facebook-pixel

Ysgol haf gyda’r plant

Awst 24, 2021

Cyn bo hir, bydd hi’n amser dechrau casglu gwisgoedd ysgol a deunydd ysgrifennu newydd. Felly beth am anfon y plant yn ôl i’r ysgol gyda sgil newydd hefyd?

Mae dysgu coginio’n ffordd wych o ddefnyddio sgiliau mathemateg a darllen – mae hefyd yn addysgu plant sut mae tymereddau uchel ac isel yn effeithio ar rai bwydydd mewn gwahanol ffyrdd, felly mae ‘na ychydig o wyddoniaeth hefyd!

Gydag ychydig wythnosau ar ôl, mae ein cystadleuaeth Brechdan i’r Brenin hefyd yn esgus perffaith i’w cael nhw i goginio yn y gegin a dysgu sgiliau newydd. A gyda’r wobr arbennig o offer coginio gwerth £150 ar gyfer ceisiadau gan blant, mae’n werth rhoi cynnig arni!

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan y seren deledu a’r cogydd o fri Chris ‘Flamebaster’ Roberts a gallwch wylio ein fideo am ychydig o ysbrydoliaeth – BOOM! Gallwch ddysgu mwy am y gystadleuaeth yma.

Picnic perffaith

Manteisiwch i’r eithaf weddill y haf drwy baratoi picnic. Er bod brechdan neu ddwy ac ambell bastai porc yn opsiwn hawdd, beth am newid pethau ychydig a gwneud bwyd mwy apelgar yn lle?

Mae ein Cebabau Cig Oen Cymru â sbeis sumac gyda couscous blodfresych yn bryd gwych i’w rannu tra bod ein Burrito Cig Eidion Cymru a phwdin Efrog yn syniad taclus a blasus. Paciwch bryd llawn blas yn eich picnic gyda ein Parseli tortilla tikka Cig Oen Cymru ac rydych chi’n barod i fynd!

 

Hud byd y ffilmiau ar blat

Os nad yw’r tywydd yn edrych yn rhy ffafriol, beth am setlo lawr i wylio ffilm neu ddwy? Trowch eich ystafell fyw yn sinema gartref a dod ag ychydig o hud byd i ffilmiau i’r plant gyda Pizzas bychain Cig Eidion Cymru neu Asennau gludiog o Gig Oen Cymru. Peidiwch ag anghofio’r cadachau ar gyfer y bysedd sticlyd!

 

Mwynhewch y tecawê

Beth am wneud tecawê ar gyfer y teulu? Efallai bod gwneud eich bwyd tecawê eich hun yn swnio’n frawychus ond mae’n ffordd wych o arbed arian – a hefyd, fyddech chi ddim eisiau colli allan ar yr holl aroglau rhyfeddol ‘na sy’n llenwi’ch cegin ac yn eich temtio chi i’r hyn sydd i ddod. Byddwch chi hefyd yn osgoi’r holl ddeunydd pacio gwastraffus ‘na.

Cymerwch gip ar ein cyris, prydau tro-ffrio, cigoedd wedi’i grilio a pizzas blasus i gael ysbrydoliaeth.

SbeisioCyri tatws melys Goaidd gyda Chig Oen Cymru, Tikka masala Cig Oen Cymru, Rendang Cig Eidion Cymru, Madras Cig Eidion Cymru

Tro-ffrio Cig Oen Cymru gyda sinsir a shibwns wedi’i dro-ffrio, Tsili crenshlyd Cig Eidion Cymru

Grilio Cebabs Cig Oen Cymru gyda phinafal, soi a tsili, gyda salad nwdls a llysiau’r gwanwyn, Koftas Harissa Cig Oen Cymru, Koftas Cig Eidion Cymru gyda llysiau cudd

Addurno Pizza Cig Oen Cymru a phesto gyda ffeta, Calzone Cig Eidion Cymru, Pizzas bychain Cig Eidion Cymru

Share This