facebook-pixel

Haf hirfelyn tesog yng nghwmni Cig Oen Cymru

Awst 6, 2021

Mae hi wedi bod yn flwyddyn (a mwy!) hir, ond wrth i gyfyngiadau ddechrau llacio eto, efallai eich bod chi’n meddwl ei bod yn hen bryd gwahodd eich teulu a ffrindiau draw am ychydig o fwyd ac ambell ddiod. A be well i ddod a phawb ynghyd yn yr haf na barbeciw yn y tywydd poeth?

Rydym yn gwybod mai’r ffordd orau o greu argraff ar eich ffrindiau yw gydag ychydig o Gig Oen Cymru wedi ei goginio i berffeithrwydd ond beth am ei wneud yn fwy arbennig fyth gyda set barbeciw newydd sbon i arddangos eich doniau coginio!

Felly i ddathlu lansiad ein tudalen gwefan newydd sbon llawn dop o ryseitiau, fideos ac awgrymiadau barbeciw anhygoel, rydym yn cynnig cyfle i un person lwcus ennill offer barbeciw, yn ogystal â hamper moethus o Gig Oen Cymru i’w roi arno, gwerth dros £400!

Y cyfan sydd angen ei wneud i fod â siawns o ennill y wobr wych yma yw dilyn y camau syml isod:

1. Ewch draw i’n sianel Instagram a hoffwch y neges, dilynwch ein tudalen a thagio ffrind y byddech yn ei wahodd draw ar gyfer eich barbeciw blasus cyntaf, neu…

2. Ymunwch â’n cylchlythyr Teulu Cig Oen Cymru i gael ryseitiau blasus a chynnwys ychwanegol yn syth i’ch blwch post

Telerau ac amodau’r gystadleuaeth ar gael yma.

Cofiwch fynd draw i’n tudalen barbeciw am fwy o ysbrydoliaeth, a dilyn yr awgrymiadau yn y fideo isod i gael y gorau o’ch cig y tro nesaf byddwch yn coginio ar y gril!

Share This