facebook-pixel

Stori Alun – ffermio mewn cytgord gyda natur

Chw 14, 2020

Er gwaethaf straeon gan y cyfryngau i’r gwrthwyneb, mae’n wir mai Cymru yw un o lefydd mwyaf cynaliadwy’r byd i gynhyrchu cig coch o safon uchel sy’n cael ei fagu’n foesol.

Fel rhan o’n hymgyrch sy’n amlygu’r rôl hanfodol mae ein ffermwyr yn ei chwarae wrth gynnal a chadw’r amgylchedd coeth a’r tirweddau prydferth sydd wedi esblygu dros ganrifoedd, aethon ni draw at Alun Elidyr ar ei fferm ger Llanwuchllyn i ddysgu mwy am y gwaith mae’n ei wneud i sicrhau ei fod yn ffermio mewn undod â’i amgylchedd naturiol.

Mae hon yn stori dwymgalon am y balchder a’r angerdd sydd gan ffermwyr fel Alun dros eu hamgylchedd, a sut mae ef a’i gydweithwyr ledled Cymru yn cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Gan wneud defnydd cynhyrchiol o dir llai dethol sy’n anaddas ar gyfer ffyrdd eraill o gynhyrchu bwyd, a magu ein gwartheg a’n defaid ar laswellt ir sy’n cael ei greu gan ddigon o law, mae’r system Gymreig yn wahanol i ffyrdd eraill o ffermio da byw a geir mewn rhannau eraill o’r byd.

Gan gyfuno dulliau ffermio traddodiadol ac arloesol, sail ein system yw gwneud y gorau o’r hyn y mae gennyn ni lwyth ohono – glaswellt, dŵr glaw a llond gwlad o falchder.

Share This