facebook-pixel

Taniwch y barbeciw gyda chebabs Cig Oen Cymreig sbeislyd

Meh 3, 2024

Dathlwch wythnos genedlaethol y BBQ ( 3ydd – 9fed Mehefin)

Eleni, mae’r 3ydd – 9fed Mehefin yn nodi’r 28ain Wythnos Genedlaethol Barbeciw – wythnos o ddathlu hoff brofiad bwyta’r wlad yn ystod yr haf. Mae barbeciw nid yn unig yn gyfle i wneud y gorau o’r heulwen neu i gael ffrindiau a theulu o gwmpas, ond maent hefyd yn gyfle i ddangos eich gallu i goginio gyda fflam. Boed glaw neu heulwen, does dim gwadu bod cael barbeciw yn draddodiad haf cenedlaethol. Yr wythnos berffaith i brofi eich sgiliau barbeciw, felly anghofiwch gor-goginio’r byrgyrs a ffarweliwch â selsig wedi’u llosgi a dangoswch eich gallu Barbeciw gyda’r cebabs Cig Oen Cymru PGI sbeislyd hyn – sy’n sicr o fod yn boblogaidd gyda phawb.

Mae’r rysáit arbennig hwn yn arddangos gwddf Cig Oen Cymru – toriad y mae llawer ohonom yn ansicr ynghylch sut i’w goginio. Fodd bynnag, mae’r cebabs hyn yn rhoi syniad hawdd o sut i goginio’r toriad hwn o Gig Oen Cymru nad yw’n cael ei werthfawrogi’n ddigon ac ychydig o ysbrydoliaeth arloesol i roi gweddnewidiad o’r Dwyrain Canol i’ch barbeciw.

Mae’r cebabs Cig Oen Cymru sbeislyd hyn yn defnyddio powdr sumac blasus yn eu marinâd – sbeis sy’n tarddu o fwyd y Dwyrain Canol sydd â blas sudd lemon. Mae Sumac yn gwbl addas i roi blas ychwanegol i Gig Oen Cymru ac er gwaethaf ei wreiddiau bydol, mae powdr Sumac i’w gael yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd neu ar-lein.

Wedi’i weini â chwscws blodfresych, mae’r pryd blasus hwn yn ysgafn ac yn llawn ffrwythau a llysiau maethlon gyda shibwns, bricyll sych a hadau pomgranad i gyd yn ychwanegu lliw a diddordeb at y pryd haf perffaith hwn.

Rhowch gynnig arni dros wythnos y Barbeciw a gadewch i ni wybod beth yw eich barn drwy dagio ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol – @PGIWelshLamb ar Instagram a @WelshLamb ar Facebook.

 

Share This