facebook-pixel

Dyma eich traddodiad Nadolig newydd…

Rhag 6, 2022

Ydych chi mewn ychydig o bicl Nadoligaidd? Ydy twrci ar eich bwydlen Nadolig ond dydy meddwl amdano ddim yn eich cyffroi rhyw lawer?

Gan eich bod chi yma ac eisoes yn chwilfrydig, beth am archwilio ein prydau Nadoligaidd blasus – mae gennyn ni ddigon i’w ddangos i chi. A chofiwch, does dim rhaid cael twrci bob tro.

Ar gyfer tymor y Nadolig, mae gennyn ni lond hosan o syniadau am ryseitiau sy’n defnyddio Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Cariwch ymlaen i ddarllen i weld y sêr y sioe, danteithion bach parti blasus a phrydau un potyn gaeafol.

Dim twrci. Dim problem.

Y peth gorau am weini Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn lle twrci yw y gallwch chi fwynhau eich hoff drimins Nadolig o hyd fel tatws rhost, pannas, sbrowts a llugaeron!

Felly, er y gall gweini Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar gyfer cinio Nadolig gynhyrfu’r ffans twrci traddodiadol, bydd gwesteion yn siŵr o godi gwydraid, nid gwrychyn, i un o’r prydau rhost syfrdanol yma.

Bydd ein coes Cig Oen Cymru rost gyda pherlysiau, garlleg, a thafelli lemwn a chlementin yn creu argraff gyda’i hymddangosiad bywiog, tra bydd coes Cig Oen Cymru mwstard ffrwythau gyda llysiau’r gaeaf wedi’u rhostio yn y popty gan Francesco Mazzei hefyd yn dod â fflach o liw i’r bwrdd bwyta Nadoligaidd.

Yn gyforiog o flasau Nadoligaidd blasus, bydd ein coes rost Cig Oen Cymru gyda jin a llugaeron yn sicr o roi eich gwesteion yn ysbryd yr ŵyl!

Os yw’n well gennych weini cig eidion ar Ddydd Nadolig, wnaiff ein syrlwyn rhost Cig Eidion Cymru gyda sglein gwin coch a winwns crensiog ddim siomi, tra bod ein Wellington Cig Eidion Cymru gyda saws port a madarch yn seren go iawn!

Fel arall, ar gyfer cinio cig eidion rhost syml, clasurol, rhowch gynnig ar ein Cig Eidion Cymru ac iddo grwst perlysiau – yr un mor flasus â’r holl drimins Nadolig!

Mae’r prydau rhost hyn hefyd yn opsiynau gwych ar gyfer gwledd Gŵyl San Steffan.

Parti perffaith

Er y gall Dydd Nadolig fod yn ganolbwynt i’r dathliadau, peidiwch ag anghofio Noswyl Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Mae gwesteion partïon wrth eu bodd â rhywbeth ychydig yn wahanol i’w roi ar eu plât, felly rhowch rywbeth llawn sudd a blas i’ch gwesteion fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru hyfryd.

Bydd ein asennau gludiog o Gig Oen Cymru a’n asennau pupur a halen Cig Oen Cymru yn berffaith ar gyfer parti – gwnewch yn siŵr eich bod yn bachu un cyn iddyn nhw i gyd ddiflannu!

Gwnewch y parti’n un cofiadwy gyda lolipops Cig Oen Cymru crensiog neu Medaliynau Cig Oen Cymru crimp yn null Peking.

Os ydych chi’n bwriadu gweini danteithion cig eidion yn eich parti, rhowch gynnig ar ein darnau o Gig Eidion Cymru mewn quinoa crensiog, gyda dipiau neu ddarnau llosg brisged Cig Eidion Cymru. Bydd pawb wrth eu bodd!

A chofiwch – dyw parti ddim yn barti heb sleisys pizza. Fodd bynnag, peidiwch â gweini unrhyw hen pizza. Gweinwch pizzas bychain Cig Eidion Cymru, yn llawn briwgig, llysiau a chaws lliwgar sy’n siŵr o dynnu dŵr i’r dannedd.

Popeth-mewn-un Nadoligaidd

Os ydych chi’n mwynhau ymlacio yn eich wynsi newydd dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, beth am barhau â’r thema hamddenol a gwneud pryd popeth-mewn-un – cymerwch y diwrnod i ffwrdd, a gadewch i’r popty wneud yr holl waith.

O gaserols moethus i brydau hambwrdd pobi blasus, mae ein ryseitiau’n caniatáu ichi greu prydau anhygoel heb gyfaddawdu ar amser hollbwysig gyda ffrindiau a theulu.

Beth am wneud Gŵyl San Steffan yn fendigedig a phlesio gwesteion ffyslyd gyda’n Hanner coes Cig Oen Cymru â sglein mêl gyda phannas a gellyg crensiog, neu tynnwch gracers dros ein Caserol Nadoligaidd Cig Oen Cymru sbeislyd – holl flasau tymor y Nadolig heb y ffwdan.

Gwesteion annisgwyl? I gael pryd cysurus sy’n gyflym ac yn gynnes, rhowch dro ar ein Hotpot Cig Oen Cymru a chaws pob. Gan ddefnyddio Cig Oen Cymru rhost dros ben, gallwch roi’r pryd hwn at ei gilydd yn hawdd, ac mae’n siŵr y bydd gennych chi’r rhan fwyaf o’r cynhwysion yn barod! Diolch byth!

Fel arall, mae ein Cig Eidion Cymru wedi brwysio gyda llugaeron a chnau castan yn crynhoi blasau traddodiadol y Nadolig, ynghyd â’n Cig Eidion Cymru un ddysgl gyda chnau castan.

Croesawch eich anwyliaid dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn syml ac yn flasus gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Share This