facebook-pixel

Cogydd gwerth ei halen yn cefnogi cig lleol o Gymru

Rhag 15, 2020

Rydyn ni’n hynod gyffrous o wiethio gyda’r cogydd o fri, Tom Simmons, ar ein hymgyrch ddiweddaraf i dynnu sylw at bwysigrwydd prynu cig o ffynonellau lleol y Nadolig hwn.

Mae Tom, sydd wedi bod wrth y llyw yn Tom Simmons Tower Bridge yn Llundain ers 2017, wedi dychwelyd i Gymru yn ddiweddar ac wedi agor Thomas by Tom Simmons gyda’i bartner, Lois. Mae’r bwyty newydd ym Mhontcanna, Caerdydd yn cael ei ddylanwadu gan fwyd Prydeinig a Ffrengig ac yn cael ei ysbrydoli gan wreiddiau Cymreig Tom.

Dywedodd Tom, sydd wedi dwlu ar goginio erioed a sydd â pharch ac angerdd mawr at natur a chynhwysion Cymreig: “Mae’r Nadolig yn gyfnod prysur i ni, ond rydym ni wastad yn rhoi sylw i fanylion ansawdd a blas ein bwyd – dyna pam mai dim ond y cynhyrchion gorau gan ein cyflenwyr a’n ffermwyr lleol rydyn ni’n eu defnyddio.

“Rydym ni’n credu bod cig sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn blasu’n fwy ffres ac yn well na chynnyrch sydd wedi’i gynhyrchu ar raddfa fawr ac sydd wedi teithio ymhellach i gyrraedd platiau pobl, felly rydym ni’n falch iawn o gefnogi unrhyw ymgyrch sy’n hyrwyddo cefnogi cynhyrchwyr bwyd o Gymru.

“Mae gen i berthynas bersonol gyda phob cyflenwr i sicrhau fy mod yn defnyddio’r cynhwysion gorau posibl. Rwy’n gwybod yn union o ba ffermydd mae fy nghigydd yn cael ei gig, felly rwy’n hyderus mai’r hyn rydym ni’n ei roi o flaen ein cwsmeriaid yw’r hyn y mae’n honni bod. Mae olrhain yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ni ac yn y pen draw gall ein cwsmeriaid fod yn hyderus yn ansawdd y cynnyrch.

“Pan rwy’n prynu gan gigydd neu gyflenwr lleol, rwy’n gwybod fy mod nid yn unig yn cael cynnyrch o safon, ond fy mod yn cefnogi’r economi leol ac yn helpu’r amgylchedd hefyd drwy leihau milltiroedd bwyd. Gall pawb chwarae eu rhan i helpu ein manwerthwyr bwyd a diod lleol llai y Nadolig hwn.”

Felly er mwyn helpu i’ch ysbrydoli i wneud y gorau o’r cynnyrch arbennig sydd ar gael ar eich trothwy y Nadolig hwn, mae Tom wedi creu triawd o ryseitiau rhagorol i chi roi cynnig arnyn nhw gartref.

 

 

Ryseitiau llawn ar gael yma:

Canon Cig Oen Cymru gyda swêds wedi’u malu

Caserol boch ychen Cig Eidion Cymru

Bochau Mochyn wedi’u Brwysio mewn Seidr

Share This