facebook-pixel

Caru Cig Oen? Byddwch mewn cariad â Wythnos Caru Cig Oen

Medi 1, 2023

Gyda naws y gwyliau’n diflannu, ac wrth i’r barbeciws brinhau, mae wythnos gyntaf mis Medi yn cyrraedd gydag Wythnos Caru Cig Oen!

I ddathlu’r arddangosfa hon o gig oen blasus sy’n para wythnos (1-7 Medi), beth am roi cynnig ar ein ryseitiau Cig Oen Cymru godidog. O brydau cyflym a syml i’r teulu i brydau pob a rhost trawiadol, gallwch ddefnyddio Cig Oen Cymru unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.

Beth am ddathlu gyda phastai bugail sbeislyd Morocaidd Cig Oen Cymru blasus ar nos Sadwrn. Mae briwgig cig oen yn flasus, yn werth da am arian ac yn gynhwysyn hawdd ei ddefnyddio – yn ddelfrydol ar gyfer prydau teuluol.

Pastai’r bugail â sbeis Morocaidd

Fel arall, ewch amdani gyda’r pryd pob syfrdanol hwn. Mae siancod kleftiko Cig Oen Cymru yn hawdd i’w paratoi ac yn sicr o blesio.

Siancod kleftiko Cig Oen Cymru

Mae’r pizza Cig Oen Cymru, pesto a ffeta blasus hwn hefyd yn dangos pa mor hyblyg y gall coginio gyda chig oen fod.

Pizza Cig Oen Cymru a phesto gyda ffeta

Ond nid yw Wythnos Caru Cig Oen yn ymwneud â ryseitiau cig oen blasus yn unig, mae hefyd yn dathlu ein ffermwyr ymroddedig sy’n cynhyrchu Cig Oen Cymru blasus yn naturiol ac yn helpu i gynnal ein tirweddau unigryw.

Mae ucheldiroedd y canolbarth yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, yn debyg iawn i’r rhan fwyaf o Gymru, ac ymylol yw’r tir. Fodd bynnag, mae da byw yn ffynnu ar y bryniau hyn.

Ynghyd â’r dirwedd unigryw, mae ffermwyr yn gweithio ochr yn ochr â’r hyn y mae natur wedi’i roi iddynt i gynhyrchu ac aeddfedu’r ŵyn yn y modd mwyaf naturiol posibl.

Darganfyddwch sut mae ffermwyr fel Emily Jones yn cynhyrchu Cig Oen Cymru eithriadol law yn llaw â byd natur ar ei fferm yng Ngheredigion yma:

“Dwi wrth fy modd gyda’r ffaith eich bod chi yno bob cam o’r broses – o’r anifeiliaid yn cael eu geni, dod â bywyd newydd i’r byd, a’u gweld yn mynd ymlaen i ffermydd eraill.”

Ers canrifoedd, mae ffermwyr Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu a chynnal y tirweddau gwledig hynod brydferth rydym yn eu hadnabod ac yn eu caru, ac mae eu rheolaeth gynaliadwy wedi helpu i greu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n gyfoethog o ran bywyd gwyllt ac yn gyfeillgar i ymwelwyr.

Mae Ken a Lisa Markham yn pori eu praidd Mynydd Cymreig ar y gweiriau naturiol ar Gader Idris, mynydd ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.

“Mae’r ffordd yma o ffermio yn dda i’r glaswellt a’r amgylchedd – mae popeth yn gweithio’n dda. Mae ein hŵyn yn byw ar y glaswellt naturiol – maen nhw’n pesgi’n naturiol.”

Cewch gip ar fferm y Markhams a’n hysbyseb teledu Cig Oen Cymru newydd yma.

Felly onid yw’n dda gwybod, tra eich bod yn mwynhau cig oen blasus a maethlon, ei fod wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy? Pa mor flasus yw hynny?

Mwynhewch Wythnos Caru Cig Oen!

Share This