facebook-pixel

Pwyll pia hi gyda Chig Oen Cymru

Ion 29, 2021

Mae pawb yn gwybod na allwn ni reoli’r tywydd – ac allwn ni ddim chwaith newid ffactorau allanol eraill sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Fodd bynnag, gallwn ni weithio gyda’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar hyd y ffordd, yn hytrach nag yn eu herbyn nhw.

Yn y cyfnod eithriadol hwn, mae’n bwysicach nag erioed gofalu amdanom ni ein hunain. Gall bywyd fod yn ddigon o straen heb ychwanegu mwy o bryder ac ansicrwydd at y cyfan.

Felly efallai ei bod hi’n bryd arafu – amser bwyta bwyd iach; yfed digon o ddŵr: gorffwys ond aros yn egnïol. Er y gall mynd am dro ysgafn yn yr awyr agored helpu i leddfu straen, gall heulwen helpu’r corff i dderbyn Fitamin D, sy’n helpu’r system imiwnedd i weithredu’n iawn. Mae natur yn gwybod beth mae’n ei wneud.

Mae’r fitaminau a’r mwynau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer corff iachus i’w cael mewn diet iach a chytbwys. Mae hyn yn cynnwys ffrwythau a llysiau, bwydydd grawn gyflawn llawn startsh, cynnyrch llaeth, pysgod, cig heb lawer o fraster fel Cig Oen Cymreig llawn maeth – sy’n ffynhonnell naturiol o Fitamin D (ffynhonnell werthfawr yn enwedig yn y gaeaf pan nad oes cymaint o haul), Fitamin B6, B12 a Sinc, sydd yn helpu ein system imiwnedd i weithredu yn iawn ac yn cryfhau  amddiffynfeydd naturiol ein corff.

P’run bynnag, heb natur, fyddai dim Cig Oen Cymru unigryw a blasus!

Gwnewch y gorau o bryd o fwyd gydag ymwybyddiaeth ofalgar.

Ydych chi erioed wedi edrych ar afocado a meddwl tybed sut y cafodd ei dyfu? Ydych chi wedi gwylio’n ofalus wrth i’r swigod bach ffurfio ar waelod sosban o ddŵr wrth iddo gynhesu? Ydych chi wedi synfyfyrio ar flas ac arogl coriander? Oeddech chi’n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar heb sylweddoli?

Yn ôl HelpGuide, sefydliad nid-er-elw annibynnol sy’n rhedeg un o ddeg gwefan iechyd fwyaf poblogaidd y byd, er mwyn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar (y mae’n hysbys ei fod yn lleihau straen ac yn cynyddu hapusrwydd) mae angen i chi, ‘gymryd rhan mewn gweithgaredd gydag ymwybyddiaeth lwyr. Yn achos bwyta’n ystyriol, mae’n bwysig bwyta gyda’ch holl sylw yn hytrach na heb feddwl neu wrth i chi ddarllen, edrych ar eich ffôn, gwylio’r teledu, synfyfyrio, neu gynllunio’r hyn rydych chi’n ei wneud yn nes ymlaen. Pan fydd eich sylw’n crwydro, dewch ag ef yn ôl yn araf at eich bwyd a’r profiad o goginio, gweini a bwyta’.

Mae sylwi ar bob manylyn o’r broses goginio a bwyta’n araf ac yn fwriadol, sawru pob cegaid, yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddwch yn blasu mwy ac yn gwerthfawrogi’r bwyd. Mae bwyta’n ystyriol nid yn unig yn cynorthwyo treuliad, ond gall hefyd helpu’r signalau sy’n dweud wrth eich corff eich bod yn llawn, felly rydych chi’n llai tebygol o orfwyta. Gall siopa’n ystyriol hefyd helpu i leihau gwastraff yn eich cartref. Gwych! Felly sut mae mynd ati?

Yn gyntaf, symudwch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw o’ch ardal goginio – diffoddwch eich ffôn symudol, y teledu ac ati; anadlwch yn ddwfn ychydig o weithiau; defnyddiwch eich holl synhwyrau i fod yn gwbl bresennol yn ystod pob cam o’r broses goginio a bwyta – edrychwch, aroglwch, gwrandewch, blaswch a chyffyrddwch. Mwynhewch y profiad.

Nawr ymlaciwch ac ewch i bori’n hamddenol drwy ein ryseitiau coginio araf blasus.

Cawl Cig Oen Cymru traddodiadol

Ysgwydd Cig Oen Cymru blas cyri

Siancen Cig Oen Cymru gyda Ras el Hanout, salad couscous cynnes

 

 

 

 

 

Ysgwydd o Gig Oen Cymru wedi’i thynnu ac iddi grwst perlysiau

Medaliynau Cig Oen Cymru crimp yn null Peking

Mechoui Cig Oen Cymru gyda tagine llysiau gan Hang Fire

Share This