facebook-pixel

Rhowch hwb iach i’ch hun yn y ffordd naturiol…

Ion 10, 2023

Ydych chi weithiau’n teimlo ychydig yn ddi-hwyl am ddim rheswm amlwg? Gallai lleddfu blinder a gwella eich lles cyffredinol fod mor syml â bwyta diet amrywiol a chytbwys.

Cig Oen Cymru gyda sinsir a shibwns wedi’i dro-ffrio

 

Gall cig coch fel rhan o ddiet iach a chytbwys wneud cyfraniad pwysig at gymeriant maetholion fel haearn a sinc. Mae hefyd yn darparu protein o ansawdd uchel ac amrywiaeth o faetholion eraill, gan gynnwys fitaminau B, potasiwm a ffosfforws.

Oeddech chi’n gwybod:

  • Gall cig coch fel rhan o ddiet iach a chytbwys wneud cyfraniad pwysig at gymeriant maetholion fel haearn a sinc yn niet y DU
  • Mae cig coch hefyd yn darparu protein o ansawdd uchel ac amrywiaeth o faetholion eraill, gan gynnwys fitaminau B, potasiwm a ffosfforws
  • Mae potasiwm yn cyfrannu at weithrediad normal y cyhyrau a’r nerfau ac yn helpu i gynnal pwysedd gwaed arferol
  • Mae sinc yn cefnogi ffrwythlondeb normal ac atgenhedlu
  • Mae cig coch yn naturiol isel mewn sodiwm (elfen allweddol mewn halen). Mae lleihau’r defnydd o sodiwm yn helpu cynnal pwysedd gwaed normal
  • Mae cig yn cyfrannu at wella amsugno haearn pan gaiff ei fwyta gyda bwydydd eraill sy’n cynnwys haearn
  • Mae cig a chynnyrch llaeth yn cynnwys fitamin B12, maetholyn hanfodol nad yw’n bresennol yn naturiol mewn diet fegan

 


Ychydig mwy am fanteision fitamin B12…

Mae fitamin B12 yn chwarae rhan bwysig wrth gadw ein cyrff i weithredu’n normal, gan leihau blinder a lludded, ac yn wahanol i fwydydd sy’n seiliedig ar blanhigion, mae i’w gael yn naturiol mewn bwydydd sy’n dod o anifeiliaid, gan gynnwys Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

 

Beth mae fitamin B12 yn ei wneud?

Mae’n hydawdd mewn dŵr ac yn cael ei amsugno’n hawdd i’r llif gwaed, ac mae fitamin B12 yn helpu i gadw’r system imiwnedd i weithio’n normal, gan gynnwys gweithrediad seicolegol ein cyrff.

Mae manteision fitamin B12 yn niferus, yn helpu gyda;

  • Gweithrediad normal yr ymennydd
  • Cynhyrchu celloedd gwaed coch
  • Gweithrediad nerfau
  • Cynhyrchu DNA

 

Sut alla i gael digon o fitamin B12 yn fy niet?

Bydd diet amrywiol a chytbwys yn rhoi’r maetholion sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys fitamin B12. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell protein o ansawdd uchel, mae Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru hefyd yn gyfoethog mewn fitamin B12.

Salad Asiaidd Cig Eidion Cymru a nwdls

 

A yw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy?

Mae gan y ffordd Gymreig o ffermio stori wahanol iawn i’w hadrodd o gymharu â rhai o’r systemau dwys a diwydiannol a geir mewn rhannau eraill o’r byd.

Gyda safonau uchel o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae ein ffermydd teuluol wedi helpu i warchod ein tirwedd unigryw ers cenedlaethau, a byddant yn parhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod.

Cymerwch agwedd gytbwys…

Cyn i chi estyn am donic neu atchwanegiad ateb cyflym, mae’n werth ystyried manteision bwyta diet cytbwys sy’n cynnwys cig coch a mwynhau manteision hirdymor y ffordd naturiol. Gallwch ddysgu mwy am rai o fanteision ehangach bwyta diet iach a chytbwys gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ein hadran iechyd. Hefyd, gallwch ymweld â’n tudalennau ryseitiau am lawer o syniadau am brydau blasus a maethlon.

Share This