facebook-pixel

5 ffordd gyda chig eidion rhost

Ebr 19, 2024

Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor amlbwrpas y gall Cig Eidion Cymru fod, ac yn y cyfnod cyn Wythnos Cig Eidion Prydain Fawr (23ain – 30ain Ebrill), roeddem yn meddwl ei fod yn gyfle gwych i arddangos rhai o’n hoff ryseitiau cig eidion rhost, gan ddangos iddych sut i wneud y rhan fwyaf o’ch Cig Eidion Cymreig o safon uchel. Rydyn ni yma i’ch ysbrydoli gyda detholiad o ryseitiau Cig Eidion Cymru hyfryd – o ryseitiau i’w rhannu gyda ffrindiau a theulu, prydau canol wythnos gan ddefnyddio bwyd dros ben o’r penwythnos, a thro anarferol i gyfuniad traddodiadol i gymysgu pethau ychydig yn ystod yr wythnos. Darganfyddwch 5 ffordd gyda Chig Eidion Cymru isod.

 

Slow cooked beef brisket. Slow cooked Welsh Beef recipesBrisged Cig Eidion Cymru wedi’i choginio’n araf

Dyma rysáit brisged cig eidion Cymreig syml ond hynod foddhaol, ac mae’n ganolbwynt perffaith ar gyfer dod at eich gilydd gyda ffrindiau – yn syml, weiniwch gyda baguettes crystiog, cynnes, gherkins a winwns wedi’u ffrio a gadewch i bawb helpu eu hunain! Bwyd cysurus ar ei orau.

 

 

 

Pulled Welsh Beef mac and cheeseMacaroni a chaws gyda Chig Eidion Cymru wedi’i dynnu

Os oes gennych unrhyw brisged dros ben (mae’n werth arbed rhywfaint – credwch ni!), yna pa ffordd well o ddefnyddio’r cyfan nag i chwipio’r ddysgl macaroni a chaws Cig Eidion Cymru hynod flasus hwn at ei gilydd? Pryd o fwyd perffaith ar gyfer canol yr wythnos y bydd yr holl teulu yn ei fwynhau gydag ychydig iawn o amser paratoi – bydd hwn yn ychwanegiad rheolaidd at eich repertoire prydau canol wythnos mewn dim o amser!

 

Welsh Beef barbacoa recipe. Beef sharing platter. Easy Welsh Beef recipePlât rhannu barbacoa Cig Eidion Cymru

Rysáit brisged wedi’i coginio’n araf bendigedig sy’n berffaith ar gyfer amser bwyd hamddenol i’r teulu neu ychwanegiad gwych at ginio gyda ffrindiau, mae’r plat barbaco Cig Eidion Cymreig hwn yn ticio’r blychau i gyd. Blas bendigedig? Tic! Hawdd i’w coginio? Tic! Yn faethlon ac yn llenwi? Tic!

 

 

 

Piquant Welsh Beef and Yorkshire pud burritoBurrito Cig Eidion Cymru a phwdin Efrog

Dyma un o’n ffefrynnau. Mae’r rysáit Cig Eidion Cymreig yma’n ffordd berffaith o ddefnyddio unrhyw gig eidion sydd dros ben o’ch rhost dydd Sul, a thro wahanol (a blasus) ar ginio rhost traddodiadol. Os oes angen rhywfaint o fwyd cysurus arnoch chi, yna mae’n rhaid rhoi cynnig ar hyn!

 

 

Herb crusted roast Welsh Beef carved on a board

Cig Eidion Cymru ac iddo grwst perlysiau

Mae’r rysáit hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw toriad o Gig Eidion Cymru ac yn syml i’w ail-greu gartref. Mae ychwanegu crwst perlysiau blasus yn ychwanegu blas ychwanegol, heb amharu ar flas anhygoel eich Cig Eidion Cymreig. Perffaith ar gyfer rhostiau dydd Sul, gweinwch gyda’r holl trimins ar gyfer y boddhad mwyaf!

 

 

 

Beth yw eich hoff rysáit Cig Eidion Cymru? Byddem wrth ein bodd yn clywed amdano a gweld eich lluniau – tagiwch @PGIWelshBeef ar Instagram i rannu eich hoff ryseitiau.

 

Angen mwy o ysbrydoliaeth? Edrychwch ar ein cyfoeth o ryseitiau Cig Eidion Cymreig blasus yma.

Share This