facebook-pixel

Y ffordd Gymreig o ffermio: dyma sut rydyn ni’n mynd ati

Gor 29, 2022

Pan ddaeth ein ‘Cig-gennad’ newydd a’r cogydd blaenllaw o Lundain, Francesco Mazzei, i un o’n ffermydd mynydd Cig Oen Cymru yng ngogledd Cymru, roedd yn ei atgoffa o’i gartref yn Calabria, de-orllewin yr Eidal.

Ag yntau’n gredwr cryf mewn ‘syml ond effeithiol’, darganfu Francesco fod y ffordd Gymreig o ffermio hefyd yn ymwneud â chadw pethau’n syml, yn union yn ôl bwriad natur.

Beth mae ffermwyr da byw Cymru yn bwydo eu hŵyn?

Mae Ken a Lisa Markham yn ffermio yn Llanfihangel-y-Pennant ac yn frwd dros gynhyrchu Cig Oen Cymru. Mae eu praidd Mynydd Cymreig yn pori’r gweiriau naturiol ar Gader Idris, mynydd ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r Markhams yn cymryd rhan mewn cynlluniau amgylcheddol i sicrhau bod y fferm yn gweithio mewn cytgord â natur wrth gynhyrchu cynnyrch maethlon a naturiol o ansawdd.

“Mae ein hŵyn yn byw ar y glaswellt naturiol – maen nhw’n pesgi’n naturiol.”

Sut mae ffermwyr da byw Cymru yn gofalu am y dirwedd?

Ar ddiwedd mis Rhagfyr, mae’r praidd yn cael eu tywys i lawr o’r mynydd, sy’n rhoi tri mis i’r glaswellt wella. Mae’r praidd yn dychwelyd i’r mynydd ar 1 Ebrill.

Ers canrifoedd, mae ffermwyr Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu a chynnal y tirweddau gwledig hynod brydferth rydyn ni’n eu hadnabod ac yn eu caru, ac mae eu rheolaeth gynaliadwy wedi helpu i greu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n gyfoethog o ran bywyd gwyllt ac yn gyfeillgar i ymwelwyr.

“Mae’r ffordd yma o ffermio yn dda i’r glaswellt, yr amgylchedd – mae popeth yn gweithio’n iawn.” Ken Markham

Pam fod Cig Oen Cymru mor arbennig?

Gyda safonau uchel o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae ffermydd teuluol wedi helpu i warchod y dirwedd unigryw hon ers cenedlaethau. Dyma un o’r rhesymau pam mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi ennill y statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) clodwiw gan y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.

“Mae’n rhaid i ni ffermio yn y ffordd naturiol, fel mae ein cyndeidiau wedi gwneud ers canrifoedd.” Lisa Markham

Sut mae ffermwyr da byw Cymru yn rhan annatod o’r economi wledig?

Mae ffermwyr da byw Cymru, fel Ken a Lisa, yn cefnogi marchnadoedd da byw lleol, yn cynnal yr economi wledig ac yn cefnogi swyddi lleol. Mae ffermydd mewn cymunedau gwledig yn dibynnu ar ei gilydd, o symud da byw i gneifio defaid, ac yn gyffredinol yn gwario’r hyn maen nhw’n ei ennill o fewn eu hardal leol.

Diwylliant yw gwead cymunedau gwledig hefyd. Trwy gefnogi busnesau gwledig eraill, mae ffermydd teuluol Cymreig yn cadw traddodiadau ffermio a’r iaith Gymraeg yn fyw.

A oes modd olrhain Cig Oen Cymru?

Mae’n dda gwybod o ble y daw bwyd, sut y cafodd ei fagu, ac ym mha wlad y cafodd ei gynhyrchu. Mae Cig Oen Cymru, yn ogystal â Chig Eidion Cymru, yn cael ei dagio a’i gofnodi o’i enedigaeth, felly gellir ei olrhain i fferm benodol. Yn ogystal, dim ond lladd-dai sydd wedi’u cymeradwyo ac sy’n cael eu harchwilio’n rheolaidd sy’n gallu paratoi’r cig.

Ar ôl ymweld â fferm Ken a Lisa a dysgu sut maen nhw’n cynhyrchu cynnyrch naturiol eithriadol, mae gan Francesco angerdd o’r newydd dros Gig Oen Cymru.

“Nawr fy mod yn gwybod o ble mae Cig Oen Cymru yn dod a sut mae’n cael ei ofalu amdano, byddaf yn ei goginio gyda mwy fyth o barch.” Francesco Mazzei

Gwyliwch Richard Roderick o Fferm Newton ac Alun Elidyr o Gae Coch yn esbonio sut maen nhw’n defnyddio arferion ffermio cynaliadwy sy’n gweithio mewn cytgord â natur.

O’r giât i’r plât

Gwyliwch Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn coginio i Francesco Mazzei gan ddefnyddio Cig Oen Cymru Ken a Lisa.

Share This