Y cogydd Tom Simmons yn ysbrydoli blas cartrefol y Nadolig hwn

Rhag 2, 2020

Fyddai’r Nadolig ddim yn Nadolig heb fwyd a diod da. Eleni, er efallai bod cyfyngiadau ar faint o bobl y gellir coginio ar eu cyfer o dan yr un to, mae gennym ni ryddid i brynu ein bwyd a’n diod Nadoligaidd gan ba fanwerthwr bynnag yr hoffen ni.

Er mwyn helpu i ysbrydoli’r arbenigwyr bwyd hynny yn ein plith i wneud y gorau o rai o’r cynhyrchion gwych sydd ar gael ar ein trothwy, mae’r cogydd o Sir Benfro, Tom Simmons, wedi ymuno â ni ynghyd ag enwau blaenllaw eraill o bob rhan o’r diwydiant i ddangos pam y dylai cwsmeriaid Cymru ddewis cig oen, cig eidion a phorc lleol y Nadolig hwn.

Safbwynt arbenigwr bwyd

Mae Tom, sydd wedi bod wrth y llyw yn Tom Simmons Tower Bridge yn Llundain ers 2017, wedi dychwelyd i Gymru yn ddiweddar ac wedi agor Thomas by Tom Simmons gyda’i bartner, Lois. Mae’r bwyty newydd ym Mhontcanna, Caerdydd yn cael ei ddylanwadu gan fwyd Prydeinig a Ffrengig ac yn cael ei ysbrydoli gan wreiddiau Cymreig Tom.

Dywedodd Tom, sydd wedi dwli ar goginio erioed a sydd â pharch ac angerdd mawr at natur a chynhwysion Cymreig: “Mae’r Nadolig yn gyfnod prysur i ni, ond rydym ni wastad yn rhoi sylw i fanylion ansawdd a blas ein bwyd – dyna pam mai dim ond y cynhyrchion gorau gan ein cyflenwyr a’n ffermwyr lleol rydyn ni’n eu defnyddio.

“Rydym ni’n credu bod cig sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn blasu’n fwy ffres ac yn well na chynnyrch sydd wedi’i gynhyrchu ar raddfa fawr ac sydd wedi teithio ymhellach i gyrraedd platiau pobl, felly rydym ni’n falch iawn o gefnogi unrhyw ymgyrch sy’n hyrwyddo cefnogi cynhyrchwyr bwyd o Gymru.

“Mae gen i berthynas bersonol gyda phob cyflenwr i sicrhau fy mod yn defnyddio’r cynhwysion gorau posibl. Rwy’n gwybod yn union o ba ffermydd mae fy nghigydd yn cael ei gig, felly rwy’n hyderus mai’r hyn rydym ni’n ei roi o flaen ein cwsmeriaid yw’r hyn y mae’n honni bod. Mae olrhain yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ni ac yn y pen draw gall ein cwsmeriaid fod yn hyderus yn ansawdd y cynnyrch.

“Pan rwy’n prynu gan gigydd neu gyflenwr lleol, rwy’n gwybod fy mod nid yn unig yn cael cynnyrch o safon, ond fy mod yn cefnogi’r economi leol ac yn helpu’r amgylchedd hefyd drwy leihau milltiroedd bwyd. Gall pawb chwarae eu rhan i helpu ein manwerthwyr bwyd a diod lleol llai y Nadolig hwn.”

Y pwysigrwydd i economi Cymru

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn cefnogi’r ymgyrch, ac yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant i les economaidd cymunedau ledled Cymru gydag ymchwil yn dangos bod hyd at 70c o bob punt sy’n cael ei wario’n lleol gyda BBaCh, yn cylchredeg yn ôl i’r economi leol – arian sy’n cael ei ail-fuddsoddi i wella ein cymunedau.

Wrth siarad am bwysigrwydd y gadwyn gyflenwi gyfan i economi Cymru, o ffermwyr i gigyddion a bwytai’r stryd fawr, a phopeth arall yn y canol, dywedodd Pennaeth Materion Allanol FfBB Cymru, Ben Cottam: “Rydym ni’n sylweddoli bod eleni wedi bod yn anodd i fusnesau bach ledled Cymru, ac mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi busnesau lleol Cymru yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, yn enwedig o gofio’r effaith andwyol y gallai Brexit heb gytundeb ei gael ar ein ffermwyr.

“Gallwn fod yn falch iawn o’r cig oen, y cig eidion a’r porc o safon mae ein ffermwyr yn ei gynhyrchu ac nid yw’n gyfrinach bod ein safonau ymysg y gorau’n y byd. Yn ddiweddar, anogwyd y cyhoedd yng Nghymru i gefnogi cwmnïau bach ar yr adeg dyngedfennol hon yn dilyn y clo byr diweddar, ac ymhlith ein hawgrymiadau roedd i bobl siopa’n fach ac yn lleol y Nadolig hwn, i gofio ymweld â bwytai a chaffis annibynnol a hefyd i gefnogi’r sector lletygarwch.

“Felly, byddwn yn annog pobl nid yn unig i fynd allan a phrynu bwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol ond hefyd i ymweld â bwytai a chaffis sy’n gweini bwyd lleol ac sy’n buddsoddi’n ôl yn nyfodol ein cymunedau.”

Adfywiad cigydd y stryd fawr

Yn draddodiadol, mae siopau cigyddion ein Clwb Cigyddion yng nghanol y gymuned ac wedi bod yn rhan annatod o strydoedd mawr ledled Cymru a’r DU, gan ddarparu gwasanaeth hanfodol wrth gyflenwi bwyd ffres, lleol a chynaliadwy.

