Enillwch hamper stêc Cig Eidion Cymru premiwm!
Wrth i’r nosweithiau fyrhau, mae’n werth cael ambell rysáit hawdd sy’n codi calon ar flaenau eich bysedd, onid yw hi? A beth sy’n cynnig mwy o gysur na golwg, sain ac arogl stecen yn hisian ar noson ddiflas?
O ffiled sy’n toddi yn eich ceg i syrlwyn a chloren flasus a brau, mae llawer o wahanol fathau o stêcs ar gael. Gellir eu gweini â saws moethus, eu sleisio’n bryd tro-ffrio iach, eu grilio’n syml a’u gweini â salad gwyrdd ffres neu â blas hydrefol madarch a thomatos bach ar y winwydden, mae stêcs mor hyblyg.
Ond beth bynnag fo’ch dewis, mae’r ateb gennyn ni. Rydyn ni’n cynnig cyfle anhygoel i chi ennill bocs o stêcs Cig Eidion Cymreig PGI premiwm, werth £50 yn llawn dop o amrywiaeth o stêcs, o siop eich aelod agosaf o Glwb y Cigyddion.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud am gyfle i ennill y wobr wych hon yw ein dilyn ni ar Facebook neu Instagram. Hawdd. Gorau oll, os ydych chi’n dilyn ein sianeli yn barod rydych chi eisioes yn ran o’r gystadleuaeth!
Yn y cyfamser, os ydych chi’n chwilio am rywfaint o gyngor ac awgrymiadau ar sut i goginio’r stêc berffaith, neu’n chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ar beth i’w goginio gyda’ch stêc, cymerwch gipolwg ar ryseitiau a fideos ein cogyddion. O ‘steak au poivre’ clasurol i stêc llygad yr asen wedi ei choginio gyda manis kecap melys – mae eich siwrne stêc yn dechrau fan hyn!
Sut ydych chi’n hoffi eich stêc chi wedi ei choginio?
Ydych chi’n 1 neu’n 3? Stêc gwaeldyd neu wedi’i goginio’n dda? Gadwch i ni wybod ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol!