facebook-pixel

Cyhoeddiad enillydd #BrechdanIrBrenin

Gor 16, 2020

Efallai y byddai rhai yn dweud nad yw’n bosib gwella ar frechdan stêc Cig Eidion Cymru; mae’n flasus ond yn syml, a’r cig eidion yn ganolog iddi.

Fodd bynnag, ar ôl llwyth o gynigion ar gyfer ein Her Brechdan Stêc ddiweddar, mae’n ymddangos bod y frechdan stêc syml wedi ysbrydoli nifer ac wedi cyrraedd lefel newydd. Ond dim ond un enillydd allai fod. Wrth roi arweiniad clir ar yr hyn sy’n gwneud brechdan stêc wych, dywedodd ein beirniad, Chris ‘Epic’ Roberts,

“Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn wych, rydyn ni wedi cael cynigion anhygoel ac mae’n ymddangos ein bod ni wir wedi dal dychymyg pobl Cymru yn ystod cyfnod rhyfedd ac anodd – wrth weld y cynigion yn llifo i mewn, roeddwn i eisiau rhoi cynnig arnyn nhw i gyd!

“Yn y diwedd rhoddon ni dri chystadleuydd teilwng ar y rhestr fer ond The Migrating Chef yw fy ffefryn i o drwch blewyn, roedd y cyfuniadau o flasau yn uno’n wych i greu brechdan epig; brechdan y bydda i’n sicr yn ei gwneud drosodd a throsodd! ”

Felly dyna ni. Brechdan surdoes stêc bavette sbeislyd The Migrating Chef sy’n dod i’r brig yng nghystadleuaeth y frechdan stêc Cig Eidion Cymru orau! Gwobr yr anrhydedd anhygoel hon yw pwll tân ac offer gwerth dros £400 yn ogystal â thaleb £100 i’w gwario ar Gig Oen a Chig Eidion Cymru gan un o aelodau ein Clwb Cigyddion. Llongyfarchiadau!

Diolch yn fawr iawn i’r ymgeiswyr ar ein rhestr fer – sef Llio Angharad a Nicky Batch, a Simon Turner – mae’r ddau gynnig wedi ennill taleb Clwb Cigyddion gwerth £100.

Eisiau blasu’r brechdanau? Dilynwch y ryseitiau isod i weld pa un yw eich ffefryn:

  1. Brechdan surdoes stêc bavette sbeislyd The Migrating Chef
  2. Gwledd stêc Llygad yr asen Wagyu Cymreig Llio Angharad a Nicky Batch
  3. Shawarma Llygad yr Asen Cymreig Simon Turner

Cadwch lygad am ragor o gystadlaethau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Cig Oen a Chig Eidion Cymru a hefyd ar e-bost drwy ymuno â’n cylchlythyr Teulu Cig Oen Cymru. Tan hynny, cymerwch olwg ar rai o’n hoff ddanteithion o’r gystadleuaeth:

Share This