facebook-pixel

Ewch i grwydro i bedwar ban byd gyda Chig Eidion Cymru PGI

Tach 1, 2022

O glasuron teuluol cyfarwydd fel lasagne a chilli con carne i’r prydau mwy anarferol ac egsotig o leoliadau llai cyfarwydd, mae Cig Eidion Cymru PGI yn dyrchafu unrhyw bryd i’r lefel nesaf.

Mae Cig Eidion Cymru yn faethlon ac mae iddo flas unigryw, ond oeddech chi’n gwybod bod ganddo rinweddau eraill hefyd? Wel, y newyddion da yw, does dim rhaid i chi fynd i bellteroedd byd i’w darganfod.

Yn wir, mae’r cliwiau o’n cwmpas ym mhob man. Ewch i’ch siop gigydd, marchnad ffermwyr neu siop fferm leol ac fe welwch yr angerdd y tu ôl i’r cynnyrch. Heb gynnyrch lleol fel Cig Eidion Cymru i’w gynhyrchu a’i werthu, byddai ein heconomi wledig yn dirywio.

Mae manteision prynu cynnyrch lleol wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau gwledig. Pan fyddwch chi’n prynu’n lleol, nid yn unig rydych chi’n cadw ffermydd teuluol yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau, sef cynhyrchu cynnyrch maethlon o ansawdd, ond rydych chi hefyd yn helpu i gadw ein traddodiadau, ein diwylliant a’n hiaith yn fyw – hyn i gyd, heb dalu crocbris.

Ewch ar daith o gwmpas ein ryseitiau wedi’u hysbrydoli gan fwyd y byd, wedi’u hail-greu â Chig Eidion Cymru.

O brydau cynnes gaeafol fel cawl pasta bolognese Cig Eidion Cymru a pastai sbarion Cig Eidion Cymru bourguignon i ffefrynnau teuluol fel macaroni a chaws gyda Chig Eidion Cymru wedi’i dynnu a koftas Cig Eidion Cymru gyda llysiau cudd, byddwch ar y trywydd iawn i goginio’ch ffordd o amgylch y byd.

Os ydych chi’n chwilio am fwyd cartrefol i’w rannu gyda theulu a ffrindiau, rhowch gynnig ar ein plât rhannu barbacoa Cig Eidion Cymru cartref swmpus neu ein brisged Cig Eidion Cymru araf mewn saws cyfoethog a sticlyd.

Gwylio’r pêl-droed? Codwch i frig y gynghrair gyda phrydau fel ein enchiladas Cig Eidion Cymru, katsu Cig Eidion Cymru, baguette peli Cig Eidion Cymru neu ddarnau llosg brisged Cig Eidion Cymru; byddwch yn sgorio llwyth o goliau bwyd gydag un ergyd!

Mae Cig Eidion Cymru mor hyblyg mewn cymaint o fwydydd, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer coginio mewn sypiau. Beth am baratoi prydau Cig Eidion Cymru ymlaen llaw? Bydd rhewi prydau fel goulash Cig Eidion Cymru neu madras Cig Eidion Cymru yn eich helpu i arbed amser ar nosweithiau prysur yn ystod yr wythnos neu ar gyfer pryd funud olaf i griw o bobl ar y penwythnos.

Sut bynnag y byddwch yn dewis mwynhau Cig Eidion Cymru, mae’n dda gwybod eich bod yn gwneud eich rhan dros yr hyn sy’n wirioneddol bwysig, yma, ar garreg eich drws.

Bwyd sy’n gwneud i chi wenu ar garreg eich drws…

 

10 awgrym ar gyfer pryd penigamp Cig Eidion Cymru

Pan fyddwch chi’n gwybod sut i ddewis, paratoi a choginio Cig Eidion Cymru, bydd y byd yn eiddo i chi…

 

1. Ble gallaf brynu Cig Eidion Cymru?

Mae Cig Eidion Cymru ar gael yn eang mewn siopau cigydd, siopau fferm ac archfarchnadoedd yng Nghymru.

2. Sut mae dewis y darn cywir o gig eidion?

Dewiswch y darnau o gig eidion sydd fwyaf addas ar gyfer y pryd dan sylw. Mae darnau ar yr asgwrn yn dargludo gwres ac yn ychwanegu blas, tra bod gan ddarnau heb asgwrn fel arfer haen o fraster dros yr wyneb, a fydd yn toddi i ychwanegu blas a chadw’r darn yn suddlon.

Mae darnau brau o gig eidion yn fwy addas ar gyfer coginio cyflym e.e. stecen ffiled, syrlwyn, ffolen, llygad asen ac ati. Ar gyfer dulliau coginio araf defnyddiwch ddarnau fel cig eidion i’w frwysio, coes las, bochau, cynffon ychen a brisged.

3. Pa liw ddylai cig eidion fod?

Mae cig eidion sydd wedi aeddfedu am gyfnod hirach yn tueddu i fod yn dywyllach, yn gadarnach ac yn llawn blas. Gall lliw cig neu fraster amrywio, ond nid yw hyn yn effeithio ar ansawdd y bwyta.

4. Beth yw ystyr ‘brithder braster uchel’ mewn cig eidion?

Mae cynnwys brithder braster uchel fel arfer yn dangos bod y braster yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal trwy’r cig, gan ychwanegu mwy o flas.

5. Pryd mae angen ychwanegu sesnin at gig eidion?

Dylech sesno cyn coginio. Os ydych chi’n ychwanegu halen, coginiwch ar unwaith, gan y gall dynnu lleithder o’r cig, gan ei wneud yn galetach. Fodd bynnag, wrth goginio stêcs, mae’n well gan lawer sesno ar ôl coginio.

6. Sut mae ychwanegu blas at gig eidion a’i wneud yn fwy brau?

Bydd marinadu’r cig eidion am sawl awr neu fwy cyn ei goginio yn ei dyneru ac yn rhoi mwy o flas iddo – yn enwedig wrth ddefnyddio darn caletach.

7. Sut mae dweud a yw cig eidion wedi’i goginio drwyddo?

Defnyddiwch thermomedr cig os ydych am wirio tymheredd y cig yn gywir, a’i fod wedi’i goginio at eich dant.

8. Pa olew ddylwn i ei ddefnyddio wrth ffrio cig eidion?

Mae olewau di-flas a niwtral fel olew blodyn yr haul, llysiau ac olew had rêp yn gweithio’n dda wrth ffrio cig eidion ac fe’ch cynghorir i roi olew ar y cig cyn ei goginio.

9. Sut mae atal cig eidion rhag llosgi?

Gadewch i’r cig gyrraedd tymheredd yr ystafell cyn ei goginio gan fod hyn yn helpu i ddosbarthu gwres yn fwy cyfartal ac yn lleihau’r siawns o losgi.

10. Pam fod angen gorffwys cig eidion ar ôl ei goginio?

Os ydych chi’n rhostio darn o gig eidion neu’n ffrio/grilio stêc, gorffwyswch y cig cyn ei weini, gan fod hyn yn caniatáu i ffibrau’r cig ymlacio a’r suddion i ddosbarthu’n gyfartal. Yna bydd y cig yn suddlon a brau.

 

Prynu’n lleol. Meddwl yn fyd-eang.

Dewch â blasau’r byd i’ch bwrdd gyda Chig Eidion Cymru blasus, wedi’i gynhyrchu’n lleol. Ewch draw i’n tudalen Prynu’n lleol. Meddwl yn fyd-eang. am ychydig o ysbrydoliaeth blasus.

Share This