facebook-pixel

John Torode yn ‘Mynd Amdani’ gyda Chig Oen Cymru

Medi 18, 2020

Rydyn ni wrthi’n cydweithio gyda’r cogydd enwog John Torode i hyrwyddo hyblygrwydd ac ansawdd ein cig oen blasus, lleol.

Mae’r ymgyrch ‘Cig Oen – Beth Amdani?’, sy’n rhedeg drwy gydol mis Medi a mis Hydref, yn tynnu sylw at fanteision iechyd, amgylcheddol a chynaliadwyedd cig oen a fagwyd yn lleol. Felly, pan welwch chi logo PGI ar Gig Oen Cymru, mae’n eich sicrhau bod y cig o’r ansawdd gorau. Mae’r anifail wedi cael ei eni a’i fagu yng Nghymru a’i gynhyrchu gan ffermwyr sy’n defnyddio arferion gorau mewn dulliau lles a chynhyrchu anifeiliaid.

Helpodd John, cogydd sy’n adnabyddus am hybu cynhwysion o safon, gychwyn y dathliadai yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ar gyfer Wythnos Caru Cig Oen. Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae Wythnos Caru Cig Oen yn cael ei dathlu gan bobl ledled y wlad sy’n dwlu ar gig oen ac mae’n tynnu sylw at y rhinweddau cynaliadwy y gall cig oen eu cynnig wrth gynllunio prydau wythnosol.

Meddai John, “Rwy’n falch iawn o gydweithio gydag AHDB, QMS a HCC i helpu’r genedl i ddathlu Wythnos Caru Cig Oen. Cig oen yw’r cynhwysyn perffaith ar gyfer pryd cyflym, blasus ac amlbwrpas ganol wythnos, sy’n llawn dop o flas. Mae’n fwy na dim ond cig blasus i fynd gyda’ch cinio dydd Sul, gallwch drawsnewid eich cig oen yn gyflym yn bryd blasus unrhyw bryd, boed yn koftas cig oen gyda tzatziki a bara fflat wrth wneud y gorau o’r tywydd braf y tu allan, neu tacos cig oen gyda zatar a nionod picl os ydych chi’n chwilio am fersiwn hwyliog o glasur teuluol.”

I ddangos ei gefnogaeth i’r ymgyrch Cig Oen – Beth Amdani? ac i ddathlu Cig Oen Cymru, mae John wedi creu ryseitiau cig oen flasus, cyflym a syml i chi roi cynnig arni:

Cytledi Cig Oen mewn Briwsion

Tacos Cig Oen Cymru sbeislyd gyda hufen wedi’i suro, afocado a phicls

Cig Oen Cymru rhost gydag orzo ac olewydd (Groegaidd)

Gallwch weld y tri rysáit ar ein tudalennau ryseitiau, lle ceir hefyd fwy o syniadau blasus sy’n dod â dŵr i’r dannedd. Felly, wrth gynllunio prydau bwyd yr wythnos nesaf, beth am roi cynnig ar Gig Oen Cymru?

Share This