facebook-pixel

Cig Oen Cymru yn derbyn sylw gan gogydd teledu yn ystod Wythnos Gyrri

Hyd 6, 2020

Mae’n Wythnos Gyrri ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda’r Cogydd Todiwala, sy’n ffefryn ar sioeau coginio ar y teledu ac sy’n adnabyddus am ei ddawn anhygoel wrth ddefnyddio sbeisys i greu blas.

Mae Cyrus, sydd hefyd yn teimlo’n angerddol na ddylid defnyddio ond y cynhwysion gorau posib, gan gynnwys defnyddio’r cig coch gorau yn y byd, wedi creu Khara Gos Ni Biryani, rysáit Cig Oen Cymru biryani i chi roi cynnig arni gartref.

Dywedodd Cyrus, “Yn ystod rhan helaeth o’m gyrfa, rwyf wedi canolbwyntio ar rannu blas anhygoel bwydydd o India. Mae hyn yn deillio o’r sbeisys sy’n cael eu defnyddio’n ofalus, ynghyd â defnyddio cynhwysion gorau gan gynhyrchwyr lleol a chadw llygad ar ddiogelu’r amgylchedd.

“Rwy’n ymfalchïo ’mod i’n gallu cefnogi diwydiant cig coch y DG yn ystod yr Wythnos Gyrri.  Mae’r cyrri cig oen a gafodd ei greu gennyf yn flasus dros ben ac mae’r rysáit yn hawdd iawn ei dilyn.  Mae’n berffaith ar gyfer pryd o fwyd ganol-wythnos neu fel rhan o wledd Indiaidd i’w mwynhau gartref.”

Felly, gyda phopeth yn ymwneud â chyrri yr wythnos hon, mae’n esgus perffaith i fod yn frwdfrydig yn y gegin. Gwyliwch y fideo i weld sut mae Cyrus yn mynd ati a gallwch darllen y rysáit yn ei gyfanrwydd yma. Mwynhewch!

Share This