facebook-pixel

Clasuron Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi

Maw 1, 2022

Mae Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn cael ei ddathlu bob blwyddyn yng Nghymru wrth i ni dalu teyrnged i’n nawddsant mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys plant yn gwisgo cennin neu wisg draddodiadol Gymreig neu gynnal eisteddfodau a mwynhau bwyd traddodiadol fel cawl Cig Oen Cymru, bara brith neu gaws pob.

Yn ôl y chwedl, cafodd Dewi ei eni yn ystod storm ffyrnig yn y flwyddyn 500 OC ar ben clogwyn yn Sir Benfro, a byw ei fywyd cyfan ar ddiet o ddŵr a chennin. Yn naturiol, fyddem ni ddim yn argymell diet mor llym i ddarllenwyr ein gwefan, sy’n adnabyddus am eu chwaeth graff mewn bwyd a diod. Rydym ni hefyd yn gwybod bod Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymreig PGI nid yn unig yn blasu’n wych, ond hefyd yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol sy’n allweddol i ddiet iach a chytbwys.

Gyda diolch i ein ffrindiau yn Bwyd a Diod Cymru, i nodi Dydd Gŵyl Dewi eleni rydym ni’n datgelu rysáit hollol Gymreig sy’n dathlu dau eicon o fwyd ein cenedl: Cig Oen Cymru a bara lawr. Mae ein Cig Oen Cymru gyda saws perlysiau a bara lawr yn bryd o fwyd i deulu o bedwar, ac mae ar ei orau trwy rannu’r ragiau’n gytledi ac yna dipio pob cytled i mewn i’r saws bara lawr a pherlysiau ac yn olaf, y briwsion lemwn.

Mae’n siŵr bod y rhan fwyaf o’n darllenwyr yn ymwybodol bod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi cael statws PGI i gydnabod y llu o rinweddau sy’n nodi eu bod yn unigryw o’u cymharu â’u cystadleuwyr, mae hefyd yn werth dathlu rhai o’r cynhyrchion bwyd a diod eraill o Gymru sydd hefyd wedi cael anrhydeddau tebyg.

 

Bara Lawr Cymreig (PDO)

Cafodd Bara Lawr Cymreig ei ddisgrifio gan y seren Hollywood Richard Burton fel “cafiar y Cymro”, mae wedi’i wreiddio mewn hanes fel ffynhonnell faeth hanfodol, a dyfarnwyd statws PDO iddo yn 2017 i ddathlu ei gysylltiadau cynhenid â morweddau a chymunedau Cymru.

Mae’n ychwanegiad gwych i bryd o’r badell, gellir ei baru hefyd â llu o brydau Cig Oen Cymru, gan gynnwys ein rysáit Dydd Gŵyl Dewi.

 

Halen Môn (PDO)

Mae’n cael ei fwynhau ledled y byd gan gogyddion a phobl sy’n dwlu ar fwyd sy’n rhyfeddu at yr haenau crisialaidd unigryw, gwastad a blas glân dŵr môr Ynys Môn, nid yw wedi ei ddifetha gan y chwerwder a achosir gan ormod o galsiwm sy’n gallu digwydd mewn halenau eraill.

Enillodd Halen Môn statws PDO yn 2014, a gall helpu i wella unrhyw Gig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru drwy sesno’r pryd, fel gyda Cytledi Cig Oen Cymru gyda saws perlysiau a garlleg neu Stecen sbawd frith Cig Eidion Cymru gyda chimichurri.

 

Tatws Cynnar Sir Benfro (PGI)

Enillodd Tatws Cynnar Sir Benfro statws PGI yn 2014, nid dim ond hen datws ydyn nhw, ond maen nhw’n cael eu tyfu mewn llecyn bach o dde-orllewin Cymru, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol ac effaith cynhesu naturiol y môr, sy’n galluogi i’r tymor tyfu ddechrau’n gynharach ac yn arwain at datws gydag arogl cryf y pridd a gwead llyfn, hufennog.

Rhowch gynnig arnyn nhw drwy goginio Stecen llygad yr asen Cig Eidion Cymru gyda madarch a chaws pob gan Matt Waldron neu  Cig Oen Cymru â sglein balsamaidd gyda thatws bach rhosmari.

 

Caws Caerffili Traddodiadol (PGI)

Gyda stori ddiddorol sy’n ymestyn dros gannoedd o flynyddoedd, mae’r caws yn seiliedig ar rysáit sefydlog a ysgrifennwyd gan Annie Evans yn ei llyfr nodiadau yn 1907, ond sydd fwy na thebyg yn dyddio’n ôl i’r 19eg ganrif. Gyda gwead hufennog cyson, dim ond o laeth buwch a gynhyrchir ar ffermydd Cymru y gellir gwneud Caws Caerffili Traddodiadol, a dyma unig gaws brodorol Cymru.

Enillodd statws PGI yn 2017, a gallai gyd-fynd yn wych â’ch Cawl Cig Oen Traddodiadol Cymreig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

 

Gwin Cymreig (PDO/PGI)

Gyda llu o winllannoedd sy’n tyfu dros 20 math gwahanol o rawnwin, mae Gwin Cymreig wir yn ffynnu. Mae ganddo statws PGI a PDO, ac mae topograffi a thirwedd unigryw Cymru yn cynhyrchu gwin sydd ag asidedd crimp a blasau aromatig cryf.

O ran paru gyda ryseitiau, mae’n wir dweud nad oes llawer o brydau Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru na ellir eu gwella gyda gwydraid bach o Win Cymreig i helpu i ddenu’r blasau allan!

 

Cliciwch yma am restr lawn o gynnyrch Cymreig sydd â statws enw bwyd gwarchodedig.

Share This