Tanlinellwyd eu lle hanfodol wrth galon y gymuned yn gynharach eleni yn ystod y cyfnod clo cyntaf gyda chynnydd mewn gwerthiant a nifer ohonyn nhw’n esblygu i gwrdd ag anghenion eu cwsmeriaid lleol.

Un busnes o’r fath oedd Dewi James a’i Gwmni yn Aberteifi a Chastellnewydd Emlyn, sydd ond yn un enghraifft o’r math newydd hwn o gigydd sydd wedi ymateb yn gadarnhaol i ddatblygiadau eleni. Dywedodd Dafydd Davies o’r cwmni: “Rydym ni’n teimlo ein bod ni fel cigyddion yn cynnig gwasanaeth unigryw i’n cwsmeriaid na ellir dod o hyd iddo yn unrhywle arall, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld ein cwsmeriaid rheolaidd a chroesawu cwsmeriaid newydd – boed hynny’n bersonol neu ar-lein, fel y gallan nhw brofi blas ac ansawdd unigryw ein cigoedd drostyn nhw eu hunain.

“Mae eleni wedi bod yn heriol i’r rhan fwyaf ohonom ni, ac rydym ni wedi bod yn brysur yn darparu cigoedd o safon sydd wedi’u dewis â llaw i’n cwsmeriaid pan nad oedd yn bosibl iddyn nhw ddod i’n siop. Rydym ni’n gwerthfawrogi eu busnes, felly aethom ni â’r siop atyn nhw!

 “Fel perchnogion busnes, rydym ni wedi gweld effeithiau’r pandemig ar fusnesau eraill ac mae’n eithaf digalon. Ond rydym ni’n gobeithio, drwy annog pobl i brynu’n lleol, ein bod yn helpu i sicrhau bod ein cymuned leol yn parhau i ffynnu ac y bydd yn aros felly i bawb ei mwynhau yn y blynyddoedd i ddod.”

Magu moesegol, cynhyrchu cynaliadwy

Mae’r ffordd y caiff ein bwyd ei gynhyrchu a’r effaith mae’n ei gael ar yr amgylchedd wedi dod yn ffactorau pwysig cynyddol i ni i gyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ers cenedlaethau, mae ffermwyr da byw Cymru wedi chwarae rhan ganolog wrth greu a chynnal ein tirweddau gwledig sydd mor gyfarwydd ac annwyl i ni.

Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn ymwybodol o sut a ble mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu. Y gwir amdani yw bod gan ffermio da byw ddwysedd isel yng Nghymru – stori wahanol iawn i’r systemau a welir mewn rhannau eraill o’r byd sydd wedi cael eu beirniadu am eu heffaith amgylcheddol. Drwy gyfuno dulliau ffermio traddodiadol ac arloesol, nodweddir ein system ffermio drwy wneud y gorau o’n digonedd o ddŵr glaw a glaswellt a thrawsnewid tir ymylol o ansawdd is yn brotein maethlon o ansawdd uchel.

Dywedodd Meinir Howells, sy’n ffermio Shadog, fferm 450 erw ger Llandysul: “Dwi’n credu bod ffermio wrth galon y gymuned; os yw’r ffermwr yn diflannu mae’r gymuned, yr iaith Gymraeg, y diwylliant, a phopeth arall sy’n dod yn eu sgil, yn diflannu.

“Mae cynifer o bobl yn bwydo oddi ar y ffermwr mewn un ffordd neu’r llall. Ar ein fferm ni rydyn ni’n cyflogi pobl i ddod yma a’n helpu ni gyda silwair a biswail, ffensio, ac adeg wyna mae rhywun yn dod i’n helpu ni. Pa bynnag arian rydyn ni’n ei wneud ar y fferm, rydyn ni’n gwario’r rhan fwyaf ohono o fewn radiws o 20 milltir.”

Mae Meinir hefyd yn credu’n gryf y dylai ffermwyr weithio gyda natur, i helpu cynnal bioamrywiaeth, yn ogystal â chynhyrchu bwyd o ansawdd da.

“Rydyn ni wedi plannu tua 9,000 o goed yma ac wedi gosod ffensys dwbl ar ein gwrychoedd, a thrwy wneud hynny rydyn ni’n creu coridorau, lloches a bwyd naturiol ar gyfer bywyd gwyllt; ond mae gennyn ni focsys adar a chychod gwenyn hefyd. Rydyn ni wedi gosod ffensys o gwmpas nentydd a chadw’r dŵr yn lân, ac ar rywfaint o’r tir gwaethaf sydd gennyn ni, yn hytrach na’i wella a cheisio ymladd yn erbyn natur, rydyn ni wedi ei roi’n ôl i fywyd gwyllt.

“O edrych ar lawer o dirwedd Cymru, nid yw yno ar ddamwain; mae cenedlaethau o bobl wedi gweithio mor galed a diflino i edrych ar ôl y tir hwnnw. Mae’n broses naturiol, y ffordd rydyn ni’n magu ein hanifeiliaid, oherwydd maen nhw’n pori’n rhydd y tu allan ar yr amrywiaeth o laswellt sydd gennyn ni fel perlysiau a meillion.

“Yn y bôn, chi’n gwybod bod chi’n cynhyrchu rhywbeth arbennig iawn – cynnyrch da sy’n iachus ac yn llawn mwynau a fitaminau.”

 Felly dyna ni, mae busnesau annibynnol Cymru eich angen CHI, yn ystod y cyfnod Nadoligaidd hwn a thu hwnt fel y gallant barhau i gyfrannu’n gadarnhaol at ein cymunedau lleol.

Cymerwch gip ar ein tudalennau ryseitiau i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich bwydlenni cartref cyn ymweld a’ch aelod Clwb Cigyddion Cymru a llenwi’ch cypyrddau a’ch oergelloedd gyda’ch holl anghenion cig coch Nadoligaidd.

Share This