facebook-pixel

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer hanner tymor a mentro tu allan gydag Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

Mai 28, 2021

Mae’n fis Mehefin, ac yng Nghymru, mae wythnos gyntaf y mis yn cychwyn gyda hanner tymor. Hwrê! Iawn, mae hi dal yn fis Mai ar y dydd Llun, ond mae’n Ŵyl y Banc, felly ‘hwrê’ arall!

Felly beth yw eich cynlluniau ar gyfer gŵyl y banc neu hanner tymor? Ydych chi wedi trefnu rhywle i aros? Hunan arlwyo? Gwersylla? Glampio? Os ydych chi’n bwriadu aros gartref, mae digon o bethau difyr i’w gwneud…

Diflastod hanner tymor?

Dyma ambell syniad bach i gadw’r plant yn brysur – yn ogystal â mynd â nhw i’r sinemâu, canolfannau bowlio, ardaloedd chwarae dan do ac amgueddfeydd sydd newydd ailagor, wrth gwrs!

Ewch â nhw i’r gegin. Mae dilyn rysáit yn ffordd wych o gael y plant i gymryd rhan a chanolbwyntio ar rywbeth cynhyrchiol. Bydd archwilio geiriau newydd a dysgu sut i ddilyn rysáit nid yn unig yn cynyddu eu geirfa ond eu sgiliau mathemateg hefyd. Byddan nhw hefyd yn dysgu sut mae gwahanol gynhwysion yn newid trwy’r broses goginio – sy’n wych ar gyfer profiad synhwyraidd. Edrychwch ar rai o’r ryseitiau hawdd eu dilyn ar ein gwefan. Dyma rai o’n ffefrynnau:

Os yw’n heulog tu allan… Paratowch ddanteithion Cig Oen Cymru blasus ac ewch â’r teulu allan am bicnic. Bydd y profiad o baratoi a phacio’r bwyd picnic yr un mor gyffrous i’r plant â’i fwyta tu allan yn yr awyr iach.

Mae ffermwyr Cymru yn gwybod sut i edrych ar ôl cefn gwlad sy’n galluogi ni i gyd fwynhau ei harddwch, darganfyddwch fwy am ffermio y Ffordd Gymreig.

Bwrw glaw yn sobor iawn? Diddymwch y diflastod a chyflwynwch blant iau i’n gweithgareddau llawn hwyl ar-lein. Byddan nhw’n dysgu popeth am ffermio yng Nghymru ac o ble mae ein bwyd yn dod. O wneud mygydau i chwileiriau – mae digon i’w ddarganfod a’i ddysgu ar ein fferm!

Share This