facebook-pixel

Cipio gwobr gyda gwledd gig gofiadwy

Meh 13, 2022

Aeth y cogydd barbeciw a seren y sgrin Chris ‘Flamebaster’ Roberts draw i gartref yng Ngwynedd yn ddiweddar i goginio gwledd wych fel rhan o gystadleuaeth flasus dros ben.

Bwriad her boblogaidd Brechdan i’r Brenin 2 oedd gwahodd pobl i greu eu brechdan stêc ddelfrydol, ac roedd mwy o gategorïau a gwobrau nag erioed, yn gyfle perffaith i arddangos hyblygrwydd ac ansawdd Cig Eidion Cymru PGI.

Wedi’i lansio gan Hybu Cig Cymru i gyd-fynd â’r adeg honno o’r flwyddyn pan mae pawb yn estyn eu hoffer barbeciw a llacio’r cyfyngiadau yn sgil Covid-19, roedd y gystadleuaeth yn gyfle perffaith i fwynhau bwyd gwych tra hefyd yn cefnogi ein cigyddion a’n ffermwyr lleol yn dilyn blwyddyn heriol.

Gyda’r tymor barbeciw ar ein gwarthaf unwaith eto, aeth Chris, sy’n enwog am ei ryseitiau barbeciw blasus, draw i goginio gwledd o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru lleol i enillydd Brechdan i’r Brenin 2, Iestyn Parry o Golan, ger Porthmadog.

Esboniodd Chris, a oedd hefyd yn beirniadu’r gystadleuaeth yn ei blwyddyn gyntaf, pam mai cais Iestyn gipiodd y brif wobr: “Cefais fy syfrdanu gyda’r cynigion, ond roedd hon, yn arbennig, yn diferu o bopeth dwi’n edrych amdano mewn brechdan stêc – gwead, blas a chymeriad. Roedd yn fawr ac yn feiddgar, a gwnaeth y ffordd roedd y cynnyrch Cymreig yn cydweithio’n berffaith argraff fawr arnaf! Pe baech yn gallu rhoi Cymru mewn brechdan, dyna sut y byddwn yn dychmygu y byddai’n blasu. Rhyfeddol. Rhoddodd Iestyn yr holl ymdrech i greu’r frechdan wych hon a nawr dwi’n talu’r gymwynas yn ôl iddo.”

Heb os, roedd cais buddugol Iestyn o ‘Stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru wedi’i socian mewn rym, gyda cheddar marchruddygl a phersli a gwymon sych mewn ciabatta wedi’i dostio’ yn drawiadol.

Wrth ennill y gystadleuaeth, dywedodd Iestyn: “Pan glywais fy mod wedi ennill yr her, roeddwn wrth fy modd. Roedd creu fy nghampwaith yn dipyn o hwyl, ond a dweud y gwir, allwch chi ddim mynd o’i le gyda chynhwysion Cymreig – maen nhw’n siarad drostynt eu hunain – yn enwedig Cig Eidion Cymru. Yn fy marn i, maen nhw ymhlith y gorau. Pam fyddech chi’n difetha brechdan stêc gydag unrhyw hen stecen? A Chris yn dod draw i goginio gwledd i mi, a rhannu ei arbenigedd, wel, mae’n rhywbeth fydd wedi serio ar fy nghof am byth!”

Ydych chi’n barod am y tymor barbeciw? Oes angen ysbrydoliaeth arnoch chi?

Edrychwch ar ein tudalen barbeciw yma am awgrymiadau defnyddiol a ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru tanbaid. Gallwch hefyd wylio Chris ‘Flamebaster’ Roberts ar waith, yn ein cyfres o ryseitiau fideo unigryw… nawr, os nad yw hynny’n tanio’ch diddordeb…

Share This