facebook-pixel

Pobl ddylanwadol ym myd bwyd yn mwynhau danteithion Gŵyr

Awst 30, 2019

Er mwyn paratoi at Galan Oen 2019 gwahoddon ni bobl ddylanwadol o’r byd blogio bwyd i Benrhyn Gŵyr am ddiwrnod llawn antur i arddangos tarddiad a threftadaeth Cig Oen Cymru.

Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad â Hugh Phillips Gower Butchers, a roddodd ddosbarth meistr ar sut i fwtsiera cig oen, ac egluro rhinweddau’r gwahanol ddarnau o’r anifail a sut bod cymaint mwy i gig oen na dim ond y goes.

Nesaf aethon ni draw i fferm Gower Salt Marsh Lamb i gael profiad ymarferol o gynefin unigryw morfeydd heli’r ardal a chael golwg ar y cariad a’r ymroddiad sydd eu hangen i fagu’r anifeiliaid, a sut mae eu hamgylchedd yn cael cymaint o effaith ar flas y cig.

Yn olaf, safle trawiadol bwyty Beach House ym Mae Oxwich oedd y lleoliad ar gyfer arddangosfa goginio a swper gyda’r cogydd llwyddiannus, Hywel Griffith. Mae’r Beach House yn cael ei holl gig oen o fferm Gower Salt Marsh Lamb felly cafodd ein hymwelwyr brofiad ‘o’r pridd i’r plat’ go iawn, ac nid yn unig bod yr amrywiaeth o brydau y bwytaodd ein harbenigwyr ni’n flasus tu hwnt, ond roedden nhw hefyd yn arddangos pa mor anhygoel o amlbwrpas y gall cig oen fod.

Felly, “Be’ nesa’?” Ar ôl cael eu hysbrydoli gan eu taith i gefn gwlad Cymru, mae ein Cig-genhadon ‘bwyd-frydig’ wedi bod yn brysur yn dyfeisio prydau anhygoel eu hunain. Gallwch chi weld y danteithion maen nhw wedi eu creu drwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu gofrestru ar gyfer cylchlythyr Teulu Cig Oen Cymru fan hyn. Ond yn y cyfamser, dyma ambell un sydd wedi cael ei gyhoeddi’n barod:

Share This