facebook-pixel

Bywiogwch eich barbeciw’r haf yma gyda blasau bendigedig Cig Oen Cymru

Meh 3, 2024

Mae misoedd yr haf yn amser perffaith i fwynhau ychydig o giniawa ‘alfresco’. A pha ffordd well o ddathlu’r heulwen na gyda barbeciw myglyd, yn llawn o Gig Oen Cymru flasus?

Wedi’i ffermio gan ddefnyddio prosesau naturiol sydd wedi’u cynnal dros genedlaethau yng nghefn gwlad Cymru, mae Cig Oen Cymru yn cynnig blas unigryw o’r ansawdd gorau, gan ei wneud yn ychwanegiad perffaith i unrhyw blât haf, boed law neu heulwen.

Ydych chi’n chwilio am flas o Fôr y Canoldir i’w fwynhau gartref? Yna beth am goginio koftas Cig Oen Cymru gyda salad Groegaidd blasus – sy’n sicr o roi eich blasbwyntiau ar dân. A thra byddwch wrthi, stociwch i fyny ar friwgig Cig Oen Cymru i greu byrgyr Cig Oen Cymru a ffeta, sy’n berffaith i’r rhai sy’n ffansio opsiwn barbeciw mwy traddodiadol. Am ysbrydoliaeth ganolbwynt syfrdanol, beth am roi cynnig ar goes Cig Oen Cymru wedi’i grilio gyda chnau coco, tsili a choriander, sy’n sicr o fod yn llwyddiant ysgubol gyda ffrindiau a theulu’r haf hwn.

Felly, tannwch y gril, cydiwch yn eich ffedog a’ch offer coginio a dechreuwch grilio gyda’r ryseitiau anhygoel yma.

Koftas Harissa Cig Oen Cymru

Methu aros am eich partïon haf yn yr ardd? Mae’r koftas harissa Cig Oen Cymru yma yn berffaith ar gyfer eich holl ddathliadau haf ac yn sicr o fod yn uchafbwynt y parti!

 

Coes Cig Oen Cymru gyda chnau coco, tsili a choriander

Mae’r coes Cig Oen Cymru yma yn berffaith ar gyfer swper ar y penwythnos ar ôl diwrnod hir yn gorwedd yn yr haul!

 

Byrgyrs Cig Oen Cymru a chaws ffeta

Welsh Lamb and feta burgers

Bydd y byrgyrs yma’n dod a’r boddhad mwyaf i’ch barbeciw’r haf yma. Gweinwch gyda choctel hafaidd a mwynhewch!

 

Am fwy o ysbrydoliaeth, ewch i’n hadran ryseitiau.

Share This