facebook-pixel

Gwnewch i’r haf bara fymryn yn hirach gyda syniadau barbeciw o bedwar ban y byd

Awst 21, 2020

Gyda’r haf yn dechrau dirwyn i ben, efallai mai dim ond ychydig o gyfleoedd sydd ar ôl i danio’r barbeciw a choginio Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI blasus yn yr awyr agored.

Er mwyn helpu dod â dŵr i’r dannedd, rydyn ni wedi teithio i bedwar ban i gael gafael ar rai o draddodiadau mwyaf nodedig y barbeciw ledled y byd. Darllenwch nhw isod yna ewch i’n tudalen ryseitiau  ar gyfer ryseitiau barbeciw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru drwy dicio’r bocs hidlo ‘Barbeciw’.

 

Yr Ariannin

Daw’r traddodiad Asado gan gauchos (neu gowbois) y 19eg ganrif ac mae bellach yn cael ei fwyta gan bobl ar hyd a lled De America, ond yn arbennig yn rhanbarth Patagonia yr Ariannin. Fel arfer, mae’r cig yn cael ei goginio ar dân neu gril agored, lle mae oen cyfan yn cael ei goginio’n araf ar groes uwchben glo am oriau, ac yn cael ei weini â chymysgedd sbeisys a pherlysiau fel chimichurri. Mae ein llysgennad Cig Oen Cymru PGI ni, Chris Roberts, yn enwog am ddefnyddio’r dull hwn o goginio Cig Oen cyfan gan ei fod yn creu cig brau gyda blas ysgafn, myglyd.

De Affrica

Talfyriad o braaivels yw braai, ac mae’n draddodiad ymysg y gymuned Afrikaans ond yn cael ei drysori ar draws cenedl yr enfys. Mae’r barbeciw hwn yn greiddiol i unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol, ac mae ganddo ei ddiwrnod ei hun, hyd yn oed – Diwrnod Braai, sy’n ddathliad o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog De Affrica. Mae’r braais fel arfer yn cynnwys amrywiaeth o gigoedd wedi’u coginio dros lympiau pren neu siarcol, gan gynnwys cig oen sbeislyd traddodiadol ar sgiwerau a elwir yn sosatie, a boererwors, selsig traddodiadol o Dde Affrica sydd fel arfer yn cynnwys cig eidion.

Awstralia

Gelwir y barbeciw annwyl yn ‘barbie’ yn Awstralia, ac mae’r ffordd gyffredin iawn hon o goginio fel arfer yn cynnwys golwythion cig oen, stêcs a snags (sef selsig). Mae barbeciws mor gyffredin fel bod rhai nwy neu drydan sydd am ddim i’w defnyddio yn olygfa gyffredin mewn parciau dinesig, ac mae nifer o bobl yn dewis tanio’r barbeciw ar ddydd Nadolig yn hytrach na choginio cinio rhost traddodiadol.

Corea

Nid yw poblogrwydd bwyd barbeciw Corea wedi taro Cymru yn llwyr eto, ond efallai y bydd yn cyd-fynd yn berffaith â’n gaeafau oer, gwlyb ni, oherwydd caiff ei goginio dan do fel arfer! Mae barbeciw Corea yn ddigwyddiad cymdeithasol i nifer o bobl sy’n mynd  fwytai, wrth i westeion grilio eu cig eu hunain a’i ddipio mewn gwahanol sawsiau yng nghanol y bwrdd. Mae bulgogi, neu ‘gig tân’, yn cynnwys tafelli cig eidion tenau wedi’u mwydo mewn saws soi, sesame a winwns bach, ac mae’n cael ei weini gyda llysiau a pherlysiau.

India

Wedi’i goginio yn y tandoor enwog, ffwrn glai siâp cloch, mae’r barbeciw hwn yn enwog drwy’r byd ac mae’n rhoi blas arbennig ar rai bwydydd Indiaidd. Mae’r tandoor yn dyddio’n ôl dros 5,000 o flynyddoedd, ac nid yw’r ffordd y caiff ei ddefnyddio ar gyfer barbeciw wedi newid llawer yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall y siarcol neu’r tân coed gyrraedd tymheredd o dros 900°F ac mae’r cig sydd wedi’i fwydo (cyw iâr neu gig oen fel arfer) yn cael ei goginio ar sgiwerau dros y tân; mae’r braster sy’n diferu ar y glo yn mygu’r cig, ac yn rhoi blas unigryw iddo.

Twrci

Mae’r siop cebabs bellach yn rhan annatod o nifer o’n strydoedd mawr, ond mae ei darddiad yn cynnwys mwg a siarcol ac mae’r cebab yn rhan annatod o fwyd y Dwyrain Canol. Mae fersiwn Twrci, shish, yn bryd cyffredin ar farbeciw Twrcaidd, lle mae darnau o gig oen neu gyw iâr yn cael eu torri’n giwbiau a’u grilio ar sgiwer. Ymysg y prydau eraill sy’n cael eu coginio ar farbeciw Twrcaidd mae kofte (cebab briwgig) a sucuk, selsigen draddodiadol o Dwrci.

Brasil

Yn debyg i Asado yr Ariannin, cychwynnodd y Churrasco ei fywyd gyda chowbois Brasil. Mae’r dull barbeciw hwn yn enwog am greu llwyth o gig trwy goginio cig eidion ar sgiwerau mawr sydd wedyn yn cael eu gosod ar blatiau wrth y bwrdd. Efallai yn fwy nag unrhyw farbeciw arall, mae’r Churrasco yn ymwneud â digonedd – felly mae angen boliau gwag cyn cychwyn ar y wledd Frasilaidd enfawr hon!

UDA

Gellir dadlau mai’r Americanwyr yw brenhinoedd mygu bwyd, oherwydd mae gan yr Unol Daleithiau bedair prif arddull o goginio dros dân; gyda Gogledd Carolina a Memphis yn cynrychioli’r dulliau hynaf a Kansas City a Texas yn aml yn defnyddio mwy o gig eidion. Mae barbeciw Americanaidd yn dueddol o ddilyn rheolau gwahanol i wledydd eraill, gyda’r dechneg coginio isel ac araf poblogaidd. Drwy goginio’r cigoedd yn ofalus dros gyfnod hir, mae barbeciws Americanaidd yn creu prydau blasus dros ben sy’n tynnu dŵr i’r dannedd ac sydd fel arfer yn cynnwys brisged, asennau neu ysgwydd ochr yn ochr â’r byrgyrs a’r selsig cyfarwydd.

Share This