facebook-pixel

Yr wyth ysbrydoledig sy’n profi bod Cig Oen Cymru yn wych

Rhag 16, 2021

Mae ein casgliad rhithwir o ryseitiau eisoes yn llawn dop o’n hoff brydau Cig Oen Cymru, sy’n profi bod Cig Oen Cymru yn hynod o hyblyg. Ond wrth gwrs, gan ei fod yn ffolder rhithwir, mae ‘na wastad le i ambell un arall. Felly eleni rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â rhai o flogwyr bwyd a ffordd o fyw mwyaf poblogaidd y DU i gael hyd yn oed mwy o ryseitiau Cig Oen Cymru unigryw.

Mae gan ein dylanwadwyr bwyd nifer fawr iawn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, ac maen nhw’n gwybod cryn dipyn am arddangos y cynhyrchion gorau a rhoi cynnig ar (neu ddechrau!) y tueddiadau diweddaraf, felly roedden ni’n gwybod bod ein Cig Oen Cymru hyfryd mewn dwylo da. Dyma restr o’u rhyfeddodau Cig Oen Cymru sy’n siŵr o ddod â dŵr i’r dannedd.

Yr un sy’n gyfrifol am Telltale Food yw Julius Roberts, cyn-gogydd yn Llundain sydd bellach yn ffermio’n gynaliadwy yn Dorset. Mae ei Gig Oen Cymru wedi’i goginio’n araf gyda photes perlysiau yn llond powlen o fwyd iachus, gonest ac mae’n hynod flasus gyda stwnsh mwstard a gorfetys.

Dechreuwyd y blog Hungry Healthy Happy gan Dannii yn 2011 pan ddechreuodd rannu ryseitiau iach ar-lein. Bellach mae ei gŵr Dave wedi ymuno â hi, ac mae HHH yn trafod ffordd o fyw a lles. Maen nhw’n credu mewn gwneud prydau iach yn gytbwys yn ogystal ag yn gyffrous. Rhowch gynnig ar eu cebabau shish Cig Oen Cymru hawdd sy’n tynnu dŵr i’r dannedd neu yr un mor flasus yw’r ysgwydd Cig Oen Cymru yn y popty araf. Mae’r golwythion Cig Oen Cymru wedi’u pobi yn y popty hefyd yn gyflym ac yn gyfleus i’w gwneud gan fod y llysiau’n cael eu coginio gyda’r cig oen.

Mae Ciara Attwell yn awdures bwyd a llyfrau coginio a hi sydd wedi creu My Fussy Eater. Mae hi’n arbenigo mewn bwyd ar gyfer bwytawyr ffyslyd, ei nod yw cael plant i fwyta’n well ac mae’n creu ryseitiau sy’n addas i deuluoedd. Mae caserol siancen Cig Oen Cymru My Fussy Eater yn bryd iachus wedi’i goginio’n araf sy’n berffaith i’w weini i’r teulu ar ddyddiau oer.

Os ydych chi’n chwilio am y bwyd cysur gorau, rhowch gynnig ar gobler Cig Oen Cymru Lavender a Lovage gyda thwmplenni sgons garlleg. Mae Karen Burns-Booth, awdures bwyd a theithio, steilydd bwyd a datblygwr ryseitiau wedi creu’r pryd blasus hwn gyda misoedd yr hydref a’r gaeaf mewn golwg.

Mae Ed Smith yn awdur bwyd, siaradwr, ymgynghorydd a chogydd hyfforddedig a dechreuodd ei gyfnodolyn bwyd arobryn Rocket & Squash yn 2010. Am bryd blasus wedi’i goginio’n araf, rhowch gynnig ar Gig Oen Cymru gyda chennin a ffacbys. Mae’n gyflym i’w baratoi ac os ydych chi’n ddigon ffodus i gael rhywfaint o fwyd dros ben gallwch chi ei drawsnewid i mewn i rysáit clyfar sbarion Cig Oen Cymru, cennin a ffacbys Ed.

Mae Zainab Pirzada yn cyfareddu ei dilynwyr gyda’i phrydau hynod flasus ar ei sianel Cooking with Zainab. Rhowch gynnig ar gyri Cig Oen Cymru a sbigoglys Cooking with Zainab i gael trît penwythnos go iawn. Mae’n flasus iawn wedi’i weini gyda bara naan fflwfflyd cynnes neu reis basmati.

Mae blog The Curry Guy, ynghyd â nifer o lyfrau ryseitiau a ysgrifennwyd ac a grëwyd gan Dan Toombs hefyd, yn dangos i ffans cyri sut i wneud eu hoff brydau Bwytai Indiaidd Prydain gartref. Gwnewch gyri Champaran handi Cig Oen Cymru The Curry Guy ar gyfer parti swper a chewch dipyn o ganmoliaeth (a cheisiadau am y rysáit!).

Mae’r blogiwr bwyd o Lundain, Lucy Parrisi, yn ddatblygwr ryseitiau, ffotograffydd bwyd ac awdures. Mae ei flog Supergolden Bakes yn cyfuno ei hangerdd am fwyd a ffotograffiaeth, ac mae’n werth ei weld. Rhowch gynnig ar ei hotpot popty araf Cig Oen Cymru Supergolden Bakes am bryd hyfryd i’r teulu. Mae’n llawn dop o gig oen a llysiau, ac mae’n iachus iawn hefyd.

Share This