facebook-pixel

Rhowch y ‘bŵt’ i’r aderyn mawr y Nadolig hwn (gyda help Cig Eidion Cymru!)

Rhag 4, 2020

Er mai twrci sy’n draddodiadol adeg y Nadolig, beth am roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol?

Ydych chi’n chwilio am rywbeth trawiadol i’w roi yng nghanol eich bwrdd bwyd Nadoligaidd eleni? Wel, beth am Wellington Cig Eidion Cymru gyda saws port a madarch sy’n sicr o greu argraff?

Mae’r ffiled Cig Eidion Cymru, sy’n cael ei rholio mewn haenen o fadarch wedi’u torri’n fân, darnau tenau o prosciutto a’i lapio mewn blanced aur o grwst pwff menyn, yn barsel o berffeithrwydd.  Wedi’i weini â’r saws cyfoethog a thrwchus, mae’n gracer Nadolig go iawn.

Y peth gorau am y pryd hwn (yn ogystal â’r hwyl sydd i’w gael yn ei addurno â siapiau toes Nadoligaidd amrywiol) yw, fel twrci, gellir ei fwyta fel sbarion – sy’n wych os ydych chi’n coginio ar gyfer llai o bobl.

Pryd Nadoligaidd arall sy’n siŵr o blesio yw ein Cig Eidion Cymru wedi’i Frwysio gyda Llugaeron a Chnau Castan.  Mae’r caserol hwn, sy’n defnyddio stêc Cig Eidion Cymru i’w brwysio, yn cael trawsnewidiad Nadoligaidd. Wedi’i goginio mewn gwin coch, stoc cig eidion, llugaeron a chnau castan, mae’n gystadleuaeth dda i’r twrci arferol.  Gadewch i’r holl flasau asio gyda’i gilydd am ychydig oriau wrth i chi eistedd yn ôl ac ymlacio…

Mae’r pryd hwn yn berffaith wedi’i weini â thatws stwnsh a seleriac a llysiau gwyrdd wedi’u stemio.

Share This