facebook-pixel

Mwynhewch fwyta’n iach gyda Cig Oen Cymru PGI

Hyd 1, 2020

Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig i ni edrych ar ôl ein hunain a sicrhau ein bod ni’n gwneud y gorau y gallwn i gadw’n iach ac yn hapus. Yn gyffredinol, mae angen ymarfer corff rheolaidd, digon o gwsg, cadw’n hydradol trwy yfed digon o ddŵr a dilyn deiet iach a chytbwys a fydd yn helpu amddiffynfeydd naturiol ein cyrff a chefnogi ein system imiwnedd.

Ceisiwch fwyta deiet amrywiol sy’n llawn lliw, gan gynnwys digon o ffrwythau a llysiau, grawn cyflawn, ffa a chodlysiau, yn ogystal a rhywfaint o gig coch heb lawer o fraster, pysgod ac wyau.

Mae cig coch yn llawn o fitaminau a mwynau hanfodol – Fitaminau A, B a D, haearn, magnesiwm, zinc, seleniwm a photasiwm.  Mae hefyd yn cynnwys mathau o haearn a zinc sy’n cael eu hamsugno’n well gan ein cyrff na’r rheini sydd i’w cael mewn unrhyw ffynonellau deietegol eraill. Mae cig oen yn ffynhonnell gyfoethog o sinc a fitamin B12 ac yn ffynhonnell fitamin B6 ac mae pob un ohonynt yn helpu’r system imiwnedd i weithio fel y dylai.

Felly, nid yw’n syndod fod bwyta Cig Oen Cymru gyda llai o fraster fel rhan o ddeiet iach a chytbwys yn gallu helpu rhoi hwb i’ch iechyd a llesiant.

Mae Wythnos Bwyta’n Iach (Healthy Eating Week) yn digwydd 28 Medi – 4 Hydref, ac felly er mwyn helpu chi i gael y gorau o Gig Oen Cymru maethlon, dyma 5 awgrym ar sut i’w ddefnyddio fel rhan o ddeiet iach a chytbwys.

  1. Prynwch heb lawer o fraster – Mae cig oen heb lawer o fraster wedi’i docio’n llawn yn cynnwys 8% o fraster yn unig
  2. Paratowch heb lawer o fraster – Trimiwch gymaint o fraster i ffwrdd ag sy’n bosib cyn coginio
  3. Coginiwch heb lawer o fraster – Peidiwch ag ychwanegu mwy o olew at y cig a griliwch yn hytrach na’i ffrio. Mae tro-ffrio yn dda gan mai ychydig iawn o olew, neu ddim o gwbl, sy’n cael ei ychwanegu at y cig. Tynnwch unrhyw fraster sy’n toddi wrth goginio
  4. Gweinwch heb lawer o fraster – Wrth wneud caserol neu gawl gallwch sgimio unrhyw fraster oddi ar yr wyneb cyn gweini
  5. Mwynhewch yn gymhedrol – Mae’r Adran Iechyd yn argymell bwyta hyd at 70g o gig coch wedi ei goginio a chig wedi ei brosesu bob dydd, sydd ychydig yn llai na 500g mewn wythnos.

Hoffech chi roi ein hawgrymiadau ar waith? Am fwy o syniadau, ewch i’n tudalennau ryseit yma.

Share This