facebook-pixel

Goreuon barbeciw Cig Oen Cymru Chris ‘Flamebaster’ Roberts

Awst 1, 2022

Ydych chi’n barod am fwyd tanllyd?

Taniwch y gril. Cydiwch yn eich offer. Mae’n bryd cofleidio’r blas ‘Flamebaster’ anhygoel.

Rydyn ni wedi casglu ryseitiau barbeciw Cig Oen Cymru gorau Chris at ei gilydd i chi roi cynnig arnynt yn ystod yr haf. O gydweithio gyda hen ffrindiau i gyfeillgarwch newydd, gwyliwch Chris wrth iddo rannu ei hoff greadigaethau Cig Oen Cymru gydag eraill sy’n dwlu ar fwyd.

Creu cyfeillgarwch newydd dros gariad at Gig Oen Cymru

Pan gyfarfu Chris â’n ‘Cig-gennad’ newydd a’r cogydd teledu Francesco Mazzei, doedd dim amdani ond creu gwledd o Stêcs coes Cig Oen Cymru gyda salsa golosgedig a bara croyw iddo. Cynhaliwyd y croeso Cymreig unigryw ar ochr bryn ar fferm Lisa a Ken Markham yn Eryri mewn arddull ‘Flamebaster’ go iawn!

‘Syml’ a ‘gwladaidd’ yw’r geiriau mae Chris yn eu defnyddio i ddisgrifio’r pryd syfrdanol hwn i’w rannu, ac mae ganddo ddawn i ddod o hyd i flas ychwanegol heb ffws.

“Peidiwch byth â gwastraffu’r suddion gorffwys – hylif aur yw hwn. Dwi hefyd wrth fy modd yn llosgi llysiau ar gyfer y salsa – mae’n rhoi dimensiwn arall iddo.” Chris Roberts

Gwyliwch fideo rysáit newydd Cig Oen Cymru Chris yma:

 

Bwyd bendigedig gyda Black Axe Mangal

Wrth i ni fodio trwy ôl-gatalog goreuon barbeciw Cig Oen Cymru Chris, roedd y gyfres o ryseitiau fideo unigryw gyda’r hen ffrind Lee Tiernan o fwyty Black Axe Mangal yn Llundain yn sicr yn aros yn y cof.

Mae’r bwyty adnabyddus yn Highbury – sy’n cael ei dalfyrru i BAM gan y rhai sy’n ei adnabod yn dda – yn cael ei ysbrydoli gan arddull coginio gril mangal Twrcaidd, ac mae wedi datblygu enw i’w hun trwy gynnig bwyd beiddgar, bachog ac anturus.

Wrth ffilmio yng nghanol Eryri, rhannodd Lee a Chris awgrymiadau coginio gyda’i gilydd wrth greu pedair rysáit danllyd, blasus, llawn hwyl a oedd yn cynnwys Cig Oen Cymru, fel nad ydych erioed wedi’i weld o’r blaen.

Os nad oes gennych chi bwll tân neu ‘plancha’, gallwch ail-greu’r ryseitiau anhygoel hyn gartref ar radell dan do neu ar farbeciw. Dyma flas ar eu campweithiau:

 

Gall coginio ar dân fod yn bwnc ‘llosg’ weithiau, felly dyma ein Barbe-Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu!

Beth yw’r tanwydd gorau i’w ddefnyddio ar farbeciw siarcol?

Prynwch y tanwydd o’r ansawdd gorau y gallwch ei fforddio. Mae siarcol pren caled yn ddelfrydol.

Pryd ddylwn i danio’r barbeciw?

Taniwch y barbeciw o leiaf 30 munud cyn i chi ddechrau coginio arno.

A oes angen i mi baratoi cig ar gyfer y barbeciw?

Mae’n well tynnu cig allan o’r oergell 15 munud cyn ei goginio. Bydd hyn yn sicrhau bod y cig yn coginio’n gytbwys. Gallwch hefyd farinadu’r cig ychydig oriau cyn ei goginio, neu dros nos, i ychwanegu blas ac i’w wneud yn fwy tyner.

Pryd alla i ddechrau coginio ar y barbeciw?

Gallwch ddechrau grilio pan fydd y siarcol yn edrych yn llwyd powdrog, bron yn wyn, gyda llewyrch coch oddi tano.

A allaf ychwanegu blas i’r cig wrth goginio ar y barbeciw?

Gallwch! Ceisiwch ychwanegu ychydig o sglodion pren derw neu hicori neu hyd yn oed berlysiau aromatig ffres i’r siarcol. Mae sbrigyn o rosmari hefyd yn gwneud sgiwerau rhagorol, yn trwytho’r cig o’r tu mewn.

Pam mae fy nghig yn llosgi ar y barbeciw?

Mae llosgi’n digwydd pan fydd cig yn dod i gysylltiad â fflamau’r barbeciw. Gadewch i’r fflamau farw cyn coginio. Yn ogystal, os ydych chi’n ychwanegu gormod o olew i’ch cig, bydd yn diferu i lawr ar y siarcol ac yn tanio’r fflamau. Defnyddiwch thermomedr cig i wirio tymheredd y cig bob tro, oherwydd ar y tu allan efallai y bydd yn edrych wedi’i goginio ond ar y tu mewn, gallai fod yn amrwd o hyd.

Sut mae atal byrgers rhag mynd yn sych?

Anwybyddwch yr ysfa i wasgu byrgers i lawr ar y barbeciw, oherwydd fel hyn bydd yr holl suddion yn dianc!

 

 

I gael rhagor o ryseitiau barbeciw, cyngor ac awgrymiadau am Gig Oen Cymru, ewch i’n tudalen coginio campus ar y barbeciw a troi’n gimaster ar y grill!

Share This