facebook-pixel

Mae Cwpan Rygbi’r Byd wedi cyrraedd!

Tach 6, 2019

A ninnau ynghanol Cwpan Rygbi’r Byd, mae ganddon ni gystadleuaeth arbennig sy’n rhoi cyfle i’n cefnogwyr ennill pêl rygbi fach sydd wedi eu harwyddo gan gyn chwaraewr Cymru, Shane Williams.

I fod â chyfle o ennill un o’r gwobrau gwych yma, y cyfan sydd angen gwneud yw cofrestru i dderbyn cylchlythyr misol Teulu Cig Oen Cymru PGI cyn diwedd y bencampwriaeth ar 2 o Dachwedd.

Mae’r cylchlythyr, sydd yn llawn dop o ryseitiau sy’n dod a dŵr i’r dannedd a’r newyddion diweddaraf am Gig Oen PGI Cymru, yn berffaith i bobl sy’n mwynhau bwyd blasus ac eisiau dangos eu doniau yn y gegin. Felly does dim esgus i beidio mynd amdani, oes ‘na?

Roeddem yn ddigon ffodus i weithio gyda Shane ddiwedd llynedd wrth iddo rannu ei angerdd am Gig Oen Cymru, gan esbonio sut all y cig fod yn rhan o ddeiet cytbwys i athletwyr, oherwydd y cynnwys uchel o brotein a’r ffaith ei fod yn llawn fitaminau a mwynau maethlon. Fe wnaeth e hyd oed greu rysáit Cig Oen Cymru ar ein cyfer a gallwch ei wylio’n coginio’r rysáit fan hyn.

Felly peidiwch ag oedi! Cofrestrwch yma am gyfle i ennill.

Telerau ac amodau’r gystadleuaeth

Bydd pum cyfeiriad e-bost sydd wedi cofrestru i dderbyn cylchlythyr teulu Cig Oen Cymru PGI rhwng y 20 o Fedi 2019 a’r 2 o Dachwedd yn cael eu dewis ar hap i ennill peli rygbi bach wedi’i harwyddo gan Shane Williams.

Rhaid i ymgeiswyr gofrestru i gael y cylchlythyr drwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Un cyfeiriad e-bost fesul cofnod.

Yr hyrwyddwr yw Four Cymru yn gweithredu ar ran Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales.

Nid yw gweithwyr (a’u teuluoedd neu asiantwyr) yr hyrwyddwr na HCC yn gymwys i gymryd rhan.

Bydd unrhyw gynnig sy’n annarllenadwy neu’n mynd ar goll, yn anghyflawn neu’n dwyllodrus, neu nad yw’n cydymffurfio â’r rheolau hyn mewn unrhyw ffordd arall, yn cael ei anghymwyso trwy benderfyniad Four Cymru yn unig.

Hysbysir yr enillwyr heb fod yn hwyrach na 48 awr wedi i’w cynnig gael ei ddewis ar hap.

Os nad yw’r enillwyr yn ymateb o fewn 7 diwrnod i gael yr hysbysiad, mae gan yr Hyrwyddwr yr hawl i ail-dynnu enwau a dewis enillydd arall (ac felly ymlaen hyd nes y caiff y wobr ei hawlio).

Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am gynigion a gollir, a ddifrodir neu a arafir oherwydd methiant caledwedd neu feddalwedd cyfrifiadur / ffôn o unrhyw fath.

Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddiddymu neu ddiwygio telerau’r hyrwyddiad hwn heb roi rhybudd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

Gall yr hyrwyddwr ddewis ymestyn cyfnod yr hyrwyddiad.

Share This