlythyr Teulu Cig Oen Cymru i gael ryseitiau blasus a chynnwys ychwanegol yn syth i’ch blwch post

Telerau ac amodau y gystadleuaeth ar gael yma.

Dyma Hywel gyda’i gynghorion gorau ar gyfer barbeciwio Cig Oen Cymru yn ogystal â phryd blasus y gallwch chi ei gopïo ar eich mygwr newydd sbon!

Share This