facebook-pixel

#TanYnEichBol gyda’r Scarlets a Chig Eidion Cymru

Ion 15, 2020

Rydyn ni wedi ymuno â thim rygbi’r Scarlets fel rhan o’n hymgyrch #TanYnEichBol i hyrwyddo buddion Cig Eidion Cymru fel rhan o fywyd iach ac egnïol.

Bydd y bartneriaeth yn gweld chwaraewyr yn gwaredu eu capiau sgrym ac yn gwisgo eu ffedogau coginio i greu ryseitiau Cig Eidion Cymreig blasus a maethlon sy’n deilwng o ddeiet athletwr proffesiynol, ond a fydd y garfan yr un mor dalentog yn y gegin ag y mae nhw ar y cae rygbi? Cadwch olwg allan dros y misoedd nesaf i weld!

Rhowch gic i felan mis Ionawr dros yr ystlys ac edrychwch ar ymgais goginio gyntaf y tim wrth i’r sêr James ‘Cubby’ Davies, Morgan Jones a Joe Roberts weithio gyda chogydd y tîm i ail-greu – i raddau amrywiol o lwyddiant! – un o’r ryseitiau mwyaf poblogaidd gaiff ei weini ym mlychau corfforaethol Parc y Scarlets.

Mae’r cyswllt yma yn ddatblygiad o’r thema chwaraeon lwyddiannus #TanYnEichBol, ac yn dilyn partneriaeth y llynedd â seren rygbi menywod Cymru, Elinor Snowsill, yn dangos sut y gall Cig Eidion Cymru heb lawer o fraster chwarae rhan maethol flaenllaw i’r rhai hynny sydd am gadw’n heini ac yn iach.

Share This