facebook-pixel

Dydd Gŵyl Dewi: ‘Gwnewch y pethau bychain’

Chw 23, 2024

Mae diwrnod cyntaf mis Mawrth yn ddiwrnod arbennig yng Nghymru wrth i ni dalu teyrnged i’n nawddsant, Dewi Sant.

Mae plant ysgol yn gwisgo i fyny mewn gwisgoedd o hanes a thraddodiad hir Cymru. Mae rhai plant yn cael eu hysbrydoli gan arwyr hanesyddol fel Owain Glyndŵr – neu am olwg fwy modern – crys rygbi Cymru, tra bod eraill yn ymfalchïo mewn gwisgo bonedau, sgertiau brethyn, siolau a chapiau. Pa un bynnag yw’r hoff wisg, anaml y’i gwelir heb genhinen Bedr ddisglair neu genhinen hyfryd.

A sôn am gennin, a wyddech chi fod Dewi Sant, a aned yn ystod storm ffyrnig yn y flwyddyn 500 OC ar ben clogwyn yn Sir Benfro, yn ôl y chwedl, wedi byw ei oes gyfan ar ddiet o ddŵr a chennin? Roedd y diet caeth hwn yn amlwg yn gwneud lles i Dewi Sant gan iddo fyw bywyd hir – dros 100 mlynedd!

Fodd bynnag, nid cennin yn unig yw etifeddiaeth Dewi Sant. Roedd yn unigolyn doeth a roddai gyngor da. Yn ystod pregeth ychydig cyn ei farwolaeth ar y 1af o Fawrth, dywedodd wrth ei ddilynwyr am ‘wneud y pethau bychain mewn bywyd’.

Pa ffordd bynnag rydych chi’n dehongli’r geiriau doeth hyn, yn y byd cyflym hwn rydyn ni’n byw ynddo, mae’n beth da pwyso a mesur a chymryd y pwysau oddi ar ein hunain – i gadw pethau’n syml. Yn yr un modd, mae’n braf gwneud y pethau bychain er mwyn eraill, a dod â llawenydd iddynt, fel gwneud bwyd blasus.

Beth am ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a rhoi gwledd o brydau blasus Cymreig i’ch teulu a’ch ffrindiau?

Beth sy’n cael ei fwyta’n draddodiadol ar Ddydd Gŵyl Dewi?

Mae dewis eang o fwyd i’w fwynhau ar Ddydd Gŵyl Dewi. Cig Oen Cymru, cawl, bara lawr, cennin a chaws pob Cymreig yw’r prydau sawrus mwyaf adnabyddus yn gyffredinol, tra bod bara brith a phice ar y maen blasus yn berffaith ar gyfer danteithion melys traddodiadol.

Pa brydau alla i eu gwneud gyda Chig Oen Cymru?

Caiff cawl ei wneud yn draddodiadol gyda Chig Oen Cymru, a dyma’r pryd perffaith ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae’n llawn dop o ysgwydd neu wddf Cig Oen Cymru suddlon a llysiau blasus gan gynnwys cennin hyfryd (wrth gwrs!), mae’n bryd hawdd i’w baratoi ac mae’n mynd yn bell. Rhowch gynnig ar y rysáit yma am Cawl Cig Oen Cymru traddodiadol gwych. Neu, ewch am yr Hotpot Cig Oen Cymru a chaws pob hwn i gael gwledd drawiadol ar Ddydd Gŵyl Dewi.

A allaf fwyta cig eidion ar Ddydd Gŵyl Dewi?

Er bod Cig Oen Cymru yn aml yn cael ei ystyried yn draddodiadol ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae Cig Eidion Cymru yr un mor flasus. Mae Cig Eidion Cymru rhost yn gwneud swper syfrdanol ar Ddydd Gŵyl Dewi fel y Cig Eidion Cymru ac iddo grwst perlysiau anhygoel yma. Neu, rhowch gynnig ar Stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru gyda madarch a chaws pob gan Matt Waldron. Ar y llaw arall, am rywbeth ffwrdd â hi, llawn hwyl, rhowch gynnig ar y Cacennau Cwpan Cig Eidion Cymru hyn.

Fel cig oen, mae cig eidion wedi cael ei ffermio yng Nghymru ers canrifoedd. Roedd gyrru gwartheg yn rhan enfawr o draddodiad ffermio’r blynyddoedd a fu, lle’r oedd criw cadarn a chryf o’r enw porthmyn yn arfer mynd â gwartheg a da byw eraill i farchnadoedd ar hyd a lled y wlad. Honnir bod gyrru gwartheg wedi dechrau yng Nghymru, cyn i yrru gwartheg gyrraedd UDA.

Pam fod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mor arbennig?

Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gynnyrch tirwedd hardd unigryw sydd wedi’i bendithio â’r cynhwysion naturiol puraf ers canrifoedd – aer glân, dŵr ffynnon melys, glaswelltir ffres a grug persawrus. Mae’r cyfuniad hwn o gynnyrch gorau byd natur, ynghyd ag arferion ffermio traddodiadol sy’n ymestyn dros genedlaethau, wedi helpu i gynhyrchu cig o ansawdd uchel sy’n cael ei fwyta ledled y byd.

I gydnabod y rhinweddau unigryw hyn, mae Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi dyfarnu statws daearyddol gwarchodedig i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Mae hyn yn rhoi Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn yr un cae â Ham Parma a chynhyrchion arbenigol eraill a chynhyrchion enw bwyd gwarchodedig o bedwar ban byd. Mae hynny’n rhywbeth i fod yn falch iawn ohono.

A oes gan fwydydd eraill yng Nghymru statws PGI?

Er bod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi cael statws daearyddol gwarchodedig i gydnabod y llu o rinweddau sy’n eu nodi fel rhai unigryw o gymharu â’u cystadleuwyr, mae hefyd yn werth dathlu rhai o’r cynhyrchion bwyd a diod Cymreig eraill sydd wedi derbyn anrhydeddau tebyg. Mae Tatws Cynnar Sir Benfro (PGI), Halen Môn (PDO) a Bara Lawr Cymru (PDO) ac yn fwy diweddar Cennin Cymreig (PGI), yn ddim ond rhai o’r cynhyrchion blasus sy’n ategu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Cliciwch yma am restr lawn o gynnyrch Cymreig sydd â statws enw bwyd gwarchodedig.

Yn olaf…

Bara Lawr Cymru – mae’n sicr yn hollti barn. Rhai yn ei garu, rhai yn ei gasáu. Os oes angen eich perswadio, rhowch gynnig ar y rysáit Cig Oen Cymru gyda saws bara lawr a pherlysiau yma. Dewch ymlaen, byddwch yn ddewr a chofleidiwch eich Glyndŵr mewnol!

Share This