facebook-pixel

Cyfle i ennill profiad ciniawa bythgofiadwy

Awst 30, 2022

Hoffech chi flasu bwyd nad ydych erioed wedi’i flasu o’r blaen, wedi’i baratoi ar eich cyfer gan un o gogyddion mwyaf llwyddiannus y wlad, ac aros yn un o leoliadau mwyaf prydferth Cymru?

Rydyn ni’n rhoi’r cyfle i chi ennill swper i ddau a llety am noson yn un o fwytai mwyaf unigryw’r DU, Bwyty ac Ystafelloedd Ynyshir ger Machynlleth.

Wrth y llyw yn y bwyty chwyldroadol hwn mae un o gogyddion mwyaf cyffrous y DU heddiw – Gareth Ward. Wedi’i ddisgrifio gan arweinlyfr Michelin fel rhywun sy’n “wirioneddol angerddol am gig, yn ei drin â gwybodaeth a gofal”, mae Gareth yn ymfalchïo yn y ffaith nad oes “dim rheolau, dim canllawiau” iddo ac mai’r cyfan y mae’n ei ofyn gan y rhai sy’n bwyta yn ei fwyty yw i ddod yno gyda ‘meddwl agored ac yn barod am brofiad bwyd ymdrochol.’

Mae Bwyty ac Ystafelloedd Ynyshir yn un o’r bwytai sydd wedi ennill mwyaf o wobrau yn y DU gyfan, gyda dwy seren Michelin, pum rhoséd AA, ac mae’n cael ei enwi ymhlith 5 uchaf y Good Food Guide (enwyd Gareth yn gogydd y flwyddyn ar gyfer 2019) ac, yn fwy diweddar, cafodd ei goroni’n Fwyty Cenedlaethol y Flwyddyn 2022.

Mae’r bwrdd wedi’i osod. Am beth ydych chi’n aros?

Sut i gystadlu

Dilynwch un o’r camau syml isod am y cyfle i ennill y wobr wych hon:

Ewch draw i’n sianeli cymdeithasol, hoffwch a rhannwch bost y gystadleuaeth, dilynwch ein tudalen a thagiwch ffrind y byddech chi’n mynd gyda chi i fwynhau’r profiad anhygoel hwn yn y sylwadau. Mae ein sianeli yma: Facebook, Instagram a Twitter.

Neu…

Ymunwch â’n cylchlythyr Teulu Cig Oen Cymru am ryseitiau blasus a chynnwys ychwanegol yn syth i’ch mewnflwch

I’r rhai sydd eisoes yn dilyn ein sianeli cymdeithasol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr Teulu Cig Oen Cymru a byddwn yn sicrhau bod yr holl danysgrifwyr presennol hefyd yn cael cyfle i ennill y wobr wych hon!

Telerau ac amodau llawn yma.

Sut mae’r cogyddion gorau yn paratoi a choginio Cig Oen Cymru?

Gwyliwch Gareth yma wrth iddo rannu ei farn unigryw ar ddewis, paratoi a choginio Cig Oen Cymru.

Share This