facebook-pixel

Byw’n iach heb fawr o strach gyda’r Scarlets

Medi 22, 2022

Oes gan eich plentyn freuddwydion o chwarae rygbi proffesiynol, sgorio cais ym Mharc y Scarlets neu ennill cap dros Gymru? Rydym wedi bod yn gweithio gyda staff academi y Scarlets ac mae’n debyg mai’r gyfrinach i wireddu’r freuddwyd yw ymarfer corff rheolaidd a deiet maethlon, cytbwys.

Ers wythnosau bellach, mae ein tîm wedi bod yn gweithio â tim cryfder a chyflyru’r Scarlets i llunio canllaw ffitrwydd a maeth cynhwysfawr ar gyfer pobl ifanc Cymru. Y canlyniad yw llyfryn sy’n llawn ryseitiau iachus a chyngor ar gadw’n heini ac yn egnïol, tra’n tynnu sylw at fanteision maethol niferus diet cytbwys gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o ffynonellau lleol.

I lansio’r llyfryn gwahoddwyd i ni’r cogydd teledu a meistr y barbeciw Chris ‘Flamebaster’ Roberts draw i ddigwyddiad arbennig ym Mharc y Scarlets i goginio gwledd i rai o’r chwaraewyr, wrth i’r rhanbarth barhau i gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru.

Un o’r rheiny oedd ddigon ffodus i gael blasu brechdan iachus Cig Eidion Cymru Chris oedd prop y Scarlets a Chymru Wyn Jones, a gafodd ei fagu ar fferm wartheg a defaid ac yn gwybod yn iawn am yr angerdd a’r gwaith caled sy’n cael ei wneud i gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Wrth siarad am bwysigrwydd maeth da wrth gefnogi diwydiant amaethyddol Cymru, dywedodd:

“Fel athletwr o Gymru, mae Cig Eidion Cymru yn bwysig i mi ar ddwy lefel. Nid yn unig y mae’n ffynhonnell ardderchog o brotein, yn llawn llawer o fanteision maethol sy’n hanfodol ar gyfer fy adferiad, ond a minnau’n dod o gefndir ffermio, rydw i hefyd yn gwerthfawrogi sut a ble y caiff ei ffermio.

 

“Mae’n dda gwybod bod Cig Eidion Cymru a Chig Oen Cymru yn cael eu bridio yma, yn lleol i Lanelli ac i mi yn Llanymddyfri. Mae gwybod fy mod yn bwyta cynnyrch lleol, naturiol, o safon sydd wedi derbyn gofal, gyda digon o awyr iach ac yn cael ei fwydo ar laswellt, yn rhywbeth eithaf arbennig.”

Roedd Chris mewn hwyliau da fel arfer a fe neidiodd ar y cyfle i ganmol Cig Eidion Cymru:

“Y peth gwych am Gig Eidion Cymru yw nad oes rhaid ei lwytho â sawsiau cyfoethog iddo flasu’n dda. Mae stêc Cig Eidion Cymru, fel syrlwyn, yn rhyfeddol, wedi’i sesno’n ysgafn a’i grilio a’i weini gyda salad neu salsa blasus – mae hefyd yn rhyfeddol mewn pryd tro-ffrio cyflym ac iach.

Felly os ydych chi yn ardal Llanelli neu’n mynd i wylio gêm ym Mharc y Scarlets cyn bo hir, cofiwch nôl eich copi rhad ac am ddim o’r llyfryn o siop clwb y Scarlets, neu os ydych chi’n rhy ddiamynedd gallwch lawrlwytho copi fan hyn.

Share This