facebook-pixel

Ewch i gael blas ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol newydd

Awst 12, 2020

Ydych chi’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng syrlwyn ac ystlys las neu goes a lwyn?

Mae aelodau arbenigol ein Clwb Cigyddion yn gallu gwneud hynny’n iawn a gallan nhw eich helpu chi i ddewis y toriadau a’r darnau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI gorau. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yng nghalon eu cymunedau a thrwy brynu gan un o’n haelodau gallwch fod yn hyderus yn ansawdd eu cynnyrch.

Felly, i’ch helpu i ddysgu mwy am y gwaith da maen nhw’n ei wneud, rydyn ni wedi lansio dwy sianel cyfryngau cymdeithasol newydd ar Instagram a Facebook lle gallwch chi ddod i adnabod aelodau ein Clwb Cigyddion, cael awgrymiadau arbenigol a mynediad at gystadlaethau unigryw. Byddwch chi’n arbenigwr mewn dim o dro!

Cig ar yr asgwrn 2

Ar ôl cryn alw, mae ail rifyn cylchgrawn arbennig y Clwb Cigyddion wedi cyrraedd y silffoedd ac yn barod i gael ei gasglu gan eich aelod lleol. Mae’n llawn ryseitiau blasus a llawer iawn mwy, felly ewch draw i’ch siop leol a bachwch eich copi am ddim cyn iddyn nhw i gyd ddiflannu! Mae rhestr lawn o aelodau’r Clwb Cigyddion ar gael yma.

Amser am gystadleuaeth!

Teimlo’n lwcus? Rydyn ni’n cynnig cyfle i chi ennill taleb £50 i’w gwario yn siop eich aelod agosaf o’r Clwb Cigyddion. Yn syml, dilynwch ni ar Instagram neu Facebook cyn 14 Medi am y cyfle i ennill. Pob lwc!

#CigyddionCampus

Telerau ac Amodau llawn ar gael yma.

Share This